|
|
|
|
|
||
|
Cylchlythyr i fudiadau gwirfoddol Ynys Mon
|
||
|
|
||
|
|
NADOLIG LLAWEN A BLWYDDYN NEWYDD DDA ODDI WRTH STAFF A BWRDD RHEOLI MEDRWN MON. BYDD SWYDDFEYDD MEDRWN MON AR GAU O HANNER DYDD LLUN, 24 RHAGFYR AC YN AIL AGOR AR DDYDD MERCHER, 2 IONAWR 2002. |
|
|
||
|
Grantiau Hybu Iechyd Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi bod £200,000 ar gael i fudiadau gwirfoddol cenedlaethol ar gyfer gwella gwaith hybu iechyd yng Nghymru. Mae cynllun grantiau hybu iechyd y gwiroddol yn cynnig grantiau i fudiadau cenedlaethol sy'n weithredol yng Nghymru sydd a'u gwaith yn cyd-fynd a stategaeth Hybu Iechyd a lles y Cynulliad. Dyma'r meysydd a gaiff flaenoriaeth ar gyfer nawdd:
Ffurflenni cais a gwybodaeth bellach ar gael oddi wrth:
Natalie Jones,
Bydd nawdd ar gael am ddwy flynedd o Ebrill 2002 ymlaen. |
||
|
|
||
|
|
Cronfa Adfywio Lleol a weinyddir gan Medryn Mon Ystyrir ail rownd ceisiadau diwedd Ionawr 2002. Os yw eich mudiad/grwp a diddordeb ymgeisio am yr arian yna cysylltwch a Mari Jones ar am fwy o wybodaeth a ffurflen gais. Gwahoddir grwpiau i anfon storiau/hanesion byr erbyn 31 Ionawr 2002 os y dymunwch i'w cynnwys yn Dan Do rhifyn 30, dechrau Chwefror 2002. |
|
|
||
|
GWYBODAETH
|
||
|
|
||
|
WYTHNOS DDYSGU OEDOLION GWOBRAU 2002 Bydd Wythnos Ddysgu Oedolion yn cael ei chynnal rhwng 11-17 o Fai, 2002. Un o brif nodweddion yr wyl yw i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o gyfleon dysgu. Mae NIACE Dysgu Cymru wedi lansio Cynllun i wobrwyo unigolion a grwpiau. Mae'r gwobrau yn rhoi gwir gyfleon i glywed storiau pobl sydd wedi defnyddio Dysgu oedolion i newid eu bywydau. Am fwy o wybodaeth a ffurlenni cais cysylltwch a Kay Smith Swyddog Hyrwyddo, NIACE Dysgu Cymru ar: Ffacs: |
||
|
|
||
|
||
|
|
||
|
TIM TROSEDDU IEUENCTID GWYNEDD MON - PROSIECT CYNLLUN CYFEIRIO
|
||
|
|
||
|
Ym mis Ebrill 2002 bydd cynllun newydd gan y Llywodraeth yn dod i rym-cynllun fydd yn caniatau i droseddwyr ifanc sy'n troseddu am y tro cyntaf 'wneud iawn' am eu trosedd drwy dalu'n ol ir gymdeithas neu'r unigolion. Bydd panel o bobl o'r gymdeothas yn penderfynu beth fyddai orau i'r unigolion. Gall hyn olygu bod y troseddwr a'r dioddefwr yn cael dod wyneb yn wyneb (dibynnu ar y dioddefwr) neu'n cyfathrebu trwy lythyr. Yn ystod yr holl broses byddwn yn gweithio'n agos gydog asiantaethau megis 'Vitcin Support' i sicrhau bod teimladau a lles y dioddefwr yntau yn cael eu hystyried. Nid ar chware bach mae panel yn dod i benderfyniad. Air ol hyfforddiant priodol bydd aelodau'r panel yn trafod amgylchiadau a chefndir y troseddwyr gan fod yn ymwybodol o deimladau y dioddefwr yn y broses. Gall troseddwyr ifanc 'wneud iawn' drwyu amrywiaeth o wiath megis gweithio'n ddi-dal i'r gymuned neu mewn ambell i achos, yn uniongyrchol i'r dioddefwr. Gall amrywio gan ddibynnu pa mor edifar ydi'r trosedwr a pha mor difrifol yw'r drosedd. Yn sicr rhoddir pwyslais ar y fenter yma i weithio gyda'n gilydd i greu cymuned saffach ac i fod yn fwy ymwybodol o'r canlyniadau sydd i droseddu. Dylaai lles y gymuned fod yn bwysig i bob un ohonom yn ogystal a lles yr unigolion sy'n byw ynddi. Mae gan bawb yr hawl i ail-gyfle mewn bywyd a thrwy agwedd mwy positif a gwell cyfathrebu hefo'n gilydd medrwn obeithio am lai o dor-cyfraith ymhlith ein hieuenctid. Rydym yn edrych am wirfoddolwyr i fod yn aelodau o'r panel. Os a diddordeb cysylltwch a'r Tim Troseddu Ieuenctid Gwynedd/Mon ar: |
||
|
|
||
|
YDYCH CHI'N RHEOLI GWIRFODDOLWYR? Addysg Uwch mewn Rheolaeth Gwirfoddolwyr sydd wedi ei gynllunio'n ateb i anghenion hyffordiant rheolwyr yn y sector gwirfoddol.
Cysylltwch ag Eryl Roberts ar: (01248)383896 o Adran Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Cymru Bangor am becyn cofrestru a mwy o wybodaeth. |
|
|
|
|
||
|
HYFFORDDIANT
|
||
|
|
||
|
Ymarfer Da i Recriwtio a Chefnogi Gweithwyr Gwirfoddolwyr Yn yr oes ohoni mae llawer o gystadlu rhwng mudiadau i recriwtio a chadw gweithwyr gwirfoddol. Mae'n bwysig felly i ni fabwysiadu sustemau a pholisiau sy'n ein helpu i apwyntio y person addas i swydd arbennig, ac i gadw, cefnogi, mesur a phwyso ein gweithlu. Mae'r cwrs ynglwm a dulliau o ddenu gweithwyr gwirfoddol, sustemau penodi priodol, swydd ddisgrifiadau, cyfleon cyfartal, agweddau cyfreithiol o recriwtio a darparu cyfarwydddid a chefnogaeth cyfredol. Dydd Mawrth, 8ed Ionawr, 2002. 10.00am - 4.00pm |
||
|
|
||
|
Mudiadau Gwirfoddol a'r Gyfraith Mae'r cwrs yn datblygu ymwybyddiaeth o sawl deddfwrieth, sy'n berthnasol i Fudiadau Gwirfoddol. Mae'n cynnwys cyfleon cyfartal, Iechyd a Diogelwch, cyflogaeth, anabledd, rheolaeth gyllidol ac atebolrwydd. Mae'r rhaglen yn cynnwys cyfansoddiadau a'r rheswm dros gael un, mathau gwahanol o statws cyfreithiol. Annogir cyfranogwyr i edrych ar fathau gwahanol o ddeddfwriaeth yn berthnasol i'w mudiad eu hunain, a'r oblygiadau i'w (g)waith. Dydd Mawrth, 19eg Chwefror, 2002, 10.00am - 4.00pm |
||
|
|
||
|
||
|
|
||
|
NEWYDDION
|
||
|
|
||
|
Gwasanaeth Gwybodaeth Loteri ar y cud yn cael ei lansio yng Nghymru Mae Cynor Celfyddydau Cymru, y Gronfa Gymunedol, Cronfa Treftadaeth y Loteri, y Gronfa Cyfleoedd Newydd a Chyngor Chwaraeon Cymru wedi creu gwasanaeth newydd ar gyfer pobl yng Nghymru sy'n dymuno gwneud cais oddi wrth y loteri. Mae'r pum corff wedi cynhyrchu taflen ar y cyd ac wedi lansio safle ar y cyd ar y we er mwyn arbed dryswch ynghylch pa sefydliad sy'n ariannu beth. Gobeithir y bydd y gwasanaeth yn golygu y bydd mwy o bobl yn mwynhau ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol ledled Cymru. Mae'r daflen 'Nawdd y Loteri yng Nghymru' ar gael oddi Swyddogion y Loteri yn swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru yng Ngaerdydd, Bae Colwyn a Chaerfyrddin neu ar y safle we yn: www.lotterygoodcauses.org.uk |
||
|
|
||
|
Cy6nllun gwobrwyo ar gyfer ymgyrchwyr infanc Cynllun gwobrwyo newydd yn herio'r dybiaeth fod pobl ifanc yn eu harddegau yn y DU yn poeni am ned heblaw eu hunian.. Bydd Gwobrau Spotlight Yourturn.net yn cydnebod pobl ifanc 14-18 oed sydd wedi mynegi barn ac wedi cymryd camau ymarferol dros rywbeth y maent o'r farn sydd angen ei wella, ei newid neu ei greu yn eu hysgol, clwb neu gymuned. Bydd y buddugwyr yn derbyn £1,000 mewn tocynnauanrheg ar gyfer offer cyfrifiadurol, a bydd pob ymgeisydd yn derbyn tystysgrif o gydnabyddiaeth. Amragor o wybodaeth, neui wneud cais ar-lein, ewch i: www.yourturn.net |
||
|
|
||
|
NEWYDDION CYLLIDO
|
||
|
|
||
|
Ffocws ar Sefydliad Elusennol Jerwood Mae'r Sefydliad Elusennol wedi ymrwymo i gefnogi'r celfyddydau gweledol a pherffomio, ac addysg yn eu hystyr ehangaf trwy eu hariannu a'u noddi. Yn fwyaf arbennig, mae'r Sefydliad Elusennol yn ymdrechu i ddatblygu a chefnogi pobl ifanc sydd wedi arddangos addewid ac wedi rhagori ac a fyddai'n elwa trwy gael cymorth i lansio'u gyrfaoedd. Dyma'r prif flaenoriaethau ar hyn o bryd:
Ym mhob achos telir y grantiau ar sail 'un-tro'. Yn aml y gamp yw sicrhau nawdd her, gydag arian y Sefydliad yn cael ei ddefnyddio i ddenu arian o ffynonellau eraill. Mae pob grant yn cael ei asesu yn erbyn anghenion y prosiect, ond gallwch ddisgwyl derbyn hyd at oddeutu £10,000 ar gyfer prosiectau llai a hyd at £50,000 ar gyfer rhywbeth mwy uchelgeisiol. Asesir ceisiadau drwy'r flwyddyn, gallwch ddisgwyl penderfyniad o fewn chwe wythnos i gyflwyno'ch cais. Am fwy o wybodaeth a chanllawiau ar gyfer Sefydliad Elusennol Jerwood cysylltwch a:
Jerwood Foundation,
E-bostl: safle we: www.jerwood.org.uk |
||
|
|
||
|
||
|
|
||
|
Y Gronfa Risg Gymdeithasol - Grantiau 100% hyd at £10,000 ar gael ar gyfer prosiectau cymwys. Bydd y cynllun grantiau bach yn darparu nawdd i grwpiau cymunedol neu wirfoddol sy'n gallu llunio prosiect a fydd yn cyfrannu at adfywio'u heconomi lleol drwy wella lefel sgiliau a chynyddu cyfranogiad mewn Addysg, Hyffordiant, a Chflogaeth i grwpiau targed penodol. Prif nodweddion y cynllun - Grantiau 100% ar gael ar gyfer prosiectau hyd at £10,000 Dim angen arian cyfatebol - Dim amserlenni - Penderfyniad cyflym - ymateb i geisiadau o fewn mis i'w derbyn. Sut mae dysgu mwy am y cynllun - Cysylltwch ag ymgynghorydd CGGC, Aaron Walters, ym Mae Colwyn.
Ffon:
E-bost:
Cyfeiriad: 13 Heol Wynnstay,
|
|
|
|
|
||
|
|
||
|
NEWYDDION CYLLIDO
|
||
|
|
||
|
Cynlluniau Grantiau CGGC: Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn cynnig canllaw i'w cynlluniau grant. Mae cyfres o daflenni ar gael yn rhoi gwybodaeth o'r rhaglenni gwahanol i gefnogi y sector gwirfoddol/gymunedol, a reolir gan CGGC. Mae'r isod yn rhestr fer o'r cynlluniau, a pha grantiau sydd ar gael, hefyd yr enw cyswllt a'r rhifau ffon i unrhyw un sy'n dymuno mwy o wybodaeth. Arwain - Gwobrau Mieniwm I fyny at £2,500 i gefnogi gwirfoddolwyr. Cyswllt Dafydd Thomas ar: neu E-bostl: Adeiladau Cymunedol
£5,000 - £20,000 i atgyweirio a gwelliannau ar raddfa fechan. Cyswllt Eirian Jones ar neu E-bostl:
Cyswllt Cymunedol Ifyny at £250 i grwpiau cymunedol. Cyswllt Jemma Ward ar neu E-bostl: Enfys I fyny at £100,000 i gynyddu meysydd glas mewn cymunedau Cymreig. Cyswllt Mair Roberts ar neu E-bost: Cynllun Grantiau Iechyd Meddwl Lleol
I gefnogi cyfraniad y sector gwirfoddol i ofalu am bobl yn byw efo problemau iechyd meddwl a'u teuluoedd. Cyswllt Andrew Owen ar neu
Gwirfoddolwyr Millenniwm I fyny at £5,000 tuag at gostau gwirfoddolwyr ifanc, oedran rhwng 16-24. Cyswllt Jo Coles ar neu E-bost: Cyfalaf Risg Cymdeithasol
Cyllid i grwpiau gwirfoddol lleol i frwydro yn erbyn eithrio cymdeithasol, ac i gyftrannu i adfywio lleol. Cyswllt Ruth Lovell ar neu
Cronfa Gwirfoddoli yng Nghymru
(Cyllid wedi ei neilltuo rhwng Ebrill 2001 - Mawrth 2002)
Cysylltwch a CGGC ym Mae Colwyn neu Medrwn Mon - |
||
|
|
||
|
NEWYDION CYLLIDO
|
||
|
|
||
|
Sefydliad John Ellerman Nod y Sefydliad hwn yw cefnogi amrediad eang o elusennau yn y DU sy'n gwneud gwaith o bwys cenedlaethol yn y meysydd canlynol: Meddyggaeth ac anabledd - Datblygiad cymunedol a lles cymdeithasol Y Celfyddydau - Cadwraeth. Mae'r Sefydliad yn ymdrechu i ddyrannu llai o grantiau ond bod y rheiny yn rhai mwy, a datblygu partneriaethau gydag elusennau sy'n derbyn nawdd eisoes. Mae'r ymddiriedolwyr wedi mynegi awydd i weithio gyda mudiadau pencadlys a chyrff ymabrel yn hytrach na grwpiau lleol. Mae'r Sefydliad yn Ymwybodol ei bod yn mynd yn fwyfwy anodd cael gafael ar nawdd craidd, ac mae'n awyddus i dderbyn ceisiadau i'r perwyl hwn. Gofynnir i ymgeiswyr posibl ysgrifennu atynt yn y lle cyntaf gyda disgrifiad byr o'r elusen a'i angen am nawdd ar hyn o bryd. Ni ddylai'r llythyr fod yn fwy nag un neu ddwy dudalen A4, ac nid oes angen anfon adroddiadau blynyddol na deunydd cefndir ar yr adeg yma. Bydd ymddiriedolwyr yn penderfynu ar sail y llythyr hwn os ydynt am wahodd cais ffurfiol; os gwneir hynny, anfonir ffurflen gais atynt.
Dylid cyfeirio llythyrau at Eileen Terry,
Ffon:
|
||
|
|
||
|
GWYBODAETH - Staff Medrwn Mon
|
||
|
|
||
|
Wendy Flynn, Gweinyddwr yn delio a phob mater ariannol, cyflogau ayb. Yn enedigol o Ynys Mon, ond yn byw yng Nghaernarfon ers ei phriodas yn 1981. Wedi ei chyflogi gan Wasanaethau Gwirfoddol Ynys Mon ers ei ddechreuad ar 2 Ebrill 1997 pan y trosglwyddodd o wasanaethau Gwirfoddol Gwynedd lle bu'n gweithio gyda John R Jones, Prif Swyddog am 5 mlynedd. Medwyn Williams, Cyd-lynydd Car Linc Mon ers 4 mlynedd. Car Linc Mon yw'r cynllun cludiant cymunedol gyda dros 50 o yrrwyr gwirfoddol. Mae'n gweithio yn rhan amser yn ystod yr wythnos, ac ar gael rhwng 9.00am a 12.00pm. Jackie Riordan, Swyddog Gwybodaeth Gwirfoddoli yn delio a gwirfoddoli unigol a rhwydweithio gyda mudiadau gwirfoddol. Mae ar hyn o brynd ar gwrs Tystysgrif Addysg Uwch mewn Rheoli Gwirfoddolwyr a'r Sector Gwirfoddol ym Mhrifysgol Bangor. Cyn dychwelyd i Llangefni arferai fyw yn Swydd Efrog yn gweithio fel Cynorthwydd Nyrsio mewn Uned Iechyd Meddwl i'r Henoed. |
||
|
|
||
|
EIN CYFEIRIAD YW:
|
||
|
|
||
|
Ystafell 20 - Hyffordiant Mon
Llangefni Ynys Mon LL77 7JA Ffon: Ffacs: E-bost: |
|
Neuadd y Sir- Ffordd Glanhwfa
Llangefni Ynys Mon LL77 7TS Ffon: Ffacs: E-bost: |
|
|
||
|
|
||