|
Mae Jenny wedi bod yn gweithio yn y maes tecstiliau a chynllunio ers nifer o flynyddoedd, ond am ei darluniadau o bobl drwy gyfrwng pastelau yr adnabyddir hi orau. Er mai fel athrawes y bu iddi gael ei hyfforddi yn wreiddiol mae'n teimlo bod gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol yn cyfyngu ar yr amser ar adnoddau a ganiateir i'r plant i ddatblygu eu galluoedd cynhenid. Gyda hyn mewn golwg, mae hi bellach yn cydweithredu ag arlunydd arall, David Chambers , i gynnig gweithdai celf ble mae plant o bob oed yn rhydd i fwynhau heb rwystrau strwythurol gwersi, o fewn awyrgylch braf yr oriel gelf. Cafodd Jenny ei chyflwyno i'r byd celf gan yr adran hanes gelfyddydol mewn gwyddoniadur. Astudio technegau a chynnwys, ag arlunwyr hen a chyfoes yn gynnar yn ei bywyd a arweiniodd at ddatblygiad ei dull unigryw ei hun. |
Written material,unless otherwise stated, copyright
Dryw
1998-99
Artwork copyright each artist