| The Route | Y Ffordd | |
|
A-B
After leaving Beaumaris the lane passes through some fine parkland. This section rises over the first half then downhill to the village of Llanfaes.
B-C This is a steady climb up to Llanddona but nowhere very steep. The first half passes between high hazel hedges; then there is some fine scenery and views to Snowdonia. Llaniestyn Common is an attractive old heath and a good site for a picnic. To go to Llanddona (pub and shop) turn left at main junction at the Common. To continue the tour turn back out of the village and follow the sign in the direction of Penmon and the Common. C-D Undulating with some short steep sections. Along all this section are exceptional views to Red Wharf Bay and over the local landscape to Snowdonia. Much of this area is limestone which supports a rich hedge and bank flora. D-E-D Back at sea level. To get to Black Point carry on past the Priory. At Black Point is a cafe and room to spread out. (SHORT TOUR: If you do not wish to go to Penmon, then follow the main tour from D ) D-B After leaving the coast the lane turns inland and then uphill for a short while before crossing the B5109 from Beaumaris to Llangoed. B-A This reverses the first section. There is a right turn out of Llanfaes village and quite a steep rise past the turning to Henllys Hotel. |
A-B
Ar ôl gadael Biwmares mae'r lôn yn ymlwybro trwy barcdir hyfryd. Mae hanner cyntaf y rhan hon yn tynnu ar i fyny yna aiff ar i lawr i bentref Llanfaes.
B-C Mae'r rhan hon i Llanddona yn esgyn yn gyson ond nid oes unman yn serth iawn. Ar y rhan gyntaf byddwch yn teithio rhwng llwyni'r coed cyll uchel; yna ceir golygfeydd gwych o Eryri. Mae Comin Llaniestyn yn hen rostir atyniadol ac yn lle da am bicnic. I gyrraedd Llanddona (tafarn a siop) trowch i'r chwith wrth y brif gyffordd ger y Comin. I barhau ymlaen ar y daith trowch yn eich ôl allan o'r pentref a dilynwch yr arwydd i gyfeiriad Penmon ger y Comin. C-D Lôn fryniog gyda rhai rhannau byr serth. ceir golygfeydd eithriadol ar y cyfan o'r rhan hon i gyfeiriad Traeth Coch a thros tirlun yr ardal i gyfeiriad Eryri. mae llawer o'r tir hwn yn galchfaen ac mae'r llwyni a'r llethrau'n gyforiog o blanhigion. D-E-D Rydych yn ôl ar lefel y môr. Er mwyn cyrraedd Trwyn Du ewch yn eich blaen heibio'r Priordy. Yn Nhrwyn Du mae caffi a lle i ymlacio. (Y LLWYBR BYR: Os nad ydych am fynd i Benmon, yna ewch ar hyd y prif lwybr o D ) D-B Ar ôl gadael yr arfordir mae'r lôn yn troi i gyfeiriad canol yr ynys ac yna ar i fyny am ychydig cyn croesi'r B5109 o Fiwmares i Langoed. B-A Dyma'r rhan gyntaf am yn ôl. Mae troad i'r dde am allan o bentref Llanfaes ac allt eithaf serth heibio'r troad am Westy Henllys. |
| Interesting places | Llefydd diddorol | |
|
1:
Beaumaris Leisure Centre.
A wide variety of activities, classes, exhibitions, drama and concerts. Open all year.
Beaumaris
itself has many tourist attractions.
Bike Hire.
2: Llaniestyn Common. An attractive area of heathland with a variety of wildlife. A good place for a picnic. 3: Arthur's Seat. Along this part of the tour are the most spectacular views across Red Wharf Bay (look out for the Isle of Man to the north on a clear day), and across to Snowdonia, Puffin Island and the Great Orme. 4: Penmon Priory and Dovecot. The monastery was originally established in the 6th century by St Seiriol. The church is the oldest of the present buildings, dating from 1140. St Seiriol's Well may originate from the earliest days of the monastery. The Dovecote was built around 1600. For more information, click here. 5: Black Point. "Land's End", with views across to the lighthouse and Puffin Island. Picnic site, tea-room, walks. |
1:
Canolfan Hamdden Biwmares.
Cynhelir amrywiaeth mawr o weithgareddau, dosbarthiadau, arddangosfeydd, drama a chyngherddau. Ar agor drwy'r flwyddyn. Ceir nifer o atyniadau i ymwelwyr ym
Miwmares
ei hun.
Llogi Beic.
2: Comin Llaniestyn. Rhostir ardderchog sy'n gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt. Lle da am bicnic. 3: Bwrdd Arthur. Ar hyd y rhan hon o'r daith y ceir y golygfeydd mwyaf godidog ar draws Traeth Coch (gallwch weld Ynys Manaw i'r gogledd ar ddiwrnod clir), a draw i gyfeiriad Eryri, Ynys Seiriol a'r Gogarth. 4: Priordy a Cholomendy Penmon. Sefydlwyd y mynachdy gwreiddiol yn y 6ed Ganrif gan Seiriol Sant. Y capel yw'r hynaf o'r adeiladau a saif heddiw; mae'n dyddio o 1140. Mae'n bosib bod Ffynnon Seiriol Sant yn dyddio'n ôl i ddyddiau cynharaf y mynachdy. Adeiladwyd y Colomendy tua'r 1600. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma. 5: Trwyn Du. Penrhyn sydd â golygfeydd draw tuag at y goleudy ac Ynys Seiriol. Lle picnic, ystafell baned, llwybrau. |
Penmon Prioryand Dovecote
|
How to follow the route
Bike hire Important information |
Introduction / Cyflwyniad
Nico Hebog Telor Giach |
Sut i ddilyn y llwybr
Llogi beiciau Gwybodaeth pwysig |
Contentscopyright/Cynnwys hawlfraint: Menter Môn,Cyswllt Cyf.
1997-1999. Designed and produced by John Ferry