Cylchlythyr i fudiadau gwirfoddol Ynys Môn
Rhif Elusen 1088828 Rhif Cwmni Rhifyn 28 Tachwedd 2001
Nid yw'n anorfod mai barn Medrwn Môn a fynegir yn y cyhoeddiad hwn. Cadw'n yr hawl i olygu cyn cyhoeddi. Dyluniwyd a dosbarthwyd y
cylchlythyr hwn gan Medrwn Môn.

Ymarfer Da i Recriwtio a Chefnogi Gweithwyr Gwirfoddolwyr

Yn yr oes ohoni mae llawer o gystadlu rhwng mudiadau i recriwtio a chadw gweithwyr gwirfoddol. Mae'n bwysig felly i ni fabwysiadu sustemau a pholisiau sy'n ein helpu i apwyntio y person addas i swydd arbennig, ac i gadw, cefnogi, mesur a phwyso ein gweithlu.

Mae'r cwrs ynghlwm â dulliau o ddenu gweithwyr gwirfoddol, sustemau penodi priodol, swydd ddisgrifiadau, cyfleon cyfartal, agweddau cyfreithiol o recriwtio a darparu chyfarwyddid a chefnogaeth cyfredol.

Dydd Mawrth, 8ed Ionawr, 2002. 10.00 am - 4.00 pm.

Sefydliad Lloyds T.S.B. yng Nghymru

Mae Sefydliad Lloyds T.S.B. yng Nghymru yn anelu i gefnogi a gweithio efo mudiadau elusennol sy'n cynorthwyo pobl i chwarae rhan mwy llawn yn eu cymunedau.

Dosberthir tua £1.55 miliwn i elusennau yng Nghymru am 2001.

Mae 2 prif faes a gefnogir gan y sefydliad:-
1 Anghenion Cymdeithasol a Chymunedol - mae hyn yn cynnwys materion fel cynghori a gwasanaethau cymunedol, pobl anabl a hyrwyddo iechyd.
2 Addysg a Hyfforddiant - er enghraifft, dysgu gydol oes, sgiliau llythrennedd, sgiliau hyfforddi i bobl anabl ac addysg cyn-ysgol.

Cyfraniadau fel arfer rhwng £500 - £10,000.

Cyn ymgeisio cysylltwch ag un o staff y sefydliad ymlaen llaw i drafod.

Sut i ymgeisio?
Ffurflenni cais ar gael gan:
Mike Lewis Lloyds TSB Foundation
Black Horse House, Phoenix Way, Enterprise Park, ABERTAWE SA7 9EQ
Rhif ffôn: Ffacs:

UIA (Yswiriant) Cyfyngedig

Mae UIA yn gwmni yswiriant sy'n gwasanaethu UNISON, undebau llafur eraill a mudiadau tebyg. Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Elusennol UIA yn 1999, i gyllido
elusennau cofrestredig yn gweithio efo 'y rhai dan anfantais mewn cymdeithas'.
Cefnogir grantiau yn genedlaethol a rhyngwladol sy'n ymwneud â:

Plant, Cynghori dyledion, Gor-ddibyniaeth ar Gyffuriau ac Alcohol, Henoed,
Digartrefedd aThai, Datblygiadau Tramor a Chymorth i Dlodi.

Gellir cael grantiau i fyny i gyfanswm o £10,000 (gellir ei rannu dros fwy na blwyddyn). Ystyrir ceisiadau o leiaf pedair gwaith y flwyddyn, darperir taflen benodol gan yr ymddiriedolaeth.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
Andrew Gay, UIA Charitable Foundation,
Kings Court, London Road, Stevenage, Herts. SG1 2TP.

Mudiadau Gwirfoddol a'r Gyfraith

Mae'r cwrs yn datblygu ymwybyddiaeth o sawl deddfwriaeth, sy'n berthnasol i Fudiadau Gwirfoddol. Mae'n cynnwys cyfleon cyfartal,iIechyd a diogelwch, cyflogaeth, anabledd, rheolaeth gyllidol ac atebolrwydd.
Mae'r rhaglen yn cynnwys cyfansoddiadau a'r rheswm dros gael un, a mathau
gwahanol o statws cyfreithiol.

Annogir cyfranogwyr i edrych ar fathau gwahanol o ddeddfwriaeth yn berthnasol i'w mudiad eu hunain, a'r oblygiadau i'w (g)waith.

Dydd Mawrth, 19eg Chwefror, 2002, 10.00 am - 4.00 pm.
(Gweler y slip amgaeedig ynglyn â'r ddau gwrs yma).

Ymddiriedolaeth Elusennol J Paul Getty

Mae'r elusen yn cyllido prosiectau yn ymwneud â thlodi a diflastod, yn arbennig
achosion amhoblogaidd. Mae'r elusen yn ffafrio mentrau sy'n codi hunan-barch i
alluogi pobl leol i gyrraedd eu potensial, a phrosiectau lleol bychan sy'n gwneud
defnydd da o wirfoddolwyr. Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau tu allan i Lundain a'r
De-Ddwyrain. Bydd ardaloedd blaenoriaeth yn cael eu hymestyn o drefi mewnol i
ardaloedd gwledig a threfi marchnad.

Blaenoriaeth yn cynnwys: Iechyd meddwl, Cymunedau difreintiedig, Swyddi neu greu swyddi i'r di-waith, ayb.

Am gopi o'r cyfarwyddiadau sylwch yn ofalus ar gategorïau a gefnogir cyn ymgeisio.
Cyswllt: Bridget O'Brien Twohig, Ymddiriedolaeth Elusennol J Paul Getty,
1 Park Square West, Llundain. WN1 4LJ. Ffôn: .

Marks and Spencer - Menter Gymunedol

Lansiwyd yng Ngorffennaf 2001, mae polisi cymunedol
newydd Marks and Spencer yn canolbwyntio
ar dri prif thêm -
Iechyd - Diogelwch - Addysg a Dysgu.

Mae iechyd yn ymwneud â: pobl hyn, pobl ag anableddau, effaith cancr ac afiechydon mawr eraill, a materion ynghlwm â iechyd meddwl.

Addysg a Dysgu yn cynnwys: paratoi pobl am waith, gwneud addysg o fewn cyrraedd, ac wedi ei anelu i anghenion oedolion, cefnogi sgiliau allweddol e.e. llythrennedd, rhifedd, a defnyddio technoleg gwybodaeth gyfathrebol, gweithio ag eraill, astudiaethau busnes, addysg iechyd bersonol, cymdeithasol, a phrinder sgiliau yn y diwydiant manwerthu.

Bydd diogelwch yn cynorthwyo prosiectau i roi amgylchedd fyw mwy diogel yn cynnwys: defnydd a bod yn gaeth i gyffuriau, gweithio gyda pobl ifanc mewn perygl, problemau pobl ddigartref a diogelwch cymunedol.

Strategaeth y cwmni yw creu a datblygu partneriaethau efo elusennau a mudiadau
cymunedol yn seiliedig ar barch a dealltwriaeth o anghenion y naill a'r llall.
Canolbwyntir ymdrechion sy'n cyllido grwpiau i gyrraedd cymunedau lleol.

Cefnogaeth ariannol ym amrywio rhwng £1,000 a £5,000.

Asesir ceisiadau ym Mehefin, Medi, Rhagfyr, a Mawrth.

I gael cyfarwyddiadau pellach a ffurflen gais cysylltwch â:

Marks and Spencer plc, Community Involvement,
Room D147, Michael House, Baker Street,
LLUNDAIN, W1V 8EP.

Ffôn:
E-Bost:
Safle'r We: www.marksandspencer.co.uk

Ceisiadau yn eisiau ar gyfer Sefydliad Nationwide

Cafodd Sefydliad y Nationwide ei sefydlu ym 1997 i wella ansawdd bywyd ac
amrywiaeth y cyfleon sydd ar gael i bobl mewn angen, hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a sicrhau buddiannau real a chynaliadwy i gymunedau.

Mae'r Sefydliad yn canolbwyntio ar dair thema:

Gwirfoddoli, Anfantais a Gwahaniaethau, ac Ansawdd Bywyd.
O dan y thema Gwirfoddoli, mae'r Sefydliad yn canolbwyntio ar gefnogi prosiectau sy'n cynnwys gweithredu ar lefel cymuned, gyda phwyslais yn cael ei roi ar
gymunedau mwyaf difreintiedig y DU.

Mae'r Sefydliad hefyd yn cefnogi gweithgareddau sy'n rhoi sylw i anfantais,
gwahaniaethu neu stigma. Y prif nod yw helpu pobl sy'n wynebu anfantais i
gyfranogi mewn prosesau penderfynu sy'n effeithio ar eu bywydau a herio'r stigma sy'n gysylltiedig â salwch meddwl.

Mae'r Sefydliad yn ymdrechu i hyrwyddo a chynnal lles aelodau difreintiedig o'r
gymuned. Yr amcan cyffredinol yw sicrhau bod pobl yn cadw'n iach, yn aros yn
annibynnol ac yn fywiog o ran meddwl a chorff gan ganolbwyntio ar ansawdd
bywyd a mynd i'r afael ag unigedd mewn cymunedau trefol a gwledig.

Mae'r Sefydliad yn rhoi grantiau i'r meysydd sydd o ddiddordeb arbennig iddo o fewn 12 ardal ranbarthol sy'n adlewyrchu Rhanbarthau Ystadegol Safonol y Llywodraeth. Bydd rhoddion yn amrywio o £500 hyd at £10,000 ac fe'u rhoddir unwaith yn unig. Bydd rhaid i ymgeiswyr sy'n dymuno derbyn nawdd dros y tymor hir ofyn cyngor y Sefydliad cyn cyflwyno cais am gefnogaeth.

Yn 200/01 cyfrannodd y Sefydliad gyfanswm o £142,701 i 21 o fudiadau yng Nghymru. Mae'n gobeithio cynyddu'r swm hwn ac mae'n croesawu ceisiadau gan fudiadau Cymreig sy'n gweithredu o fewn y themâu a nodir uchod.

Mae'n rhaid cyflwyno ceisiadau ar ffurflenni cais swyddogol.
I dderbyn ffurflen gais ysgrifennwch at
Foundation Office, Nationwide House, Pipers Way, Swindon SN38 2SN
Ffôn: Ffacs:
E-bost:
Am ragor o wybodaeth am Sefydliad y Nationwide, ewch i'w safle ar y we yn
www.nationwidefoundation.org.uk

EIN CYFEIRIAD YW:

Ystafell 20, Hyfforddiant Môn
LLANGEFNI
Ynys Môn LL77 7JA
Ffôn:
Ffacs:
E-bost:
Neuadd y Sir, Ffordd Glanhwfa
LLANGEFNI
Ynys Môn LL77 7TS
Ffôn:
Ffacs:
E-bost:

CYFLEOEDD GWIRFODDOLI AR YNYS MÔN Tachwedd/Rhagfyr 2001

Gwirfoddolwyr y Mileniwm - Gwobr cydnabyddiedig i wirfoddolwyr rhwng 16 - 24. Peidiwch â cholli allan!
Taran-gwirfoddolwyr i gefnogi pobl gydag anableddau mewn swyddfa a
gweithgareddau cymdeithasol
Homestart- angen Trysorydd/Aelod o'r Pwyllgor Rheoli.
Gwasanaeth Tystion - i gynorthwyo yn Llysoedd Ynadon a'r Goron Leol
Undeb Credyd Môn - system o gynilo a benthyg arian. Yn recriwtio gwirfoddolwyr o bob rhan o'r Ynys. Hyfforddiant ar gael.
RSPCA - i archwilio cartrefi, cwn yn bennaf, ar Ynys Môn. Hyfforddiant ar gael.
Leukaemia CARE -i roi cymorth, cysylltiad ffôn, codi arian. Ymweld â phobl yn eu cartref neu ysbyty.
Ynys Môn Young Carers Project - gyrrwyr i gynhalwyr ifanc i fynd i'r ysgol i grwpiau ac wedyn adref.
Y Groes Goch - gwirfoddolwyr gyda 'Bws Teithiol Ieuenctid' ar Ynys Môn. Cynnig cymorth a gwybodaeth i bobl yn eu ardal wledig.
M H A Care Group -i hel arian i'r prosiect i fynd at gostau i brynu eitemau neu i fynd at ddigwyddiadau i'r pobl/aelodau i fwynhau a thuag at well ansawdd o fywyd.
Fel Gwirfoddolwr - Mae'r hawl gennych i ddisgwyl ad-daliadau am bob cost o'ch
poced. Cofiwch mai eich amser 'rydych yn ei roi am ddim. Mae'r hawl gennych i gario ymlaen i hawlio eich budd-daliadau ar yr amod eich bod yn rhoi gwybod i'ch swyddfa Budd-dal lleol. Am fwy o wybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli eraill,
cysylltwch â Jackie yn Medrwn Môn ar .

Elusen Harvest - Gwyliau i Blant, 2002

A ydych yn gwybod am 12 o blant mewn gwir angen gwyliau?
Mae'r Elusen Harvest yn darparu gwyliau AM DDIM i ddeuddeg o blant rhwng 8 a 12 oed, wedi eu lleoli yn nghanolfan gwyliau yr elusen yng Ngorllewin Cymru.

Mae'r gwyliau wythnos yn cymryd lle rhwng Ebrill a Medi, yn cael eu trefnu mewn
partneriaeth ag ysgolion, grwpiau cymunedol, a mudiadau ynghlwm â gofal plant.
Mae'r elusen yn gofalu am holl lety, cludiant, a mynediad am ddim. Mae angen i'ch mudiad brynu bwyd, a sicrhau tri oedolyn i fod yn gwmni i'r plant.

Mae ceisiadau yn cael eu derbyn ar gyfer y tymor gwyliau 2002.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch:
Harvest Trust, Penboyr, Llandysul, Sir Gaerfyrddin. SA44 5JE
Ffôn , neu safle'r we: www.hartrust.dircon.co.uk

Dyddiad cau ceisiadau - 14 Ionawr, 2002.

Diwrnod Alexandra Rose - Raffl Flwyddyn Newydd 2002

Archebwch beth ydych angen - Talwch am beth ydych yn werthu.
Cadwch 80% o werthiant eich tocynnau,
dychwelwch 20% yn unig, efo bonion y ticedi.

Os â diddordeb i godi arian i'ch grwp neu fudiad, cysylltwch â
Diwrnod Alexandra Rose, 2A Ferry Road, Llundain SW13 9RX Ffôn:

Cofiwch, Cofiwch - Plant mewn Angen ym mis Tachwedd

Mae mis Tachwedd yn fis mawr i Blant mewn Angen y BBC.
Yn gyntaf mae'r Apêl i godi'r arian, yna'n dynn ar ei sodlau
daw dyddiad cau ar gyfer ceisiadau grant.

Codi gwên!

Tachwedd 16 yw'r dyddiad eleni ar gyfer Apêl flynyddol Plant mewn Angen y BBC. Ledled y wlad, bydd pob copa walltog yn dod ynghyd i godi gwên a chodi arian ar gyfer plant difreintiedig yn y DU. Os hoffech chi, neu eich cydweithwyr, fod yn rhan o'r hwyl, ffoniwch am eich Pecyn Cefnogwyr yn awr. Mae'r pecynnau hyn ar gyfer y teulu cyfan, ac maent yn cynnwys posteri, nwyddau rhad ac am ddim a chylchgrawn arbennig sy'n cynnwys syniadau ar sut i godi arian.

Angen arian ar gyfer eich gwaith â phlant?

Llynedd derbyniodd grwpiau gwirfoddol ledled Cymru sy'n gweithio â phlant difreintiedig ymron i £1.5 miliwn. Os oes angen grant arnoch, ffoniwch am eich pecyn cais yn awr. Tachwedd 30 yw'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau. Os collwch y dyddiad hwn, mae un arall ar Fawrth 30 y flwyddyn nesaf, ond mae angen i chi wneud cais ym mis Tachwedd ar gyfer prosiectau'r haf.

Ffoniwch ni yng Nghaerdydd ar neu ffoniwch y rhif lo-call
neu anfonwch e-bost at:

Os oes angen unrhyw help arnoch wrth gwblhau eich cais am grant, cysylltwch â'ch cyngor gwirfoddol lleol am gyngor, Medrwn Môn ar .

Cytundeb Compact rhwng y sector gwirfoddol a Chyngor Sir Ynys Môn, Dydd Gwener, 21 Medi 2001 yn Siambr y Cyngor.

John R Jones, Prif Swyddog Medrwn Môn yn annerch cyfarfod pryd lansiwyd y compact drafft. Cyhoeddir fersiwn terfynol y compact ar ôl ymgynghoriad.

HALIFAX

Mae'r Halifax yn gosod yn ei le sefydliad elusennol gwerth £3m o gyfranddaliadau heb eu gwerthu. Bydd y Sefydliad yn cyllido rhaglen bresennol y banc ar ymglymiad cymunedol, yn canolbwyntio ar gynghori a dyledion, ag addysg oedolion.Disgwylir y bydd £3m ar gael yn flynyddol ar gyfer y rhaglen elusennol yma.

Cyswllt: Alison Roberts ar neu ar y we: www.halifax.co.uk

Sports Match Cymru
Mae Sportmatch Cymru yn annog y sector fasnach i gysylltu eu hunain i ddatblygu chwaraeon ar lefel gymunedol drwy gyfateb ceisiadau £ am £.
Gwobrau yn amrywio rhwng £1,000 a £50,000 i fyny at 3 blynedd.
I fod yn gymwys, fe all prosiectau gael hyd at 3 o noddwyr, gydag isafswm o £1,000 y noddwr (arian neu roddion).
Mae 6 blaenoriaeth i'r rhaglen yma -
Ardaloedd amddifadedd adloniadol - Grwpiau Anabledd - Lleiafrifoedd Ethnig
Ysgolion - Merched a Genethod - Ieuenctid.

Am wybodaeth bellach - cysylltwch
Sportmatch, 4ydd Llawr, 25-27 Buckingham Palace Road,
Llundain, SW1W 0PP. Ffôn: neu www.sportsmatch.co.uk

Amcan 1
Etholwyd y canlynol i gynrychioli y sector wirfoddol ar Fwrdd Partneriaeth Amcan 1:Trefor Fôn Owen, W.E.A.; Gerallt Llewelyn Jones, Menter Môn; Parchedig Hywel Davies, CPRW; Jean Baker, Cymdeithas Dinesig Porthaethwy; Lesley Conran, Barnardos;
John R Jones, Medrwn Môn.
Yn y cyfarfod i ethol y cynrychiolwyr bu cyflwyniad gan Aaron Walters, CGGC ar y Gronfa Risg Gymdeithasol ac hefyd am y diweddaraf ynglyn â cynlluniau Amcan 1 ac yn arbennig
arian cyfatebol o Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn.

Mae newidiadau ar y gweill i sefydlu partneriaeth strategol economi sengl yn lle'r Bwrdd Partneriaeth ond bydd dal sedd i 6 o gynrychiolwyr o'r sector.

Cynllun Grantiau Iechyd Meddwl lleol - £1 miliwn ychwanegol i'r sector gwirfoddol yng Nghymru. Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Jane Hutt "Rwy'n arbennig o falch i gyhoeddi yr hwb yma i'r sector gwirfoddol, o frwydro iechyd meddwl, un o brif flaenoriaeth y Cynulliad. Rydym newydd gyhoeddi dwy strategaeth iechyd meddwl yn ddiweddar, un ar gyfer plant, a phobl ifanc, a'r llall ar gyfer oedolion. Mae'r ddwy strategaeth yn dibynnu'n gryf ar wir ymrwymiad y sector gwirfoddol, ac i'w ddefnyddio i feithrin galluoedd yn y sector yma".
"Y ffordd yma, bydd modd i grwpiau gwirfoddol chwarae eu rhan yn llawn i gyflawni amcanion strategol, ac i gynorthwyo i adeiladu y gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, i un allwn fod yn falch ohono" Gweinyddir yr arian gan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC).
Anelir at y mudiadau gwirfoddol bach lleol yn arbennig y rhai hynny na lwyddodd i ddenu llawer o gyllid yn y gorffennol ac sydd â'u hamcanion yn gydnaws â'r
strategaethau.

Fforwm Gwirfoddolwyr

Cynhaliwyd noson arbennig iawn gyda gwirfoddolwyr yng Ngwesty'r Bull, Llangefni, lle cyflwynwyd tystysgrifau i tua 130 o unigolion i ddiolch iddynt am eu gwasanaeth i'r gymuned.
Mynychwyd y noson gan Mr Albert Owen AS,
Mr Peter Rogers AC, Cynghorydd John Williams,
a Mr Byron Williams, Cyfarwyddwr Tai a
Gwasanaethau Cymdeithasol.
Llun yn dangos Cynghorydd Sirol John Williams - Cadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn, a Mr Bob Edwards, yn derbyn tystysgrif am ei wasanaeth yn y gorffennol i'r cyn biwro gwirfoddolwyr ac i gynllun car linc presennol.

CRONFA ADFYWIO LEOL A WEINYDDIR GAN MEDRWN MÔN

PARTNERIAETH PORTHAETHWY YMDDIRIEDOLAETH DDIWYDIANNOL AMLWCH NEUADD BENTREF BAE TREARDDUR A'R CYFFINIAU CANOLFAN GYMUNEDOL PORTHAETHWY
SEFYDLIAD Y MERCHED, Y TRAETH FFORWM PLANT A THEULUOEDD YNYS MÔN CYMDEITHAS CELF A CHREFFT MÔN
CANOLFAN GYNGHORI YNYS MÔN CANOLFAN UCHELDRE
INSTITIWT LLANGEFNI NEUADD GOFFA LLANGEFNI



Dyma restr o'r grwpiau hynny fu'n llwyddiannus yn dilyn rownd gyntaf o
ddyfarnu arian i grwpiau gwirfoddol/cymunedol.
Cysylltwch â Mari Jones, Medrwn Môn ar am ffurflen gais neu fwy o wybodaeth. Ystyrir ceisiadau am yr ail rownd ddechrau Rhagfyr 2001.

Grantiau i Blant dan 8
Derbyniwyd 41 o geisiadau am y grant eleni a dyfarnwyd £60 yr un i 38 o grwpiau. Ni roddwyd grant i ddau o'r ceisiadau gan nad oeddynt wedi amgáu copi o'u cyfrifon. Ni ddyfarnwyd grant i un cais gan nad oedd wedi amgáu copi o'u cyfrifon a heb ddychwelyd pro forma o'r llynedd.
Pwysleisir y pwysigrwydd o anfon copi o gyfrifon y grwp gyda'r ffurflen gais a hefyd i ddychwelyd pro forma ac anfonebau yn nodi eu bod wedi derbyn arian ac ar beth wariwyd y grant. Ni ystyrir ceisiadau yn y dyfodol heb yr wybodaeth yma.

Prosiect Ieuenctid Symudol Cyd-drefnydd Cynorthwyol - Ynys Môn
Gwaith Cyffuriau ac Alcoholiaeth (rhan amser 15 awr yr wythnos)
£5775 - £6900 y flwyddyn Cytundeb 3 blynedd

Mae'r Groes Goch yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i gyd-drefnu y prosiect
ieuenctid symudol newydd. Bydd gennych gyfrifoldeb arbennig mewn menter atal cyffuriau ac alcoholiaeth ac yn gweithio gyda gwirfoddolwyr a sefydliadau i sicrhau fod pobl ifanc sy'n agored i niwed yn gallu derbyn darpariaeth, gwybodaeth a
chyngor. Gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a'r Saesneg yn ddymunol.
Manylion pellach a ffurflenni cais gan: Y Groes Goch Brydeinig Gogledd Cymru
Ffôn: Dyddiad cau: 16 Tachwedd 2001.

A fedr mudiadau roi cymorth i Rhian drwy yrru taflenni a phosteri i godi
ymwybyddiaeth y cyhoedd i'r cyfleon gwirfoddoli ar yr ynys. Gobeithia Medrwn Môn fynychu amryw o'r digwyddiadau yma yn ystod y flwyddyn. Cysylltwch â Rhian neu unrhyw aeold o'r tim ynglyn ag unrhyw agwedd yn ymwneud â gwirfoddoli yng
nghymunedau cymreig Môn.

Apwyntiad i recriwtio gwirfoddolwyr
Penodwyd Rhian Medi gan Medrwn Môn fel Swyddog newydd i recriwtio pobl Cymraeg eu hiaith a dysgwyr i wirfoddoli eu
hamser i fudiadau sydd angen eu gwasanaeth. Gobeithir hybu
a chodi proffil cyfleoedd gwirfoddoli drwy gyfrwng y Gymraeg

Cyfeiriad e-bost newydd swyddfa Medrwn Môn a leolir yn Neuadd y Sir yw:


NEGESEUON CYMUNEDAU HTV

Mae cyhoeddi 30 eiliad am ddim HTV yn cael ei gyfyngu bellach i anfon gwybodaeth ynglyn â gwasanaethau cymunedol ac/neu wahodd
gwirfoddolwyr i redeg gwasanaethau tebyg.

Gallwch ymgeisio am Neges Gymunedol os y dymunwch roi cyhoeddusrwydd i unrhyw agwedd o'ch gweithgareddau. Beth bynnag, ni chaniateir apelio yn uniongyrchol am gyllid.

Gwahoddir ceisiadau gan fudiadau celf a chwaraeon, yn draddodiadol ni ystyriwyd y rhain o'r blaen o achos cyfyngu ar y cod.

Am fwy o wybodaeth a sut i ymgeisio
cysylltwch â: Sue Hugh, HTV Cymru,
Y Ganolfan Deledu
Culverhouse Cross
CAERDYDD CF5 6XJ
Ffôn:
E-bost:
Safle We: www.htvwales.com/community

Mae Theatr Fforwm Cymru yn elusen addysgol yn chwilio am bartneriaid i gymeryd rhan yn eu prosiect sy'n defnyddio 'theatr ddeddfwriaethol' - Chware o Ddifrif.

Yn fyr, dull cyfranogol yw 'theatr ddeddfwriaethol' sy'n defnyddio straeon ag achosion real i amlygu deddfau a pholisïau. Mae'r technegau hefyd yn codi cydlyniant cymdeithasol, cynhwysiant, doethineb emosiynol,
hyder, hapusrwydd, sgiliau gweithio gyda phobl a'r teimlad o awdurdod.

Os â diddordeb dewch draw ar
ddydd Llun 19 Tachwedd 2001 yng
Nghanolfan Gynadleddau
Llandudno, Llandudno o
10.00 am - 3.00 p.m.

Ffôn
E- bost

Robyn Hughes - Swyddog Meysydd Chwarae, yn helpu cymunedau Ynys Môn i wella darpariaeth meysydd chwarae. Erbyn hyn y swydd wedi
datblygu i gynnwys diogelwch, plant a phobl ifanc, cyfrifoldeb o gyd-gordio arian Fforwm Chwarae 2002 / 2003, a dderbynnir gan y Cynlluniad Cenedlaethol.

Ruth Williams - Swyddog Datblygu Trafnidiaeth Wirfoddol - Car Linc Môn.
Swydd rhan-amser 18.5 awr yr wythnos.
Cyfrifoldeb o hyrwyddo a datblygu y cynllun uchod, trwy gynorthwyo yn y gweinyddiaeth, a gweithredu fel cyd-lynydd yn ôl yr angen.
Wedi cychwyn yn y swydd yma ers 1 Hydref, 2001, ond yn gweithio i'r cyn Biwro Gwirfoddolwyr ers 1998.

Beth ydi RSVP/Rhaglen Gwirfoddoli Pobl Hyn?

Rhaglen Wirfoddoli ar gyfer pobl dros 50 oed hefo amrywiaeth o sgiliau y gallent
ddefnyddio fel gwirfoddolwr mewn cymunedau. Mae llawer o bobl yn ymddeol yn gynnar y dyddiau hyn ac amser ar eu dwylo yn ddefnyddiol i fudiadau i wirfoddoli a chynorthwyo mewn gwahanol weithgareddau pe byddai ond am awr yr wythnos.

Beth yw'r cyfleon gwirfoddoli presennol?
Cyfleon i weithio hefo crefftau
Pobl yn gwau dillad / cwiltiau i Uned Cyn-amserol Ysbyty Gwynedd
Dillad wedi eu gwau ar gyfer gwledydd trydydd byd.
Hoffech chi fod yn wirfoddolwr ysgol?
Gallwch gynnig eich hun i wrando ar blant yn darllen yn y dosbarth. Mae athrawon bob amser yn falch o gymorth hyd yn oed os mai awr yr wythnos allech chi ei gynnig. Ar hyn o bryd rydym yn chwilio yn ardaloedd Caergybi, Llanfechell a Llangoed am rai yn yr ysgolion hynny. Mae'n bosibl fod rhai ysgolion eraill angen cymorth.

Ydych chi'n adnabod person unig a hoffai gael ymwelydd?
A fuasech chi'n fodlon rhoi peth o'ch amser a cheisio bod yn ffrind iddynt?
Hoffem glywed gennych os credwch y gallech helpu.
Os â diddordeb mewn bod yn wirfoddolwr i RSVP cysylltwch â:
Jennifer Rowlands Swyddog Datblygu RSVP Swyddfa RSVP Medrwn Môn Neuadd y Sir LLANGEFNI Ynys Môn LL77 7TS Tel:

Bron Brawf Cymru Sgrinio'r Fron yr GIG yn Ynys Môn 2000

Darperir gwybodaeth am y Rhaglen Sgrinio'r Fron ar Ynys Môn. Dyma'r canfyddiadau.Canlyniadau Amlwch: Gwahoddwyd 1,117 o ferched rhwng 50 a 64 ar gyfer sgrinio'r fron.Mynychodd 896 o ferched ar gyfer sgrinio'r fron. Roedd y gyfradd derbyn yn 80%. Mae'r ffigwr hwn yn uwch na'r targed cenedlaethol o 70%.Canlyniadau Caergybi: Gwahoddwyd 1,835 o ferched rhwng 50 a 64 ar gyfer sgrinio'r fron. Mynychodd 1431 o ferched ar gyfer sgrinio'r fron. Roedd y gyfradd derbyn yn 78%. Mae'r ffigwr hwn yn uwch na'r targed cenedlaethol o 70%.

Bydd Bron Brawf Cymru yn dychwelyd i Ynys Môn ar 2003.

Am fwy o wybodaeth ffoniwch Margaret Jones, Swyddog Hyrwyddo'r Sgrinio, Bron Brawf Cymru, Canolfan Sgrinio'r Fron Gogledd Cymru, Llandudno. Ffôn:
www.velindre-tr.wales.nhs.uk/btw E-bost: