|
Am gywreinrwydd a manylder ei luniau dyfrliw o adeiladau hanesyddol yr adnabyddir David Chambers orau ar Ynys Mon.
Er engraifft, rhwng 1992 ag 1994 mae wedi cofnodi ar ganfas pob eglwys sydd ar yr ynys, gan gerdded milltiroedd i ddarganfod adeiladau yn aml, yn adfail a gwag. 'Roedd eu darganfod a'u darlunio yn brofiad gwefreiddiol rwy'n falch o fod wedi ei brofi oherwydd bod eglwysi yn rhan bwysig yn nhreftadaeth y gymuned'. Mae'r 92 o eglwysi ar 10 ffram bellach yng nghasgliad parhaol yr Oriel Ynys Mon. Mae David hefyd wedi cwbwlhau casgliad sylweddol o luniau melinau gwynt yr Ynys, y melinau dwr a'r plastai. Mae David yn edmygydd mawr o luniadaeth Turner. Ei sgiliau naturiol ei hun o ddrafftsmonaeth sydd wedi ei arwain gydol ei fywyd i feysydd astudiaeth a gwaith sydd wedi dylanwadu'n fawr ar ei beintiadau. Nid yw yn syndod iddo ddisgrifio pob un o'i luniau fel egwyddor diagramatig gywir. Er ei fod yn peintio o luniau y mae wedi ei dynnu a chamera ni ellir galw ei waith yn gopiau dyblyg o'r hun a welir yn y llun. Nid ydynt, meddai David, yn 'gelfyddydol gywir', yn y goddrychau mae'n ei greu o awyrgylch a theimlad i'r llun, drwy weithio o'r cof a chysylltiadau, hefyd, efallai, newid yr amser o'r dydd neu'r tymor er mwyn cynnwys ei bersonoliaeth ei hun i'r darlun. Mae David yn gwrando ar gerddoriaeth glasurol tra'n peintio gartref, operau yw ei ffefrynnau. Mae hefyd yn ymroddgar i unrhyw wybodaeth neu astudiaeth newydd y medr ei ddysgu, gan ymweld yn gyson a'r Amgueddfa Brydeinig ble mae'n cael llawer o ysbrydoliaeth. Mae gwaith David yn y gymuned yn cynnwys rhedeg cwmni bypedau hefo'i ddiweddar wraig o fwsiau corfforaeth ym Manceinion. Ei gyfathrach naturiol a phlant sy'n gyfrifol am y parch a roddir iddo gan rieni ag athrawon yn ogystal a'r plant ar Ynys Mon yn deillio o'r gweithdai arlunio poblogaidd mae'n ei gynnal yn ei ddull bersonnol, hawddgar ei hun. Mae'r ffaith bod 143 o blant wedi ymuno a'i weithdai diwethaf yn yr Oriel wedi ei ddiddanu yn hytrach na chodi braw arno. Daw dewis David o themau o'r hyn y mae'n ei wneud orau, serch hynny mae'n agored i unrhyw beth a ddaw, 'fe beintiaf unrhyw beth'. Ar hyn o bryd mae'n darlunio cerddi, cwblhau peintiadau gardd i ddarlithydd ag arlunio coedwig i'r Gelli Gyffwrdd. |
Written material,unless otherwise stated, copyright
Dryw
1998-99
Artwork copyright each artist