Llys Rhosyr

 

Llys Tywysogion Gwynedd yn ystod y Canoloesoedd

Click here for English version
Y cloddiadau

Dechreuodd cloddio archeolegol yn Llys Rhosyr yn 1992. Bum mlynedd yn ddiweddarach, ‘roedd chwarter arwynebedd cyfan y Llys wedi cael ei ddadorchuddio. Eisoes mae’r canlyniadau yn rhagori ar yr wybodaeth sydd ar gael o unnrhyw safle tebyg yng Nghymru. Mae’r safle’n unigryw o ran bod mecanwaith y llywodraeth a chynllyn damcaniaethol plasau brenhinol y Tywysogion yn wybyddus o ddogfennau, er hynny ni ellir gweld sylfeini llys brenhinol nac ymweld â hwy yn unman arall. Cynigia Llys Rhosyr gyfle digyffelyb i roi cnawd i ddamcaniaeth gyda gwir fanylion am adeiladau, trefn a datblygiad trwy amser un o’r prif safleoedd brenhinol o gyfnod annibyniaeth Gymreig.


Amlinellwyd llinell y mur amg á u gan gloddio prawf a chan arolygon geoffisegol Oes y Tywysogion

Oes y Tywysogion

Datblygodd y Tywysogion weinyddiaeth gref. Mewn economi nad yw’n arfer ag arian fel modd o gyfnewid, yn draddodiadol ‘roedd brenhinoedd ac arglwyddi eraill wedi cymryd eu rhenti a’u trethi ar ffurf lletygarwch, taliadu o fwyd o dir a llafur eu tenantiaid, gan deithio’n aml o gwmpas eu tiroedd i'w casglu. Talai pawb eu rhent fel degwm o gynnyrch eu caeau neu fel gwasanaeth llafur yn cario nwyddau ar gyfer yr arglwydd neu waith adeiladu yn y llys, neu ym melin yr arglwydd. Erbyn y drydedd ganrif ar ddeg mae patrwm y weinyddiaeth yn glir. Cynhaliodd y Tywysogion faerdref, neu stad frenhinol, ymhob isadran o’r deyrnas. Yma y gellid talu rhenti a threthi oddi mewn i bob rhanbarth. Swyddogion brenhinol a reolai’r faerdref yn absenoldeb y Tywysog. Gweithiai tenantiaid gaeau stadau’r Tywysog a darparodd tenantiaid eraill wasanaethau llafur er mwyn cynnal a chadw’r llys a’r melinau brenhinol, gan sicrhau y byddai’r Tywysog a’i osgordd yn cael digon o fwyd.

Y Llys

Roedd y llys yng nghanol y faerdref. Yma y gellid dod o hyd i’r neuaddau brenhinol ac adeiladau pwysig eraill. Yma fyddai’r Tywysog yn aros pan fyddai’n ymweld â’r rhan honno o’r deyrnas. Cynhelid cyfarfodydd Cyngor a gwnaed penderfyniadau pwysig. Cyflwynodd Llywelyn Fawr siarter o Lys Rhosyr yn 1237.


Llys Rhosyr, fel y gallai fod wedi ymddangos yn y drydedd ganrif ar ddeg.

Yr adeiladau

Mae’r adeiladwaith a ddadorchuddiwyd hyd yma’n cynnwys neuadd fawr o ddau gyfnod o leiaf, adeilad cyfagos a allai fod wedi cartrefu ystafelloedd preifat y Tywysog ynghyd ag adeilad tebyg, ansicr ei bwrpas, yn y cornel gogledd-ddwyreiniol. Mae sylfeini’r mur a amgylchynai’r llys i'w gweld yn glir ar yr ochr ddwyreiniol. Mae’n hysbys fod maint llawn y tir amgaeëdig wedi ymestyn dros ardal 65 metr o’r gogledd i’r de ac 80 metr o’r dwyrain i’r gorllewin. Mae ymestyniadau newydd o’r mur a ddadorchuddiwyd yn ystod 1996 wedi eu cadw’n arbennig o dda ac maent yn sefyll hyd at 1.2 metr mewn uchder. Mae gweddill y cwmpas a’r adeiladau sydd ar ôl yn gorwedd o dan y tywod, yn aros i gael eu cloddio. Cafwyd hyd i nifer o arteffactau sy’n awgrymu bod y cwmpas â mur a’r adeiladau cysylltiol yn dyddio o’r drydedd ganrif ar ddeg ac y gadawyd y safle ym mlynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar ddeg.

Rhosyr a Niwbwrch

Cysylltir tarddiad a thwf Niwbwrch yn agos iawn â chanlynadau buddugoliaeth Edward I ar Lywelyn. Penderfynodd Edward adeiladu castell newydd a thref yn Miwmares, ar yr Afon Menai, o fewn tafliad carreg i faerdref Gymreig Llanfaes yng nghwmwd Dindaethwy. Roedd y gymuned wedi’i diboblogi. Gorfodwyd y bwrdeiswyr i symud yn un crynswth ar draws yr ynys i Fwrdeistref Newydd a gynlluniwyd yn benodol i'w hailgartrefu ar 90 acer o dir Rhosyr.

Twf cymuned

Cafodd Niwbwrch ei siarter ym 1303. Yn ystod gaeaf 1330, gorletheyd 211 acer o dir gan fôr a thywod a chollwyd unarddeg o fythynnod. Yn 1352, 'roedd gan 54 o denatiaid 145 eiddo yn y dref newydd yn ychwanegol at y ‘taeogion pur’, 17 ‘taeog rhydd’ a 9 'garddwr’ a ddaliai denantiaeth ar gyn diroedd y faerdref. Dyma’r Niwbwrch a ddisgrifir ym marddoniaeth ar gyn diroedd y faerdref. Dyma’r Niwbwrch a ddisgrifir ym marddoniaeth Dafydd ap Gwilym:

Tref Niwbwrch, tref iawn obaith, a’i glwysdeg deml a’i glasdyr, a’i chwrw a’i medd a’i chariad, a’i dynion rhwydd a’i da’n rhad.

Cystedledd nef o’r trefi…lle brenhinawl.
Lle diofer i glera…lle ym ym, ar y llw mau

Ond, gadawyd nifer o diroedd yn wag wedi gwrthryfel Owain Glyndwr.

Roedd gwneud rhaffau, rhwydi a matiau o forseg yn ddiwydiant lleol. Mae gorchymyn o gyfnod y Frenhines Elisabeth I yn gwahardd codi moresg mewn yndrech i rwystro cario tywod ar ganrif ar bymtheg ac anfonodd aelodau Seneddol dros y Fwrdeistref.

Rhoddwyd Institiwt Prichard Jones i’r pentrf yn 1902 gan Syr John Prichard Jones. Ganed Syr John yn Niwbwrch ac yr oedd yn gymwynaswr lleol mawr. Yn 1992 dechreuodd cloddio yng Nghae Llys ddadorchuddio sylfeini Llys Rhosyr, un o balasau Tywysogion Gwynedd.

LlysRhosyr


Ymddiredolaeth Archeolegol
Gwynedd Archeological Trust


Ymddiredolaeth Treftadaeth
Niwbwrch Heritage Trust


Menter Môn


Cyngor Sir Ynys Môn
Anglesey County Council

Contents Copyright/Cynnwys hawlfraint: Menter Môn, Cyswllt Cyf
1997-99. Arlunydd, Designed by keith openshaw.

menternet