Ceidio &Sannan.

Llyn Alaw.


Places of Interest

Walk's Infomation

Main Page.

Ceidio

Ceidio Walk. Taith Ceidio.
CEIDIO (Anti-clockwise direction)

LLYN ALAW – PANDY FARM
Begin from Llyn Alaw car park . Head around the base of the lake and proceed over the far dam to the eastern shore. Turn right up the fields, cross a track, and through more fields to come out at Tÿ Newydd on the lane. Turn left down a farm track. At a T-junction in the tracks turn left for a short walk back to the car park following the shore of the Alaw , or turn right to continue past Meinir farm . Proceed along a wide track. For another shorter alternative turn left after a left bend in the track. This path takes you past the ruins of a church, and a number of farms to pick up the route St. Ceidio’s church – Llyn Alaw . To continue on the main route follow the wide track from Meinir to Pandy ; an old fulling mill.

PANDY FARM – ST. CEIDIO’S CHURCH
Turn right along the lane, over the stream, turning right onto a track opposite a farm. Go across the field to come out on a lane. Turn left, then right at the T-junction. At the main road turn left into Llanerchymedd . At the roundabout go straight on, up the hill. Just before the road curves right to go out of the village turn left down a track. Go over the stile through the fields heading towards the pond and Llwydiarth Fawr farm . Pass by the outbuildings and down the drive to the main road. With care, turn right along the road, and then left shortly onto a footpath. Proceed straight along this path, cross the disused railway line, and a stream, up to a lane. At the lane turn left, then right at the T-junction by the church.

ST. CEIDIO’S CHURCH – LLYN ALAW
From the church proceed along the lane down to the end. Go through the gate, turn right for access to the Bird hide and turn left to return to the start of the walk. Pass the picnic tables and follow the path along the lakeside.This path, hugging the shore, will take you right back to the dam you crossed earlier. Re-trace your steps back to the car park.

CEIDIO (cyfeiriad gwrthglocwedd)

LLYN ALAW – FFERM PANDY
Cychwynnwch o faes parcio Llyn Alaw . Ewch o amgylch pen isaf y llyn ac yna ymlaen dros yr argae pellaf i’r lan ddwyreiniol. Trowch i’r dde i fyny’r caeau, croeswch drac, a thros fwy o gaeau i gyrraedd Tÿ Newydd ar y lôn. Trowch i’r chwith i lawr lôn fferm. Wrth y gyffordd yn y llwybrau trowch i’r chwith am daith fer yn ôl i’r maes parcio gan ddilyn glannau’r Alaw , trowch i’r dde i fynd yn eich blaen heibio fferm Meinir . Ewch ar hyd trac llydan. Am daith arall fyrrach trowch i’r chwith heibio’r tro i’r chwith yn y trac. Bydd y llwybr hwn yn eich arwain heibio adfeilion eglwys, a nifer o ffermydd i gyrraedd llwybr Eglwys Sant Ceidio – Llyn Alaw . I fynd yn eich blaen ar hyd y brif drac dilynwch y trac llydan o Feinir i Bandy , hen felin bannu.

FFERM PANDY – EGLWYS SANT CEIDIO
Trowch i’r dde ar hyd y lôn fach, dros y nant, gan droi i’r dde ar drac cyferbyn â fferm. Ewch dros y cae i ddod allan ar lôn. Trowch i’r chwith, ac yna i’r dde yn y gyffordd. Wrth y brif ffordd trowch i’r chwith i Lannerchymedd . Wrth y gylchfan ewch yn eich blaen, i fyny’r allt. Yn union cyn y tro i’r dde yn y ffordd i fynd o’r pentref trowch i’r chwith i lawr trac. Ewch dros y gamfa trwy’r caeau ymlaen am y pwll a fferm Llwydiarth Fawr . Ewch heibio cytiau’r fferm ac i lawr y lôn i’r brif ffordd. Gyda gofal, trowch i’r dde ar hyd y ffordd, ac yna’n fuan i’r chwith ar lwybr troed. Ewch yn syth yn eich blaen ar hyd y llwybr hwn, croeswch yr hen reilffordd a’r nant i fyny i lôn. Wrth y lôn hon trowch i’r chwith, ac yna i’r dde wrth y gyffordd ger yr eglwys.

EGLWYS SANT CEIDIO – LLYN ALAW
O’r eglwys ewch yn eich blaen i ben y lôn. Ewch trwy’r giât, trowch i’r dde am fynediad i’r wylfa adar a throwch i’r chwith i ddychwelyd i ddechrau’r daith. Ewch heibio’r byrddau picnic a dilynwch y ffordd ar hyd glan y llyn. Bydd y llwybr hwn, sy’n cadw gyda’r lan, yn eich arwain yn ôl i’r argae y gwnaethoch ei groesi’n gynharach. Ewch yn eich ôl i’r maes parcio.

 


Sannan

Sannan Walk. Taith Sannan.
Sannan (Anti-clockwise direction)

LLYN ALAW – LLYNNON MILL
Turn left out of the main entrance to Llyn Alaw and walk down the road. Just before the bridge over the river Alaw, turn right up into a field and follow the field boundaries to Glan Alaw farm. Proceed down the farm track to the road. About halfway down the road on the left is ‘ Bedd Branwen’ or ‘ Branwen’s Grave’ ; a burial mound dating back to 2000BC, best known by its literary association with Branwen from the Mabinogion. There is no public access to this site. When you reach the lane turn left, into the village of Elim . Turn right, then head down a track to Marian farm . Proceed around the back of the farm, diagonally across the fields, to come out on a lane. Turn right, go straight across the x-roads and up the lane to Llynnon mill . For a shorter walk, after Llynnon mill go back across the x-roads and follow the lane to Howell Water mill on your left. Then follow directions Howell mill - Llyn Alaw .

LLYNNON MILL – HOWELL MILL
Turn left out of Llynnon mill , and turn right shorlty, onto a public footpath. Follow this path across the field and through the woodland to a lane. Turn left, then right, down a farm track. Follow the track to the end, pass over the stile, through the fields crossing the streams, up the hill to come out on a lane. Cross the road and go straight into the next field, past the trig point, then bear left down a field to a gate and track. You will come out on a lane. Turn left, then right at the T-junction by the chapel, then left down another lane. Shortly bear left onto a track, past Tre-moelgoch Mawr and Tre-Moelgoch Bach and over the river Alaw once again (pass under pylons). Bear right up over the hill, passing a disused farm. Go through the gateway and up the fields to the church of St. Gafran, St. Ieuan and St. Sannan . The church is owned by a charity called ‘Friends of Friendless Churches’ and dates from the 14 th century. Walk around the church, up the track and across the field to a lane. Turn left to Howell mill, on the right.

HOWELL MILL – LLYN ALAW
Turn left out of Howell mill , then left again off the lane onto a footpath to walk past the mill pond used to power the mill. Turn left along the road, then right, next to Henbont farm before the bridge. Bear left up the hill, over the stiles and cross a drainage ditch. Proceed up the hill following the field boundary on your left to a large farm. Pass the farm and join an access track through a field to a road. Turn left, along the road then turn right just before the bridge up past Bodnolwyn Wen farm. After the farm follow the grassy track down towards the lake. Turn left on the road to the car park.

Sannan (cyfeiriad gwrthglocwedd)

LLYN ALAW – MELIN LLYNNON
Trowch i’r chwith o’r brif mynediad i Lyn Alaw a cherddwch i lawr y ffordd. Yn union cyn cyrraedd y bont dros Afon Alaw , trowch i’r dde i fyny i gae a dilynwch derfynau'r cae i fferm Glan Alaw . Ewch yn eich blaen i lawr lôn y fferm i’r ffordd. Tua hanner ffordd i lawr y ffordd ar y chwith fe welwch ‘Bedd Branwen ’, tomen gladdu sy’n dyddio’n ôl i 2000CC, ac yn fwyaf adnabyddus oherwydd ei chysylltiad llenyddol â Branwen o’r Mabinogion. Nid oes mynediad cyhoeddus i’r safle hwn. Pan gyrhaeddwch y lôn trowch i’r chwith, i bentref Elim . Trowch i’r dde, ac yna ewch i lawr lôn , a’i dilyn i fferm Marian . Ewch y tu cefn i’r fferm, yn groes-gongl ar draws tri chae, ac fe ddewch i lôn. Trowch i’r dde, ewch yn syth ar draws y groesffordd ac i fyny’r lôn i Felin Llynnon . Am daith fyrrach, ar ôl Melin Llynnon ewch yn ôl dros y groesffordd a dilynwch y lôn i felin ddwr Howell ar y chwith ichi. Yna dilynwch y cyfarwyddiadau o Felin Howell i Lyn Alaw .

MELIN LLYNNON – MELIN HOWELL
Trowch i’r chwith o Felin Howel ac yn fuan trowch i’r dde ar hyd llwybr troed cyhoeddus. Dilynwch y llwybr hwn dros y cae a thrwy’r coetir i lôn fach. Trowch i’r chwith, ac yna i’r dde i lawr lôn fferm. Ewch i ben y lôn, dros y gamfa, trwy’r caeau gan groesi’r nentydd, i fyny’r allt i gyrraedd lôn. Croeswch y ffordd ac ewch yn eich blaen i’r cae nesaf, heibio’r pwynt trig, yna cadwch i’r chwith i lawr y cae i giât a thrac. Fe ddewch i lôn. Trowch i’r chwith, yna i’r dde wrth y gyffordd ger y capel, ac yna i’r chwith i lawr lôn fach arall. Yn fuan cadwch i’r chwith ar drac, heibio Tre-Moelgoch Fawr a Thre-Moelgoch Bach a thros yr Afon Alaw unwaith eto (ewch o dan y peilonau). Cadwch i’r dde dros y bryn, heibio y hen fferm. Ewch drwy adwy ac i fyny y caeau tuag at Eglwys Sant Gafran, Sant Ieuan a Sant Sannan . Mae’r eglwys yn eiddo i elusen o’r enw ‘Cyfeillion yr Eglwysi Digyfaill’ ac mae’n dyddio o’r 14eg ganrif. Cerddwch heibio’r eglwys, i fyny’r llwybr ac ar draws y cae i gyrraedd lôn. Trowch i’r chwith i Felin Howell , ar y dde.

MELIN HOWELL – LLYN ALAW
Trowch i’r chwith o Felin Howell, ac yna i’r chwith unwaith eto oddi ar y ffordd ar hyd llwybr troed i gerdded heibio pwll melin a ddefnyddiwyd i yrru’r felin. Pan gyrhaeddwch y ffordd trowch i’r chwith, ac yna i’r dde, wrth ochr y fferm cyn y bont. Cadwch i’r chwith i fyny’r allt, dros y camfeydd a chroesi’r ffos ddraenio. Ewch i fyny’r allt gan ddilyn terfyn y cae ar y chwith i fferm fawr. Ewch heibio’r fferm hon ac ymunwch â thrac mynediad trwy gae i lôn fach. Trowch i’r chwith, ar hyd y ffordd ac yna trowch i’r dde yn union cyn cyrraedd y bont i fyny heibio fferm Bodnolwyn Wen . Ar ôl y fferm honno dilynwch y trac gwelltog i lawr tua’r llyn. Trowch i’r chwith oddi ar y ffordd i’r maes parcio.

 

Beuno & Cwyfan
Aberffraw

Elaeth & Eilian
Amlwch

Nidan
Brynsiencyn

Cybi
HolyHead

Cawrdaf, Iestyn & Seiriol
Llangoed

Ceidio & Sannan
LLyn Alaw

Cadog & Gallgo
Moelfre

Dona
Pentraeth

 

Contents copyright / Cynnwyshawlfraint: Menter Môn, Nicomôn ,
1997-99. Arlunydd, Designed by Peter Moore.

menternet