Cylchlythyr i fudiadau gwirfoddol Ynys Môn Rhif Elusen Rhifyn 13 Gorffennaf 1999 Amcan 1
Cynhaliwyd cyfarfod llwyddiannus iawn i drafod oblygiadau Amcan 1 ir sector gwirfoddol/cymunedol. Daeth 40 o gynrychiolwyr at eu gilydd i glywed am y datblygiad, a phenderfynwyd gofyn ir canlynol ffurfio Grwp Tasg i ddatblygu strategaeth datblygu cymunedol ir Ynys:
Nid ywn anorfod mai barn GGYM a fynegir yn y cyhoeddiad hwn. Cadwn yr hawl i olygu cyn cyhoeddi. Dyluniwyd a dosbarthwyd y cylchlythyr hwn gan GGYM. CYNLLUNIO GO IAWN I LANGEFNI Cynhaliwyd 2 ddiwrnod Cynllunio Go Iawn i roi cyfle i drigolion Llangefni fynegi barn ynglyn â datblygiad economaidd a chymdeithasol y Dref ir Mileniwm nesaf. Os am fwy o wybodaeth am y dull yma o Gynllunio Cymunedol ich ardal chwi, cysylltwch â Mari yn y Swyddfa ar . CAERGYBI Y ffordd ymlaen Cynhelir cynhadledd bwysig i ystyried dyfodol Tref Caergybi ar 22 Gorffennaf 1999 yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi. Am fwy o wybodaeth cysylltwch ac Adran Datblygu Economaidd, Cyngor Sir Ynys Môn. CYFARFOD BLYNYDDOL
Cynhelir Cyfarfod Blynyddol
Dychwelwch eich papurau enwebiadau ir Pwyllgor Rheoli erbyn 18 Awst 1999. ADDUNED IR BLANED Ar hyn o bryd maer ymgyrchwyr ecolegol Mynd am y Gwyrdd yn ceisio cael miliwn o bobl o amgylch Prydain i wneud newidiadau bach yn y ffordd maent yn byw fydd yn gwneud gwahaniaeth i gyflwr y blaned. Erbyn hyn mae miloedd wedi arwyddo y pecyn addunedu ac mae Ymgyrch Cadw Cymrun Daclus, syn trefnu Adduned ir Blaned 2000 yng Nghymru, yn obeithiol iawn o gyrraedd targed o 50,000 o addunedwyr. Yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanbedr daeth sêr y byd teledu, plant ysgol ac aelodau or cynulliad ymlaen i addunedu i wneud newidiadau bach yn y ffordd maent yn byw er mwyn gwellar amgylchedd. Bydd y sesiwn nesaf o addunedu yn cymryd lle ar faes Eisteddfod Genedlaethol Môn yn ystod yr wythnos gyntaf ym mis Awst, ac i roi hwb ir niferoedd byddent yn ddiolchgar iawn i dderbyn eich cefnogaeth. Maent yn sicr y byddwch yn adnabod pobl a fyddain barod i roi ychydig ou hamser yn ystod yr Eisteddfod i esbonio gwerth o wneud newidiadau bach i wellar amgylchedd, a hefyd gofyn iddynt lenwi y ffurflen addunedu. Bydd enw pawb syn addunedu yn cael ei ddangos mewn un neu ddau o safleoedd amlycaf Cymru yn ystod Ionawr 2000.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â
CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU A PHWYLLGORAU RHANBARTHOL Y CYNULLIAD
Canolfan Gynadledda Gogledd Cymru, Llandudno - 2.00pm 4.00pm
Bydd y sesiwn yn gyfle i chi:
Os carech fod yn bresennol, cysylltwch ar swyddfa âr . EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU Bydd Gwasanaethau Gwirfoddol Ynys Môn â phresenoldeb yn Pafiliwn Sbardun ar faes yr Eisteddfod, gyda 9 o grwpiau lleol. Dowch in gweld. Cyhoeddir rhifyn arbennig o Dan Do Môn i ddathlur Eisteddfod, gyda gwybodaeth ar weithgareddau gwirfoddol yn ystod yr Wyl. SIOE MÔN 10 a 11 Awst 1999 Dowch in pabell ar gaer Sioe. Bydd 9 o fudiadau lleol yno gyda ni. YMDDIRIEDOLAETH CEMLYN-JONES
Mae Ymddiriedolaeth Cemlyn-Jones, a gofrestrwyd gydar Comisiwn Elusennau yn 1994, yn ffafrio grantiau i fudiadau elusennol yng Ngogledd Cymru ac ar Ynys Môn. Yr amcanion yw cadwraeth a diogelwch mwynderau cyhoeddus, diddordebau hanesyddol a chyhoeddus yng Nghymru; ymchwil iechyd; diogelwch a lles anifeiliaid ac adar; astudio a hyrwyddo cerddoriaeth; a gweithgareddau a gofynion cyrff crefyddol ac addysgol. Mae hyd at £1 miliwn mewn asedau, a rhoddwyd £59,000 o grantiau yn 1997/98.
PARTNERIAETHAU CYDWEITHREDOL Mae cynllun gwobrwyo cymunedol y mudiad cydweithredol, Partneriaethau Cydweithredol a lansiwyd yn 1997 yn gweithio gyda Crime Concern a Cynnal Gofalwyr i dargedu prosiectau syn ymateb ir amodau cymdeithasol ac economaidd syn meithrin tor cyfraith, yn ceisio datblygu cyfrifoldeb ar y cyd mewn cymunedau, neu yn gweithio gyda throseddwyr sydd am newid eu ffordd o fyw. Gall prosiectau edrych ar waith gyda phobl ifanc i sicrhau bod ganddynt ddulliau adeiladol o ddefnyddio eu hamser hamdden; prosiectau cymdogol i amddiffyn y bregus; darparu cyswllt lleol iddynt, ac efallai yn gwneud yr hinsawdd ffisegol yn saffach. Dywedodd Julia Youd, trefnydd Partneriaethau Cydweithredol, "yr ydym yn annog grwpiau syn gweithio yn y meysydd yma i gysylltu â ni, efallai allem gynnig cymorth, yn y pen draw yr ydym eisiau adeiladu pontydd rhwng pobl o wahanol gefndiroedd a gwahanol genedlaethau i wneud y cymunedau lle rydym yn byw yn saffach, ac yn llefydd y gallem fod yn falch ohonynt". I fod yn gymwys am wobr Partneriaethau Cydweithredol, ich cynllun fod wedii leoli neun gweithredu mewn cymuned oddi fewn i 5 milltir o siop fwyd Cydweithredol (Co-op), neu 10 milltir on mannau gwerthu eraill.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â hwy ar gan adael eich enw, cyfeiriad a côd post yn ogystal â rhif ffôn dydd, neu ysgrifennwch at
Bartneriaethau Cydweithredol,
Rhaid anfon ceisiadau erbyn 11 Awst 1999. Hysbysir grwpiau llwyddiannus yn ystod Hydref/Tachwedd, gyda chyflwyniad grantiau yn ystod mis Rhagfyr. Bartle Family Charitable Trust Ymddiriedolaeth newydd ywr Bartle Family Charitable Trust syn cynnig grantiau i gynorthwyo plant gyda anableddau, salwch neun ddefreintiedig eleni. Mae grantiau i fyny at £5000 ar gael tuag at adeiladau, cyfalaf a phrosiect ond nid i unigolion. Am fwy o wybodaeth ffoniwch 0. Life Insurance Association Charitable Foundation Blaenoriaethau Life Insurance Association Charitable Foundation am 1999 yw Bywyd i Blant cynnal elusennau syn gweithio gyda phlant sydd wediu heffeithio gan anabledd neu glefyd. Cysylltwch â Virginia Crispin ar . CYNGOR GWEITHREDU GWIRFODDOL CYMRU Newid Cyfeiriad
Mae swyddfa CGGC wedi symud i
Addysg a hyfforddiant
Ydych chwin gweithio yn y sector gwirfoddol? Mae safonau galwedigaethol NTO (National Training Organisation) yn datrys problemau. Mynnwch wybodaeth ar y safonau a'r NTO sector gwirfoddol drwy gysylltu â
PROSIECT AGORIAD - DIWRNODAU HYFFORDDIANT AR DDYLUNIO CYMUNEDOL Trefna Prosiect Agoriad gyfres o ddiwrnodau hyfforddiant ar gyfer cynrychiolwyr gwirfoddol a chymunedol, sydd yn edrych am gyngor a hyfforddiant ar bynciau dylunio adeiladau i brosiectau cymunedol. Mae prosiect Agoriad wedi cynnal nifer o ddiwrnodau hyfforddiant tebyg i ddylunwyr proffesiynol sydd yn edrych am hyfforddiant a chyngor i ddylunio cymunedol. Gan fod diwrnodau hynny yn profi yn llwyddiant, maent wedi trefnu diwrnodau tebyg i sefydliadau gwirfoddol a chymunedol, yn cynnwys cynrychiolwyr o Gynghorau Gwirfoddol Cymunedol, Grwpiau Leader, The Princes Trust a sefydliadau rhyngol eraill. Yn ddelfrydol, hoffent gael o leiaf un cynrychiolydd och sefydliad yn bresennol. Bwriad y sesiynau yw rhoi hyfforddiant a chyngor i fudiadau am bynciau sydd yn effeithio ar ddatblygiad cymunedol a dylunio adeiladau, syn berthnasol ich grwp gwirfoddol neu cymuned lleol. Fe fydd diwrnod hyfforddiant lleol yn cynnwys sesiynau ar Astudiaeth Ymarferoldeb a Phroses Dylunio & Adeiladu.
Bydd y diwrnod yn edrych ar beth i ddisgwyl o ddylunydd, sut i ddarganfod help proffes-iynol, beth ddylid ei gynnwys mewn proses ymarferoldeb, a beth syn digwydd ar ôl i chi gael yr arian. Cynhelir y diwrnodau hyfforddiant yn ystod mis Hydref mewn tri lleoliad rhanbarthol yng Nghymru:
Os am fynychu, nodwch pa leoliad y dymunwch ei fynychu, ai anfon gyda thaliad o £10.00 at;
Michael J Goode,
COLEG MENAI Mae Coleg Menai yn cynnig cwrs Cyfrifiaduron yn y Gwaith yn rhan amser yn rhad ac am ddim am 16 wythnos yn Llangefni, yn dechrau wythnos 13 Medi 1999. Am sgwrs anffurfiol am y cam gwerth chweil hwn ffoniwch y Coleg a gofynnwch am estyniad 2256. CIST GYMUNEDOL Os am grant tuag at eich gweithgaredd chwaraeon neu hamdden, cysylltwch â Janice Thomas ym Mhlas Arthur a gofynnwch am fanylion y Gist Gymunedol. Rhif ffôn Plas Arthur yw .
COMISIWN ELUSENNAU
AM FWY O WYBODAETH CYSYLLTWCH Â
Gwaith Gwirfoddol a Budd-dâl Anallu
O 5 Hydref 1998 nid oedd cyfyngiad yn nifer yr oriau y gallai unigolyn syn derbyn Budd-dâl Anallu eu gwirfoddoli (yn flaenorol y cyfyngiad oedd 16 awr yr wythnos).
I dderbynwyr unrhyw fudd-dâl y wladwriaeth maer Biwro Gwirfoddolwyr, fel arfer da, yn holi/cynghori ynghylch:
Os caiff darpar wirfoddolwr ich mudiad anawsterau gydau Fudd-Dâl Anallu, cofiwch gysylltu âr Biwro am gymorth ychwanegol. Dylai manylion o unrhyw achosion lle mae derbynwyr Budd-dâl Anallu wedi cael symud eu hawl i 1B neu eu hail-asesu oherwydd eu cyfranogiad mewn gwaith gwirfoddol gael eu hestyn ymlaen unai, cysylltwch yn anuniongyrchol âr Biwro neu yn uniongyrchol i Gymdeithas Genedlaethol y Canolfannau Gwirfoddoli (NAVB) syn weithredol yn ceisio dylanwadu ar y Llywodraeth.
Ymddiriedolaeth PPP Healthcare Medical Bydd Ymddiriedolaeth PPP Healthcare Medical, a ail-lansiwyd y llynedd, yn un or elusennau grantiau mwyaf yn y DU, gyda £17miliwn iw ddosbarthu pan yn gweithredun llawn. Eleni bydd incwm o tua £10.5miliwn. Lansiwyd y cynllun grantiau cyntaf yn ystod mis Ionawr, gyda 2 raglen gydar themâu canlynol gwobrau datblygu canol-gyrfa i weithwyr gofal iechyd, a gwobrau myfyrwyr meddygol. Nod y rhaglenni yw cynnal mentrau ymchwil, hyfforddiant a datblygu gwasanaeth syn edrych ar "maint a effaith iechyd meddwl a/neu anableddau dysgu mewn plentyndod a llencyndod" a "syn gallu gohirio ag atal cyflwr anabledd neur angen i ofal hirdymor neu gyfnod lem mewn ysbyty i bobl hyn".
Canllawiau a ffurflenni cais ar gael or Ymddiriedolaeth - 13 Cavendish Square, Llundain, WIM SDA, ffôn: neu gweler eu safle ar y we:
EIN CYFEIRIAD YW :
Gwasanaethau Gwirfoddol Ynys Môn
e bost: Noson Allan i fudiadau gwirfoddol Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn rhoi cynnig i fudiadau gwirfoddol ym mhob cwr or wlad i ddod ag adloniant proffesiynol ym maes y celfyddydau i ganolfannau lleol heb dalu dim byd tebyg ir gost wirioneddol. Am fwy o wybodaeth ynglyn â Noson Allan cysylltwch â John Prior ar . AWDURDOD IECHYD GOGLEDD CYMRU Maer Awdurdod wedi cyhoeddir ddogfen Gwasanaethau Ysbytai Cymuned Yng Ngogledd Cymru Eu Datblygiad Dros y 5 Mlynedd nesaf. Os am ymateb ir ddogfen gofynnwch am gopi oddi wrth y Prif Weithredwr, Awdurdod Iechyd Gogledd Cymru, Preswylfa, Yr Wyddgrug, neu mae copïau ar gael or swyddfa drwy ffonio Wendy ar . CYNLLUN PROSIECTAU CYMUNEDOL DULUX Mae Cynllun Prosiectau Cymunedol Dulux blynyddol yn rhoddi paent i grwpiau cymunedol lleol ac elusennau i gynlluniau unwaith ac am byth. Yn ychwanegol y flwyddyn yma mae cyfle i ennill gwobr cenedlaethol arbennig Paent Mileniwm o £1,000. Rhoddir y wobr ir grwp syn cyflwyno y cynllun mwyaf creadigol a gweledigaethol syn dangos ennyd mewn amser neu ddathlur 20ed ganrif.
Anfonwch amlen A4 wedii stampio at:
CYMORTH CRISTNOGOL
Mae swyddfa Cymorth Cristnogol Gogledd Cymru wedi symud i:
BWRDD YR IAITH GYMRAEG Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi cyhoeddi taflen yn esbonior cynllun grantiau bach. Y nod yw cynnig cymorth ariannol i fudiadau sydd am gynhyrchu deunydd dwyieithog e.e. llyfrynnau, pamffledi, posteri, arwyddion a safleoedd ar y we. Am fwy o wybodaeth cysylltwch âr Bwrdd ar . Canolfan Bedwyr Mae Canolfan Bedwyr Prifysgol Cymru Bangor wedi lansio CD ROM sydd wedii anelu at bobl syn defnyddior Gymraeg yn y gweithle. Bydd Cymarfer y Gweithle yn rhoi cyfle i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr i wellau Cymraeg ysgrifenedig drwy gyfres o ymarferiadau. Wedii ariannun rhannol gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, am fwy o wybodaeth cysylltwch â . Cyfieithu Os am drafod eich anghenion cyfieithu ysgrifenedig neu ar y pryd, cysylltwch â Dafydd Gruffydd, Menter Iaith, Menter Môn ar . Mae rhaglenni CySill, CysGair a Cymarfer y Gweithle ar gael am brisiau gostyngedig.
Contents copyright / Cynnwys hawlfraint : Menter M
Ô
n, Cyswllt Cyf
|