Places OfInterest.

 

  Cybi Walk

Walk's Infomation

Main Page

 

HolyHead
BREAKWATER COUNTRY PARK
The park is located at the site of the quarry that supplied stone to construct the Holyhead Breakwater between 1845 and 1873. The site was then used as a brick-making plant from 1890 to 1973, and has been designated and managed as a Country Park since 1990. Facilities include an interpretive centre, outdoor artefact displays, a shop, café and toilets.

SOUTH STACK & ELLIN’S TOWER
A lighthouse was first established at South Stack in 1809, after campaigns about the danger of the coast. Now a listed building and open to the public, the lighthouse is a popular attraction. Ellin’s tower was built in 1868 by W. O. Stanley MP of Penrhos. After falling into disrepair around the wars, the tower was bought and restored by the RSPB in the 1980s. It now gives information on wildlife and local history and provides spectacular views via a closed circuit camera attached to the cliffside.

TÝ MAWR HUTS (SOUTH STACK)
Excavated by W.O. Stanley in the 1860s, these stone huts are one of Anglesey’s best known early settlements. There is evidence of occupation here from as early as the Middle Stone Age (10,000BC). The buildings seen on the ground today have been identified as belonging to the Iron Age. Materials found at the site suggest that this area was occupied as recently as the 6th century, at the time of St. Cybi.

HOLYHEAD MOUNTAIN
Some of the oldest rocks in Britain are found in Anglesey, and here Precambrian strata forms the Island’s highest point. On the summit of the Mountain is a Prehistoric Hillfort named Caer y Tr and an area of about 7 hectares is enclosed by a stone rampart. Due to its elevated position, the Romans later built a watch-tower here. The mountain also housed a semaphore signal station, built in the 1800s, to guide ships on the journey from Holyhead to Liverpool.

PARC GWLEDIG Y MORGLAWDD
Lleolir y parc ar safle’r chwarel oedd yn cyflenwi cerrig i adeiladu Morglawdd Caergybi rhwng 1845 ac 1873. Defnyddiwyd y safle hwn fel gwaith briciau rhwng 1890 a 1973, a chafodd ei sefydlu a’i reoli fel Parc Gwledig ers 1990. Mae’r cyfleusterau yno’n cynnwys canolfan ddeongliadol, arddangosfeydd arteffactau awyr agored, siop, caffi a thoiledau.

YNYS LAWD A THWR ELIN
Sefydlwyd goleudy ar Ynys Lawd yn gyntaf ym 1809, ar ôl ymgyrchoedd yngln â pheryglon yr arfordir. Mae’r adeilad hwn wedi’i gofrestru erbyn hyn, ac mae’n atyniad poblogaidd sydd ar agor i’r cyhoedd. Adeiladwyd Tr Elin ym 1868 gan W.O. Stanley AS o Benrhos. Ar ôl mynd yn adfail yn ystod y rhyfeloedd, cafodd ei brynu a’i adfer gan y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) yn yr 1980au. Erbyn hyn mae gwybodaeth ar gael yno am fywyd gwyllt a hanes lleol a cheir yno olygfeydd gwych trwy gamera cylch cyfyng ar ochr y clogwyn.

CYTIAU GWYDDELOD TÝ MAWR
Mae’r cytiau cerrig hyn, a gloddiwyd gan W.O. Stanley yn yr 1860au, yn un o aneddiadau hysbys cynharaf Ynys Môn. Mae tystiolaeth o anheddu yma o mor gynnar ag Oes y Cerrig Canol (10,000CC). Mae’r adeiladau a welir yn y fan a’r lle heddiw yn adnabyddedig fel rhai sy’n perthyn i Oes yr Haearn . Mae’r defnyddiau a gafwyd yno’n awgrymu y bu rhai’n byw yno mor ddiweddar â’r 6ed ganrif, yn amser Sant Cybi.

MYNYDD TW^R
Mae rhai o’r creigiau hynaf ym Mhrydain i’w cael ar Ynys Môn ac yma mae haenau cyn-Gambriaidd yn ffurfio pwynt uchaf yr Ynys. Ar gopa’r mynydd hwn mae caer cynhanesyddol o’r enw Caer y Tr a llecyn o tua 7 hectar wedi’i amgylchynu â rhagfur carreg. Oherwydd ei leoliad uchel, adeiladwyd tr gwylio yma’n ddiweddarach gan y Rhufeiniaid. Yn yr 1800au adeiladwyd gorsaf rybuddio semaffor ar y mynydd i arwain llongau ar eu taith o Gaergybi i Lerpwl.

 

Beuno & Cwyfan
Aberffraw

Elaeth & Eilian
Amlwch

Nidan
Brynsiencyn

Cybi
HolyHead

Cawrdaf, Iestyn & Seiriol
Llangoed

Ceidio & Sannan
LLyn Alaw

Cadog & Gallgo
Moelfre

Dona
Pentraeth

 

Contents copyright / Cynnwyshawlfraint: Menter Môn, Nicomôn ,
1997-99. Arlunydd, Designed by Peter Moore.

menternet