Cig Eidion Môn - cynnyrch o'r safon uchaf

Rhagor am brosiectau Menter Môn Prosiect datblygiad gwledig Menter Môn Rhagor am raglen LEADER II yr Undeb Ewropeaidd i ddatblygu ardaloedd gwledig

Ar gael hefyd yn Saesneg / Also available in English

Ymgyrch i hybu cig eidion sy'n tarddu o Fôn, ac i hybu'r Ynys fel cynhyrchwr eidion o'r safon uchaf yw Cig Eidion Môn . Drwy weithio gyda phawb sy'n rhan o'r gadwyn fwyd - o'r ffarmwr hyd at y siop gig neu'r bwyty, rydym wedi sicrhau bydd gennych chi hyder fod y cig eidion sy'n cael eu brynnu yn gallu cael ei darddu yn ôl i'r ffarm lle eu magwyd.

Mae Sir Fôn yn enwog am fod yn ardal sydd a traddodiad o orffen eidion oddi ar laswellt i safon uchel. Mae'r traddodiad o orffen eidion yn y ddull yma yn sicrhau cig o'r safon gorau.

Mae'r cyfle i chwi flasu'r cig eidion yma dros eich hunain - gyda hyder - os ydych chi'n prynnu Cig Eidion Mon o gigyddion lleol i baratoi yn y cartref, neu allan yn y tai bwyta.

Yr unig beth sydd rhaid i chi wneud yw edrych am y defnydd marchnata yn y siopau cig (sticeri ffenest a posteri) neu'r tai bwyta (cardiau), sy'n eich atgoffa eu bod yn cynning Cig Eidion Môn .

LLe bynnag y byddwch yn prynnu neu bwyta Cig Eidion Môn , mae'n bosibi chi ofyn i weld y tystysgrif sy'n dangos eich bod yn cael y gwir beth!

Mae'r safle yma yn cynnwys rhestr o gigyddion ar Ynys Môn. Cofiwch alw i fewn i unrhyw un o'r siopau cig yma a gofynnwch am Gig Eidion Môn - rydym yn sicr na fyddwch yn siomedig!

 

Contents copyright/ Cynnwys hawlfraint: Menter Môn , CyswlltCyf , 1997-99.

Rhagor am Fôn / More about Anglesey

menternet