The Route   Y Ffordd
A-B After leaving the A5025, the tour crosses 2 main roads at Tynygongl and Marianglas. At B a right turn on to the A5025 at Llangallgo.

B-C Follow A5025 for 500m then left at roundabout to Din Lligwy and then downhill to Traeth Lligwy. Dismount to cross the dunes behind the beach. Then a longish uphill section before levelling out to A5025.

C-D To visit Craft Centre, dismount at main road and up ramp. Then follow lane to rejoin road to Mynydd Bodafon. The lane up the 'mountain' has only two short steep sections. At the top is a lake and rest. Bike locking in car park on mountain.

(SHORT TOUR D-E to avoid Llandyfrydog loop)

D-E The Llandyfrydog loop has fine views and a long downhill. Uphill into Maenaddwyn. A right turn into the next section.

(SHORT TOUR E-H starts - see below)

E-F Flat right through Capel Coch.

(SHORT TOUR F-G to avoid Cefni Reservoir loop)

F-G Joins B5109 for 700m. To visit reservoir, carry on past turning in dip, then right at sign.

G-H The tour passess through Cors Erddreiniog National Nature Reserve. The middle part of this section follows the B5110 for 700m then turns off right.

H-A B5108 for 600m then turn right.

SHORT TOUR E-H

A steep section past Tyddyn Philip. Cross the B5110 at Brynteg, then rejoin the main tour.

  A-B Ar ôl gadael yr A5025, mae'r llwybr yn croesi 2 ffordd fawr yn Nhynygongl a Marianglas. Yn B mae troad i'r dde ac i'r A5025 yn Llanallgo.

B-C Dilynwch yr A5025 am 500m yna ewch i'r chwith wrth y gylchfan am Din Lligwy ac yna i lawr allt i Draeth Lligwy. Dewch oddi ar eich beic i groesi'r twyni y tu ôl i'r traeth. Yna mae allt serth eithaf hir cyn y dewch i le gwastad allan ar yr A5025.

C-D Os ydych am ymweld â'r Ganolfan Grefftau, dewch oddi ar eich beic ger y ffordd fawr ac ewch i fyny'r ramp. Yna dilynwch y lôn i fynd yn ôl ar y ffordd am Fynydd Bodafon. Dim ond dwy allt serth fyr sydd i fyny'r 'mynydd'. Ar y copa mae llyn a chyfle am seibiant. Man cloi beiciau yn yr maes parcio ar y mynydd.

(LLWYBR BYR D-E er mwyn osgoi dolen Llandyfrydog)

D-E Ceir golygfeydd gwych ar ddolen Landyfrydog ac elltydd hir ar i lawr. I fyny'r allt i Faenaddwyn. Troad i'r dde i'r rhan nesaf.

(Cychwyn y LLWYBR BYR E-H - gweler isod)

E-F Mae'n wastad yr holl ffordd drwy Gapel Coch.

(LLWYBR BYR F-G i osgoi dolen Cronfa Ddwr Cefni)

F-G Mae'n ymuno â'r B5109 am 700m. Os ydych am weld y llyn, ewch ymlaen heibio'r troad yn y pant ac yna i'r dde wrth yr arwydd.

G-H Mae'r llwybr yn mynd trwy Warchodfa Natur Cors Erddreiniog. Dilynna canol y rhan hon y B5110 am 700m cyn troi i'r dde.

H-A Dilynwch y B5108 am 600m yna trowch i'r dde.

LLWYBR BYR E-H

Mae rhan serth heibio Tyddyn Philip. Croeswch y B5110 ym Mrynteg, yna ailymunwch â'r prif lwybr.

Interesting places   Llefydd diddorol
1: Benllech and Trax. Start/Finish and bike hire . The town has excellent beach facilities.

2: Din Lligwy & Lligwy Burial Chamber. Ancient Monuments. Din Lligwy Hut group probably belonged to a farming settlement in late Roman times. Well worth the walk across the fields. The burial chamber is Neolithic and early Bronze Age . The 25 ton capstone gives it an unusual appearance.

3: Traeth Lligwy. An extensive sandy beach in a natural setting. Refreshments available during the summer season.

4: Brynrefail Craft Centre. Open during the summer and at weekends in winter. Crafts and some refreshments.

5: Mynydd Bodafon. At the highest point of the road is a resting place in attractive surroundings by a small lake. Very fine views across Anglesey and to Snowdonia. For the energetic there are footpaths over the heath-covered mountain.

6: Cefni Reservoir. Picnic site, bird hide, walks around reservoir.

  1: Benllech & Trax. Dechrau/diwedd a llogi beiciau . Mae gan y dref gyfleusterau traeth ardderchog.

2: Din Lligwy a Chladdgell Lligwy. Cofebau Hynafol. Mae'n debyg mai eiddo i lwyth o ffermwyr tua diwedd Cyfnod y Rhufeiniaid oedd Grwp Cytiau Din Lligwy. Mae'r daith ar draws y caeau'n werth chweil. Dyddia'r gladdgell o'r Oes Efydd cynnar ac Oes Newydd y Cerrig. Rhydd y capfaen 25 tunnell wedd anghyffredin iawn iddi.

3: Traeth Lligwy. Traeth tywod eang mewn lleoliad naturiol. Mae lluniaeth ar gael yn ystod tymor yr haf.

4: Canolfan Grefftau Brynrefail. Mae ar agor yn ystod yr haf ac ar benwythnosau yn y gaeaf. Ceir crefftau a pheth lluniaeth.

5: Mynydd Bodafon. Ym mhwynt uchaf y ffordd mae lle i gael seibiant mewn awyrgylch atyniadol ger llyn bychan. Ceir golygfeydd godidog ar draws Ynys Môn a draw tuag at Eryri. I'r rhai egnïol mae llwybrau yn arwain dros y mynydd sy'n haen o rug.

6: Cronfa Ddwr Cefni. Lle picnic, lle gwylio adar, llwybrau o amgylch y llyn.


Bodafon Mountain and Lake

How to follow the route
Bike hire
Important information
Introduction / Cyflwyniad
Nico
Hebog
Telor
Giach
Sut i ddilyn y llwybr
Llogi beiciau
Gwybodaeth pwysig

Contentscopyright/Cynnwys hawlfraint: Menter Môn,Cyswllt Cyf.
1997-1999. Designed and produced by John Ferry


menternet