|
Mae paentiadau Helen Lopez wedi eu crefftu'n dwyllodrus o dda a chadernid lliw ei gwaith oddi mewn i ffurf gor-syml y delwau, yn cynhyrchu dyfnder, dimensiwn a symudiad sydd, tra'n bod yn aruthrol o gryf o dirgrynol, yn cadw ysgafnder rhyfeddol. Mae'r delw a'i ddefnyddir ganddi yn help mawr i'r driniaeth hon. Daw ei holl gyfansoddiadau allan o gymysgedd o gofion diffiniedig unigol; môr, adar, coed, angylion, blodou, rhywioldeb, hi ei hun a chysylltiadau. Ymddengys bod y wahanol themau yn cyrraedd yn glystyrau yn union fel petaent, yn ddiweddar, wedi eu ysgubo at eu gilydd yn ei meddwl, ac yn sydyn yn cael eu gwasgu allan mewn paent. Peidiwch, serch hynny, a chael eich camarwain. Mae'r cyfansoddiadau hyn yn hynod o dynn a chytbwys; arwydd o'i sgiliau academaidd yn elwa o flynyddoedd o edrych ar waith a phaentiadau rhai eraill, yn ogystal â'i arlunio ffurfiannol yn ystod blynyddoedd ysgol. Nid arlunwraig naif mo'r artist. Mae'i dealltwriaeth dwfn o liw, goleuni a ffurf yn ei galluogi i gynhyrchu y portreadau meddyliol hyn. Awgryma y delwau meddyliol angenrheidiol artistaidd frys i glirio lle yn y meddwl er mwyn geni y paentiad nesaf. Yn yr ystyr hwn, mae'r canlyniad terfynol mewn llawer ffordd yn ddigymysg a'r ansawdd hwn, sy'n dangos allan talent, a chy da hyn y cofier a bernir gwaith Helen Lopez (Steve Brake) |
|
|
|
|
|
|
|
Written material,unless otherwise stated, copyright
Dryw
1998-99
Artwork copyright each artist