| The Route | Y Ffordd | |
|
A-B
A flat, open lane alongside the River Ffraw to Llyn Coron. Then rising gently to Soar to meet the National Cycle Route (indicated by blue signs).
(SHORT TOUR starts at B - see below) B-C Turn right at the'T' junction then immediately left to continue on the main tour. At Din Dryfol Ancient Monument - leave bike just before farmyard, follow signs for 300m to monument. C-D B4422 Aberffraw to Llangefni. Turn right into Henblas. After Henblas turn right off the main road after 500m. Out of Llangristiolus village is quite a long freewheel down a wooded lane. D-E A winding lane eventually coming out on to the Malltraeth Marsh flatland. Stop at Pont Marquis (where the tour joins the National Cycle Route) for views up the valley. Rejoins short tour at E . E-F Flat as far as Malltraeth. Then a long but never very steep hill up A4080 out of the village. After 2km turn off left. F-A From here to the finish is fine landscape, passing through a long wooded section at Bodorgan and then down a long hill and across Aberffraw Sand Dunes. SHORT TOUR B-E Turn right at Soar and keep going. The short tour follows the National Cycle Tour until rejoining the main tour. At Bethel turn left into the B4422 and then immediately right. |
A-B
Lôn wastad agored gerllaw Afon Ffraw at Llyn Coron. Yna mae'n codi'n raddol i Soar lle mae'n cwrdd â'r Llwybr Beicio Cenedlaethol (wedi'i nodi ag arwyddion glas).
(Cychwynna'r LLWYBR BYR o B - gweler isod) B-C Trowch i'r dde yn y gyffordd 'T' yna yn syth i'r chwith er mwyn dal ymlaen ar hyd y prif lwybr. Ger Cofeb Hynafol Din Dryfol - gadewch eich beic ar gyrion iard y fferm, dilynwch yr arwyddion am 300m at y gofeb. C-D Ffordd y B4422 rhwng Aberffraw a Llangefni. Trowch i'r dde i mewn i Henblas. Ar ôl Henblas trowch i'r dde oddi ar y ffordd fawr ym mhen 500m. Cewch hwylio mynd am dipyn go lew allan o bentref Llangristiolus i lawr lôn goediog. D-E Lôn droellog a ddaw allan, ymhen hir a hwyr, ger gwastatir Cors Malltraeth. Stopiwch ger Pont Marquis (lle mae'r llwybr yn ymuno â'r Llwybr Beicio Cenedlaethol) lle ceir golygfeydd i fyny'r dyffryn. Mae'n ail-ymuno â'r llwybr byr yn E . E-F Mae'n wastad cyn belled â Malltraeth. Yna mae allt hir ond nid yw'n serth iawn ar hyd yr A4080 allan o'r pentref. Ymhen 2km trowch i'r chwith. F-A Ceir tirwedd gwych o yma hyd y diwedd, mae'n mynd trwy ran goediog faith ym Modorgan ac yna i lawr allt hir ac ar draws Twyni Tywod Aberffraw. LLWYBR BYR B-E Trowch i'r dde yn Soar a chario ymlaen. Mae'r llwybr byr yn dilyn y Llwybr Beicio Cenedlaethol nes ail-ymuno â'r prif lwybr. Ym Methel trowch i'r chwith i'r B4422 ac yna'n syth i'r dde. |
| Interesting places | Llefydd diddorol | |
|
1:
Aberffraw & Llys Llewelyn.
Aberffraw was a centre of government from Roman times to the 13thC. Llys Llewelyn is on the site of the court of the Princes of Gwynedd. Presently it is the centre for the Anglesey Coastal Heritage Project. Exhibitions, craft workshop. Tea room.
2: Llyn Coron. A privately-owned lake, but with public footpath. Good birdwatching. 3: Din Dryfol. Ancient monument. The rather scanty remains of four burial chambers date from the Neolithic period. 4: Henblas Country Park. A wide range of family activities, including falconry, sheepdog displays, tractor tours, indoor adventure playground, pony rides. Tea room. 5: Glantraeth Children's Animal Park. A variety of domesticated animals and birds, adventure playground, picnic area, gift shop, refreshments. 6: Malltraeth and Cefni Estuary. The estuary and cob lake are part of the Newborough National Nature Reserve, and are famous for birdwatching. The renowned bird artist Charles Tunnicliffe lived for many years in the village. 7: Aberffraw Dunes & Beach. The dunes are rich in wildlife, especially flowers. A walk down the estuary will take you to a sandy beach. |
1:
Aberffraw a Llys Llewelyn.
Roedd Aberffraw yn ganolfan lywodraethol o gyfnod y Rhufeiniaid ymlaen hyd y 13eg Ganrif. Saif Llys Llewelyn ar safle Llys Tywysogion Gwynedd. Ar hyn o byrd dyma ganolbwynt Prosiect Treftadaeth Arfordir Ynys Môn. Arddangosfeydd, gweithdai crefftau. Ystafell Baned.
2: Llyn Coron. Llyn preifat, ond mae llwybr cyhoeddus. Lle da i wylio adar. 3: Din Dryfol. Cofeb Hynafol. Olion prin braidd o bedair claddgell sy'n dyddio'n ôl i Oes Newydd y Cerrig. 4: Parc Gwledig Henblas. Dewis eang o weithgareddau i'r teulu gan gynnwys heboca, arddangosfeydd cwn defiad, teithiau ar y tractor, lle chwarae antur dan do, marchogaeth ceffyllau. Ystafell Baned. 5: Parc Anifeiliaid Glantraeth i Blant. Amrywiaeth o adar ac anifeiliaid dof, lle chwarae antur, lle picnic, siop anrhegion, lluniaeth. 6: Aber Cefni a Malltraeth. Mae'r aber a llyn y cob yn rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch, ac mae'r ddau le'n boblogaidd ar gyfer gwylio adar. Bu'r arlunydd adar enwog Charles Tunnicliffe yn byw yn y pentref am flynyddoedd. 7: Traeth a Thwyni Aberffraw. Mae'r twyni yn gyforiog o fywyd gwyllt yn enwedig blodau. Os ewch am dro i lawr yr aber fe ddewch at draeth tywod. |
MarquisBridge over Cefni River
|
How to follow the route
Bike hire Important information |
Introduction / Cyflwyniad
Nico Hebog Telor Giach |
Sut i ddilyn y llwybr
Llogi beiciau Gwybodaeth pwysig |
Contentscopyright/Cynnwys hawlfraint: Menter Môn,Cyswllt Cyf.
1997-1999. Designed and produced by John Ferry