|
Cylchlythyr i fudiadau gwirfoddol Ynys Môn
Rhif Cwmni Rhifyn 27 Medi 2001 |
|
|
|
|
|
Nid yw'n anorfod mai barn Medrwn Môn a fynegir yn y cyhoeddiad hwn. Cadw'n yr hawl i olygu cyn cyhoeddi. Dyluniwyd a dosbarthwyd y
cylchlythyr hwn gan Medrwn Môn. Gwella eich hunan berfformiad
Mae'r cwrs wedi ei gynllunio i rai sy'n teimlo nad ydynt wedi cyrraedd eu llawn potensial ag angen help efo symud ymlaen. Bydd yn help i ddatblygu dealltwriaeth o gryfderau, efo pwyslais arbennig ar ysgogi a dysgu, dangosir sut i gyrraedd targedi, delio efo rhwystrau, a sut i werthu eich hun i eraill. Cynhelir y cwrs ar:
|
|
|
|
|
|
Ymddiriedolaeth Granada
Mae'r Ymddiriedolaeth newydd yma yn
Datblygu Cymunedau
Dyddiad cau nesaf 30 Medi a
Ceisiadau ysgrifenedig (dim mwy na dwy dudalen) i
Ffôn: .
|
|
|
|
|
|
Cronfa Elusennol Baily Thomas
Mae'r elusen hon yn cefnogi maes sy'n aml yn ei chael yn anodd i ddenu grantiau, sef iechyd meddwl.
Oedolion neu blant gydag anawsterau dysgu difrifol, ynghyd ag awtistiaeth.
Noddir costau cyfalaf a refeniw prosiectau sy'n ymwneud ag iechyd meddwl,
Ceir dau ddyddiad cau y flwyddyn, ar gyfer ceisiadau, 1 Mai ac 1 Hydref.
Mae gwybodaeth bellach ar gael gan:
Ffôn: Ffacs:.
|
|
|
|
|
|
Cronfa Adfywiad Cefn Gwlad Barclays
Mae Barclays wedi neilltuo £1m o'i gyllideb gymunedol i helpu cymunedau cefn gwlad i oresgyn effeithiau clwy'r traed a'r genau, i gynorthwyo i ailadeiladu cymunedau lleol, trwy adfywio, denu incwm, swyddi, ymwelwyr a busnesau cynaliadwy yn ôl i'r ardal.
Gallai prosiectau gynnwys:
Ystyrir ceisiadau am unrhyw swm, ond disgwylir y bydd rhan fwyaf o'r
Dylid anfon ceisiadau am nawdd, ag unrhyw wybodaeth bellach at:
|
|
|
|
|
|
GWYBODAETH
HYFFORDDIANT Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Mae lle ar ôl i 3 ynghlwm efo grwpiau gwirfoddol / cymunedol ar y cwrs uchod a gynhelir ar gyfer Staff a Gwirfoddolwyr Medrwn Môn yn bennaf. Dyddiad: 12 Hydref 2001 Lleoliad: Oriel Môn, Llangefni Amser: 9.00 am - 5.00 pm Côst: £12.50
Os â diddordeb y cyntaf i'r felin i gysylltu â Medwyn Williams ar .
|
|
|
|
|
|
NEWYDDION
NEWYDDION CYLLIDO NEWYDDION |
|
|
Mae Arian i Bawb Cymru (arian y Gronfa Gymunedol i symiau o dan £5000)
yn gwahodd ceisiadau gan bob sector o'r gymuned a phob rhan o Gymru. Maent yn awyddus iawn i ddenu ceisiadau ar gyfer prosiectau a fydd o fudd i'r canlynol Grwpiau bach, lleol sydd heb incwm mawr na chynilion. Grwpiau newydd sydd heb dderbyn arian loteri o'r blaen. Ardaloedd gydag amddifadedd lluosog, canol dinasoedd a threfi'r arfordir. Ardaloedd gwledig diarffordd, lle mae cyfleusterau a gwasanaethau yn brin. Pobl anabl, sy'n ei chael yn anodd i gymryd rhan mewn gweithgareddau. Merched a genethod i'w galluogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau maent yn cael eu heithrio ohonynt fel arfer. Cymunedau croenddu a lleiafrifoedd ethnig, gan gynnwys ffoaduriaid, a rhai sy'n ceisio lloches. Nod Arian i Bawb Cymru yw:
Cefnogi gweithgareddau cymunedol
- trwy helpu cymunedau i gyfarfod a'u hanghenion trwy weithredu gwirfoddol, prosiectau hunan-gymorth, cyfleusterau lleol neu ddigwyddiadau.
Yr hyn a olygir wrth 'gymunedau' yw pobl mewn ardal leol neu bobl sy'n rhannu'r un diddordebau neu anghenion.
Ehangu mynediad a chyfranogiad
- trwy annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn grwpiau a phrosiectau lleol, a thrwy gefnogi gweithgareddau sy'n agored ac ar gael i bawb sy'n dymuno cymryd rhan.
Gwella sgiliau a chreadigedd
- trwy gefnogi gweithgareddau sy'n helpu i
Gwella ansawdd bywyd - trwy gefnogi prosiectau lleol sy'n gwella cyfleon, lles neu amgylchedd pobl, yn enwedig y rhai mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas. Grantiau rhwng £500 a £5,000, ac i'w gwario oddi fewn i'r flwyddyn. Amodau arferol yn bodoli ynglyn â chael cyfrif banc, cyfansoddiad, amgáu cyfrifon ariannol diweddaraf, ayb. Mae'n rhaid i chi ddangos sut bydd y gymuned gyfan yn elwa ar eich prosiect.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag: Arian i Bawb Cymru,
|
|
|
|
|
| EIN CYFEIRIAD YW : | |
|
Ystafell 20, Hyfforddiant Môn
|
Neuadd y Sir, Ffordd Glanhwfa
LLANGEFNI Ynys Môn LL77 7TS Ffôn: Ffôn: |
| E-bost: | E-bost: |
|
|
|
|
NEWYDDION GWIRFODDOLI
|
|
|
Hospis yn y Cartref
- i gynorthwyo efo ymweliadau cartref, cludiant ayb yn y
Homestart
- i gefnogi teuluoedd yn eu cartref efo plant dan 5 oed.
Taran
- i helpu pobl ag amrywiaeth o anableddau mewn sefyllfaoedd swyddfa a gweithgareddau cymdeithasol.
BTCV Cymru
- angen gwirfoddolwyr i gynorthwyo efo gwaith Gweinyddol Gwaith Cymunedol / Amgylcheddol, Gweithgareddau Tramor, a gwaith DIY Ymarferol.
RSPCA
- angen gwirfoddolwyr i ymweld â chartrefi, yn ymwneud â chwn yn bennaf ar Ynys Môn. Rhoddir hyfforddiant.
Ymddiriedolaeth Tyddyn Bach HIV
- AIDS Canol breswyl dros dro- gwaith Gweinyddol / Swyddfa, Cynghori, Ymgyrchu a Lobio, Anableddau a Iechyd.
Fel gwirfoddolwr fe ddylech gael eich digolledu am unrhyw gostau rhesymol, eich amser sy'n cael ei roi am ddim. |
|
|
|
|
|
Fe gewch ddal i hawlio eich enillion yn amodol ar i chi gysylltu â'r Ganolfan Waith/ Swyddfa Budd-dâl.
Os â diddordeb, ac os y dymunwch fwy o wybodaeth ar gyfleon gwirfoddoli eraill cysylltwch â Jackie, Medrwn Môn ar . |
|
|
|
|
|
CYTUNDEB PARTNERIAETH RHWNG Y CYNGOR SIR A'R SECTOR
GWIRFODDOL YM MÔN |
|
|
Yn amgáu manylion am lansio y bartneriaeth arfaethedig o'r cytundeb drafft 'COMPACT', a gynhelir Dydd Gwener, 21ain o Fedi, 2001, yn Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor Sir, Llangefni, rhwng 1.30 pm a 3.00 pm.
Gwahoddwn gynrychiolwyr o grwpiau gwirfoddol / cymunedol i'r cyfarfod, i gyflwyniadau ar:
Am fwy o wybodaeth gweler y cylchlythyrau perthnasol yn y rhifyn yma o Dan Do.
|
|
|
|
|
|
Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid
Cyflwynwyd Gwobr Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yng Nghymru am y tro cyntaf yn 1994 i roi cydnabyddiaeth genedlaethol o ymarferiad ansawdd gwaith
Gwahoddir ceisiadau gan fudiadau ieuenctid ar gyfer prosiect penodol neu ddarn o waith a ymgymerwyd fel rhan o raglen gwaith ieuenctid. Mae'n rhaid i'r ceisiadau ddangos cydnabyddiaeth o ddatganiad Cwricwlwm Gwaith Ieuenctid i Gymru, sydd yn datgan y dylai cyfleon ar gyfer pobl ifanc fod yn addysgadwy, cyfrannogol, awdurdodol ac yn fynegiannol. Dylid disgrifio'n glir ar y ceisiadau manteision y gwaith i'r bobl ifanc, a'u rôl yn y prosiect. Croesawir cynigion o waith gwreiddiol neu arloesol.
Dylid manylu yn y ceisiadau ar y gwaith a gariwyd allan rhwng Medi 2000 a Medi 2001. Gall y gwaith fod am unrhyw gyfnod o amser ond mae'n rhaid iddo fod ynghlwm â phobl ifanc rhwng 13 a 19 oed.
|
|
|
|
|
|
Gellir cael ffurflenni cais gan:
Dylid anfon y ffurflenni cais erbyn Dydd Gwener 28 Medi 2001. |
|
|
|
|
|
Grantiau Cronfa Treftadaeth y Loteri
Hyd yma mae Cronfa Treftadaeth y Loteri wedi dyfarnu 6,907 o grantiau gwerth dros £1667 miliwn trwy'r DU. Cwblhawyd 1527 o brosiectau. Gellir cael gwybodaeth am Gronfa
Ym Mai 2001 lansiwyd pecyn newydd a phroses newydd o ymgeisio a elwir "Eich Treftadaeth" i grantiau rhwng £5000 a £50000. Dylai'r broses o ymgeisio fod yn un haws ac o ganlyniad dylai penderfyniadau gael eu gwneud o fewn 3 mis o'ch cais.
Dynodwyd Tachwedd fel mis Pobl hyn ym mlwyddyn Rhyngwladol Gwirfoddolwyr.
Bydd gwirfoddolwyr hyn yn danfon y neges i bob awdurdod lleol, yn defnyddio
Bydd uchafbwynt i'r digwyddiad efo'r neges yn cael ei gyflwyno i'r Cynulliad
Fe all gwirfoddolwyr weithredu fel negeswyr, neu fe allant fod yn rhan o'r pwyllgor croeso pan y danfonir y neges i'r Awdurdod Lleol yn eu hardal.
Dyddiad i'w glustnodi i'r dyddiadur yw: 29 ain Hydref, 2001, 10.00 am
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Jennifer Rowlands at RSVP ar . |
|
|
|
|
|
Gweithio efo Pwyllgorau
Edrychir ar rôl y cyfansoddiad i roi fframwaith i reolaeth a sefydlu amcanion eich mudiad, y cyfrifoldebau cyfreithiol o bwyllgorau rheoli, a rôl y prif swyddogion. Edrychir ar ymarferion da yn gysylltiedig â rheolaeth o gyfarfodydd yn cynnwys agenda a chofnodion, cyfathrebu rhwng pwyllgorau ag aelodau eich mudiad.
Cynhelir y cwrs ar:
Mae'r cyrsiau yn achrededig, darperir cinio a'r gost fydd £12.50.
Yn ogystal â'r gweithdai gwybodaeth, bydd gwybodaeth ysgrifenedig ynghyd â'r newyddion diweddaraf ar faterion polisi amrywiol ar gael yn y digwyddiad hwn. Rhaglen yn cynnwys gwybodaeth am Nawdd Ewropeaidd, Cynllun NHS, Cynllun Corfforaethol ELWa, Strategaethau Cymunedol a Rhoi Cymunedau'n Gyntaf, Adolygiad Iaith Gymraeg, Adolygiad y Cynulliad ar adfywio cymunedol, Materion Cefn Gwlad. Bydd y diwrnod yn cychwyn am 10:20 am ac yn gorffen am 3:15 pm Cost: Am ddim ond codir ffi o £5.00, na ellir ei ad-dalu, ar y rheini sydd eisiau cinio.
Os hoffech fanylion a ffurflen archebu, cysylltwch â Mirriam Nasrat,
|
|
|
|
|
|
Dyfarniadau Bwrsariaeth Mentrau
Cymunedol 2001 / 2002
Mae Banc HSBC yng Nghymru a CEW wedi lansio'r Dyfarniadau Bwrsariaeth
Dylid gwneud cais ysgrifenedig ar ffurflen gais ynghyd â'r ffurflen amodau a chymhwyster.
Mae manylion ar gael oddi wrth Menter
Ffôn: .
|
|
|
|
|
|
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru Grantiau Newydd
Cyswllt Cymunedol
Nod y cynllun grant newydd hwn yw helpu grwpiau cymunedol i feithrin eu sgiliau, hyder a'u gwybodaeth er mwyn iddynt allu gymryd rhan a
Grantiau o hyd at £250 (hyd at £500 ar
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
|
|
|
|
|
|
Bas data Medrwn Môn
- A wnewch chwi roi gwybod i ni os nad ydych yn caniatáu i wybodaeth am eich mudiad gael ei gadw ar gyfrifiadur a'i wneud ar gael i'r cyhoedd drwy'r Rhyngrwyd.
Cysylltwch â Medrwn Môn ar am unrhyw wybodaeth. |
|
|
|
|
|
Cynllun Grantiau Adeiladau Cymunedol
Cyhoeddwyd cynllun grantiau cyfalaf newydd ar gyfer atgyweirio a gwella neuaddau pentref / cymunedol fel conglfaen bywyd cymunedol.
Gweinyddir y cynllun gan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), o dderbyn nawdd gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru -£200,000 ar gael yn ystod y flwyddyn gyntaf. Ar y cychwyn bydd grantiau ar gael i 40 neuadd bentref / gymunedol, i brosiectau yn costio rhwng £5,000 ac £20,000 i fyny at 65% o holl gostau'r
Y bwriad yw i gefnogi cynlluniau sy'n ddibynnol ar wirfoddolwyr i'w rhedeg a'u rheoli, i helpu neuaddau pentref / cymunedol presennol ar gyfer atgyweirio ar a gwella adeiladau ar raddfa fach, er mwyn cynnal gweithgareddau presennol, a'u helpu i ymateb i anghenion newydd yn eu cymunedau.
Gwahoddir ceisiadau gan fudiadau gwirfoddol sydd yn berchen ar les o leiaf 15
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
|
|
|
|
|
|
GWOBRWYON MILENIWM IEUENCTID BYD YN DOD I FANGOR
Rhaglen cyfnewid ieuenctid traws -ddiwylliannol yw y Wobr uchod sydd wedi ei threfnu gan GGT - Gwasanaeth Gwirfoddol Tramor ac Ymddiriedolaeth y Tywysog. Yn Hydref bydd tîm o 18 o wirfoddolwyr ifanc, oedran 17-25 yn cyrraedd Bangor. Bydd y tîm wedi ei wneud i fyny o 9 o wirfoddolwyr o Nigeria a 9 o'r DU. Am 3 mis bydd pob pâr yn byw a gweithio efo teuluoedd lleol ar brosiect cymuned leol cyn mynd i ffwrdd i Nigeria i fyw a gweithio am 3 mis. Mae Goruchwyliwr Prosiect Kate Tuck yn edrych am leoliadau addas a theuluoedd gwadd yn ardal Bangor neu'r cyffiniau i bob pâr. Ad-delir costau a bydd y Goruchwiliwr Prosiect ar gael i ymholiadau.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Kate yn T Gwydr, 1 Rhes Trevelyan,
|
|
|
|
|
|
Cyngor Partneriaeth - Yn dilyn adrefniant a sefydlu y Cynulliad dros Gymru mabwysiadwyd 3 Cynllun gyda'r sector breifat, llywodraeth leol a'r sector gwirfoddol. Mae'r cynllun gwirfoddol yn sefydlu partneriaeth rhwng y Cynulliad a 15 maes arbennig e.e. cynghori, celf a diwylliant, gwirfoddoli, iechyd a gofal, tai. Cynhelir 2 gyfarfod y flwyddyn efo'r nesaf ym Mae Colwyn 19 Hydref 2001. Am fwy o wybodaeth cysylltwch a CGGC ym Mae Colwyn ar . |
|
|
|
|
|
NEWYDDION
|
|
|
STAFF MEDRWN MÔN
John R Jones
|
|
|
|
|
|
Celfyddydau Gwirfoddol Cymru (CGC) Cenfogaeth i grwpiau celfyddydol
Mae Celfyddydau Gwirfoddol Cymru yn asiantaeth datblygu i'r celfyddydau
Mae Alys Lloyd Jones wedi'i phenodi fel Swyddog Datblygu Gogledd Cymru ac felly'n berson cyswllt i Ynys Môn. Mae Alys yn edrych ymlaen i glywed oddi wrth grwpiau a mudiadau sy'n helpu pobl i gymryd rhan yn y celfyddydau yn
Mae CGC hefyd gyda rhaglen hyfforddiant ar gyfer yr Hydref am ddim i drefnwyr celfyddydau gwirfoddol a chymunedol, ac yn cynnwys sesiynau ar weithio'n ddwyieithog, a chodi ymwybyddiaeth ar ddiogelwch plant.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â
Carol Owen Swyddog Hyfforddiant ar
|
|
|
|
|
|
|
|