Dona.

Pentraeth.


Places of Interest

Walk's Infomation

Main Page.

Dona

Dona Walk. Taith Dona.
DONA (clockwise direction)

PENTRAETH CAR PARK – COCH Y MIERI
Walk downhill out of the car park along the lane. Cross the river Nodwydd and turn right along a track. Follow this track down towards the sea. Note the interesting old tower on the way down. Coming out on the beach turn right and go over the bridge to meet a lane. Turn right and shortly left by a phone box. Follow the lane right up to the end, passing a driveway going off left. At a junction of tracks head left along a driveway. Follow this track to the end. Proceed through a number of fields running parallel with the coast to come out at Coch y Mieri farm.

COCH Y MIERI – LLANDDONA VILLAGE
Walk down the drive and turn right up the lane. Just before Wern hall turn left down a track past some houses, cross a stream into a wooded area. After a short distance, bear right out of the wood and go up over some scrubland. Negotiating several stiles go up over a steep hill, through some wet ground up to a stone stile and way-marker. Bear left, joining a track, past the mast down to Llanddona village . You can find refreshments in Llanddona as well as a telephone box, post box and bus stop.

LLANDDONA VILLAGE – PENTRAETH
Re-trace your steps from the village back to the mast. Pass through the little gate by the mast , then bear right down the field to a kissing gate. Follow the path and you will come out on a lane. Turn right. Presently turn left down a farm driveway. Walk past Bryn-castell and join a grassy track down to a field. Proceed across the next two fields to a kissing gate just left of Hafotty farmyard. Keep heading in the same direction across two more fields. Pass over a stile and then turn right along a path to Rhos farm . From Rhos farm keep heading in the same direction back towards the forest. You will cross a river and then proceed uphill. Keep on up the forest track to a T-junction. Turn left along the forest road, then right onto a forest path. You will come out of the forest to join a track. Keep heading downhill, and eventually you will join the road that you started on. Walk to the end, turn right by the phone box, then left and over the bridge. Walk along the shore, then turn left by the house and up the road. Follow the path back along the valley to Pentraeth .

DONA (cyfeiriad clocwedd)

MAES PARCIO PENTRAETH – COCH Y MIERI
Cerddwch i lawr yr allt o’r maes parcio ar hyd y lôn. Croeswch Afon Nodwydd a throwch i’r dde ar hyd trac. Dilynwch y llwybr hwn i lawr tua’r môr. Sylwch ar yr hen dwr diddorol ar y ffordd i lawr. Wedi dod i’r traeth trowch i’r dde ac ewch dros y bont i gyfarfod lôn fach. Trowch i’r dde ac yn fuan i’r chwith ger y ciosg ffôn. Ewch i ben y lôn gan fynd heibio lôn yn mynd i’r chwith. Wrth gyffordd o draciau ewch i’r chwith ar hyd lôn arall. Ewch i ben y trac hwn. Ewch yn eich blaen trwy nifer o gaeau sy’n rhedeg yn gyfochrog â’r arfordir i gyrraedd fferm Coch y Mieri .

COCH Y MIERI – PENTREF LLANDDONA
Cerddwch i lawr y lôn a throwch i’r dde i fyny’r ffordd. Yn union cyn cyrraedd Plas y Wern trowch i’r chwith i lawr llwybr heibio ychydig o dai a chroeswch nant i mewn i lecyn coediog. Ymhen ychydig bellter, cadwch i’r dde allan o’r coed ac ewch i fyny dros ychydig o dir prysg. Gan fynd dros nifer o gamfeydd ewch i fyny dros fryn serth, trwy ychydig o dir gwlyb ac i fyny tuag at gamfa gerrig a chyfeirbost. Cadwch i’r chwith, gan ymuno â llwybr, a heibio’r mast i lawr i Bentref Llanddona . Fe gewch luniaeth yn Llanddona yn ogystal â chiosg ffôn, blwch llythyrau a safle bysiau.

PENTREF LLANDDONA – PENTRAETH
Ewch yn eich ôl o’r pentref i’r mast. Ewch trwy’r giât fach wrth ochr y mast , ac yna cadwch i’r dde i lawr y cae i giât fochyn. Dilynwch y llwybr ac fe ddewch i lôn fach. Trowch i’r dde. Yna trowch i’r chwith i lawr lôn fferm. Cerddwch heibio Bryn-castell ac ymunwch â llwybr gwelltog i lawr i gae. Ewch yn eich blaen dros y ddau gae nesaf at giât fochyn i’r chwith o fuarth fferm Hafotty . Ewch ymlaen i’r un cyfeiriad dros ddau gae arall. Ewch dros gamfa ac yna trowch i’r dde ar hyd llwybr i fferm Rhos. O fferm Rhos ewch ymlaen i’r un cyfeiriad yn ôl tua’r goedwig. Byddwch yn croesi afon ac yna ewch ymlaen i fyny’r allt. Ewch ymlaen i fyny’r llwybr coedwig i gyffordd. Trowch i’r chwith ar hyd ffordd y goedwig, ac yna i’r dde ar lwybr coedwig. Fe ddewch allan o’r goedwig i ymuno â llwybr. Ewch ymlaen i lawr yr allt, a chyn bo hir byddwch yn ymuno â’r ffordd y dechreuoch arni. Cerddwch i ben honno, trowch i’r dde wrth y ciosg ffôn, ac yna i’r chwith dros y bont. Cerddwch ar hyd y lôn, ac yna trowch i’r chwith wrth y t  ac i fyny’r ffordd. Dilynwch y llwybr yn ôl ar hyd y dyffryn i Bentraeth .

 

Beuno & Cwyfan
Aberffraw

Elaeth & Eilian
Amlwch

Nidan
Brynsiencyn

Cybi
HolyHead

Cawrdaf, Iestyn & Seiriol
Llangoed

Ceidio & Sannan
LLyn Alaw

Cadog & Gallgo
Moelfre

Dona
Pentraeth

 

Contents copyright / Cynnwyshawlfraint: Menter Môn, Nicomôn ,
1997-99. Arlunydd, Designed by Peter Moore.

menternet