|
Ym marn Job Lopez-Smith, mae'n amhosib diffinio ystyr Celf. Mae ei waith ei hun yn deillio o ymchwiliadau i siapau a ffurfiau anifeiliaidd geometregol a lliw ar ganfas.
Fel y daeth yn fwy cyfarwydd a hwy daeth y cymeriadau yn fwy dynol ei ffurf. Mae ei waith felly yn symbylu siwrnai o berthynas rhwng cymdeithas a dynoliaeth. Yn sicr mae ei ddylanwadau, Max Beckan, Joseph Beuys, Otto Dix, â diddordeb yn y dirfodol yn dod yn boliticaidd neu gymdeithasol. Efallai ei bod yn haws deall pwrpas gwaith Jon fel ymrwymiad gyda sylwadau ar y byd cyfoes rhyfedd yr ydym yn byw ynddo. Mae ei gartwnau, rhai'n gwennu, eraill yn sgyrnygu, yn ffurfio delweddau cyfochrog cyfoes o dwnel y sianel ochr yn ochr ag eicon ddelwedd o ffigwr ar groes. Mae'r gwerth addysgol eto'n cael ei efylychu gan gelf Astec gynnar, dylanwad y mae Jon yn adnabod yn ei waith. Nid yw Jon eto wedi cynhyrchu yr hyn y mae ef yn ei ystyried yn ddarn gwir lwyddiannus; serch hynny, mae'n hoffi ymateb pobl i'w waith, yn dda neu'n ddrwg. "Dyma beth sy'n fy ngwir ysgogi i ddal ymlaen i arbrofi," meddai. Mae cymar Jon, Helen Lopez , yn arlunwraig lwyddiannus, ond gwell gan y ddau weithio arwahân yn eu cartref ger Pentraeth; y ddau yn dymuno ymchwilio am eu hunaniaeth eu hunain drwy eu gwaith. "Rwy'n ceisio peidio meddwl am gelf fel masnach tra rwy'n gweithio ar fy narluniau - mae'n codi ofn arnaf - ond rwy'n ostynedig i ddefnyddio fy ngallu." Mae byw ar yr ynys wedi cael dylanwad cadarnhaol ar ddatblygiad Jon fel arlunydd: "Dwi'n meddwl bod Ynys Môn yn le arbennig ac mae ganddi atyniadau crai, prin. Mae hi y math o le y mae problemau a syniadau yn cael ei torri i'w hanfod". Mae Jon yn dysgu celf mewn ysgol anghenion arbennig yn Llandudno. |
Written material,unless otherwise stated, copyright
Dryw
1998-99
Artwork copyright each artist