Cylchlythyr i fudiadau gwirfoddol Ynys Môn
Rhif Elusen Rhifyn 25 Rhifyn 2001
|
Nid yw’n anorfod mai barn GGYM a fynegir yn y cyhoeddiad hwn. Cadw’n yr hawl i olygu cyn cyhoeddi. Dyluniwyd a dosbarthwyd y cylchlythyr hwn gan GGYM. |
I ddychwelyd yn ôl i'r dudalen gartref yna cliciwch nawr
|
Medrwn Môn Yr ydych yn ymwybodol o'r trafodaethau rhwng Gwasanaethau Gwirfoddol Ynys Môn a Biwro Gwirfoddolwyr Ynys Môn i greu mudiad newydd, a enwir yn Medrwn Môn. Bydd yn cwmpasu holl wasanaethau a gweithgareddau a gyflawnwyd gan y ddau fudiad yn y gorffennol, a bydd yn ymateb i anghenion gwirfoddolwyr, y sector gwirfoddol a chymunedol yn y dyfodol. Elusen wedi'i gofrestru fydd y mudiad newydd ynghyd â chwmni cyfyngedig drwy warant . Mae copi o'r Memorandwm ac Erthyglau ynghyd ag amcanion a gwerthoedd y mudiad ar gael o'r swyddfa. Mudiad aelodaeth fydd Medrwn Môn a reolir gan 20 o gynrychiolwyr y sector sy'n cynnwys 4 sedd i wirfoddolwyr. Os nad ydych yn aelod o GGYM neu BGYM ar hyn o bryd, cwblhewch y ffurflen aelodaeth amgaeëdig a'i ddychwelyd i'r swyddfa erbyn 12 Chwefror 2001. Byddwch wedyn gyda'r hawl i enwebu cynrychiolydd i eistedd ar y Bwrdd Rheoli newydd. I sicrhau bod y corff newydd yn ymateb i anghenion y sector mae holiadur wedi ei amgáu a byddwn yn ddiolchgar os cymerwch ychydig funudau i'w lenwi a'i ddychwelyd i'r swyddfa. Hefyd cynhelir cyfarfod agored yn Oriel Môn Nos Fawrth 20 Chwefror 2001 am 7 p.m. i drafod y datblygiad cyffrous yma ac i geisio ymateb i unrhyw gwestiwn neu dderbyn unrhyw sylwadau.Gobeithio bod modd i chwi ymuno â Medrwn Môn drwy lenwi'r ffurflen aelodaeth amgaeëdig.
Newyddion WEFO - Welsh European Funding Office / Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru. Amcan 1: Prosiectau Carlam wedi eu cymeradwyo. Mae'r pecyn cyntaf o 30 prosiect gwerth £38.8 miliwn a gyllidwyd o dan raglen Amcan 1 wedi ei gymeradwyo.
Mae'r canlynol wedi eu cymeradwyo unai o dan Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (ESF) neu Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewropeaidd (ERDF) 'Prosiectau Carlam'.
|
|
N E W Y D D I O N Cynlluniau Grantiau Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru Mae CGGC yn rheoli amrediad o gynlluniau grantiau sy'n cefnogi mudiadau gwirfoddol lleol ledled Cymru, gyda nawdd gan ymddiriedolaethau elusennol. Comisiwn y Mileniwm a Chynulliad Cenedlaethol Cymru; yn eu plith y mae'r canlynol;
Cewch grynodeb o'r holl gynlluniau a manylion am bersonau cyswllt, mewn dalen
Mae CGGC hefyd wedi diweddaru eu dalen wybodaeth B1 - Ymddiriedolaethau Elusennol a Leolir yng Nghymru. Mae hon yn rhoi manylion am ymddiriedolaethau sy'n rhoi grantiau i fudiadau gwirfoddol (nid fel arfer i unigolion), ac sydd wedi'u lleoli yng Nghymru, sydd â chysylltiad arbennig â Chymru neu sy'n nodi Cymru neu rannau o Gymru yn yr ardal lle y maent yn dosbarthu grantiau.
Trefnir diwrnod gwybodaeth cyllid i grwpiau gwirfoddol Ynys Môn ar ddydd Gwener, 16eg Chwefror, 2001 am 10.30 am i 12.30 pm yn Oriel Môn, Llangefni yn ymwneud â'r grantiau uchod. Gweler y daflen amgaeëdig yn Dan Do Môn.
Penodi'r Comisiynydd Plant cyntaf yng Nghymru
Cyhoeddodd y Cynulliad Cenedlaethol i Peter Clarke Cyfarwyddwr Childline Cymru / Wales, gael ei benodi fel y Comisiynydd Plant cyntaf dros Gymru. Ganwyd yn
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Jane Hutt "Mae Cymru ar y blaen yn y DU trwy roi lle blaenllaw i hawliau ac anghenion ein plant a'n pobl ifanc". Disgwylir i rôl y Comisiynydd ehangu trwy ymestyn pwerau'r Comisiynydd Plant i gwmpasu amrediad eang o feysydd, megis y gwasanaeth iechyd ac ysgolion yng Nghymru. |
|
H Y F F O R D D I A N T Mudiadau Gwirfoddol a'r Gyfraith.
Mae'r Cwrs yma yn codi ymwybyddiaeth o amrediad Deddfwriaeth, fydd yn berthnasol i Fudiadau Gwirfoddol. Yn cynnwys cyfleon cyfartal, Iechyd a Diogelwch, cyflogaeth,
Mae'r Cwrs yn cynnwys cyfansoddiadau a'r rhesymau dros eu cael, a mathau gwahanol o statws cyfreithiol.
Yn ogystal anogir rhai ar y Cwrs i edrych ar fathau gwahanol o ddeddfwriaeth yn
Cynhelir y Cwrs ar:
Mae'r Cwrs yn achrededig, darperir cinio, a'r gost fydd £12.50.
Dyddiadau Hyfforddi eraill ar gyfer 2001: Cyllid - 26ain Mehefin, 2001.
Digwyddiadau - 18ed Medi, 2001.
DEFFRWCH I WEFAN GYDOL OES NEWYDD
Gwahoddir chi gan staff NIACE Dysgu Cymru i ymweld a'u gwefan newydd
Trefnir archwiliadau i Feysydd Chwarae gyda Tony Chilton, Dydd Iau 8/03/01 am 11.00am - 5.00pm yn Neuadd Bentref Caergeiliog neu Dydd Sadwrn 10/03/01 9.00am - 3.00pm yn Neuadd Gymuned Bodffordd . Cysylltwch â Robyn yn GGYM Cyhoeddusrwydd a Marchnata. Bydd y cwrs yma yn annog y rhai sy'n cymryd rhan i gymharu amcanion cyffredinol eu mudiad efo'i ddelwedd i'r cyhoedd, ac edrych ar ffyrdd o ddod â'r ddau yn nes at eu gilydd. Yn cynnwys strategau marchnata gwahanol a sut i dargedu grwpiau pendant, ac adnabod cysylltiadau perthnasol o'r wasg a'r cyfryngau darlledu. Cewch weld sut i baratoi deunydd cyhoeddusrwydd perthnasol i bwrpas penodol, fel ysgrifennu datganiad effeithiol i'r wasg. Cynhelir y Cwrs ar:
Mae'r Cwrs yn achrededig, darperir cinio, a'r gost fydd £12.50. Medrau Allweddol ar gyfer Busnesau Lleol Cynhelir cwrs rhan-amser newydd ar gyfer rhai sydd eisiau cyrraedd lefelau newydd yn eu gwaith neu ddilyn gyrfa ym myd busnes. Mae'r cwrs yn un hyblyg iawn. Gellir astudio ychydig unedau yn unig neu weithio tuag at gael cymhwyster llawn - sef Gradd mewn Busnes gyda Datblygiad Rhanbarthol. Gall rhai unedau fod ar gael ar-lein hyd yn oed.
Datblygwyd y cwrs drwy Brifysgol Cymuned Gogledd Cymru ac mae ar gael ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.
|
|
Ffoadur am Ddiwrnod!
I godi ymwybyddiaeth ynglyn â'r caledi sy'n wynebu ffoaduriaid wrth geisio croesi'r ffin i fan diogel, mae
Cymdeithas Cenhedloedd Unedig Cymru
yn westywyr i ddigwyddiad ar
Fehefin 20fed 2001
fydd yn annog cyfranogwyr i wneud taith noddedig o'u cartref i 'wersyll ffoaduriaid' yng nghanolbarth Cymru.
Bydd
Ffoadur am Ddiwrnod!
yn gyfle i roi cymorth ymarferol i ffoaduriaid yn
Os hoffech gefnogi Diwrnod Ffoaduriaid Byd-eang ar Fehefin 20fed, 2001 drwy unai:
Yna ffoniwch Helen ar Cymdeithas Cenhedloedd Unedig Cymru neu Karen ar Cyngor Ffoaduriaid Cymru, i ofyn am becyn gwybodaeth. Clymblaid Genedlaethol Merched Cymru Pwy ydym ni?
Beth ydym yn ei wneud? Yn cynnwys
Yr ydym wedi derbyn arian gan y Cynulliad Cenedlaethol i ymgynghori â merched a'u sefydliadau yng Nghymru. Mae aelodaeth o'r Glymblaid yn agored i sefydliadau gwirfoddol sy'n cynrychioli materion merched o fewn Cymru.
Am wybodaeth pellach cysylltwch â :
Wythnos Codi Ymwybyddiaeth o Anhwyldeb Bwyta
I godi ymwybyddiaeth cynhelir cyfres o sesiynau hyfforddi ar draws Gymru 11 - 17 Chwefror,2001.
|
|
N E W Y D D I O N ---- C Y L L I D O Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Esmee Fairbairn wedi neilltuo £1 miliwn i gynorthwyo sefydliadau cymunedol sydd yn y rhan ganolig o ddatblygu. Dosberthir y grant dros dair blynedd isefydliadau cymunedol sy'n cynnig y cynlluniau datblygu mwyaf ymarferol i Rwydwaith Sefydliadau Cymunedol. Bydd aelod o'r Panel yn asesu ceisiadau. Amcan y grant yw i helpu sefydliadau cymunedol yn y cyfnod allweddol hwnnw rhwng cychwyn i fyny a chwblhau'r cynllun, ac yn ôl yr Elusen mae'n dangos pleidlais o ffydd mewn sefydliadau cymunedol drwy'r DU. Am wybodaeth pellach cysylltwch â Rhwydwaith Sefydliadau Cymunedol ar . Yr Adolygiad ar Dreth Elusennau 2000 Ers i'r Adolygiad ar Dreth Elusennau ddod i rym ym mis Ebrill 2000, gall unrhyw rodd gan drethdalwr yn y DU - o arian mân i symiau chwe ffigwr - gael ei roi erbyn hyn mewn ffordd sy'n sicrhau bod y Llywodraeth yn gwneud ei rhan hefyd. Nod llyfryn 20 tudalen Sefydliad Cymorth yr Elusennau (CAF) yw egluro beth y mae'r adolygiad hwn yn ei olygu i elusennau a'u harwain trwy'r agweddau sylfaenol mewn iaith syml ac uniongyrchol. Er mwyn cael gafael ar eich copi personol rhad ac am ddim o'r arweiniad, cysylltwch â Karen Mansen ar . Cynllun Plant dan 8
Derbyniodd 31 grwp ar yr ynys grant o £95 yr un o dan y cynllun uchod i fudiadau sydd yn ymwneud â phlant dan 8 oed. Dylid nodi fod rhaid amgáu manylion o
Cronfa Cancr Macmillan
Mae'r elusen yma yn cefnogi pobl sy'n byw efo cancr. Yn gweithio efo'r Gwasanaeth Iechyd ac eraill yn y maes o ofal iechyd, mae'r Elusen Macmillan yn anelu i helpu pobl efo cancr a'u teuluoedd i sicrhau bod yr
Mwy na £40.2 miliwn wedi ei neilltuo i gyllido y gwasanaethau canlynol.
Mynediad i'r Gwasanaethau uchod trwy ddoctoriaid, ymgynghorwyr, nyrsys a phobl broffesiynol yn ymwneud â iechyd fydd yn gweithredu fel rhan o'r tîm NHS i gynnig ac i gydgordio gofal ymarferol ac emosiynol i ddioddefwyr cancr, yn yr ysbyty ac yn y cartref. Arian ar gyfer coed cyhoeddus
Mae Cronfa Coed Cymunedol y Cyngor Coed 2001 yn darparu cymorth i fudiadau
Rhaid i'r prosiectau fod yn rhai o 'ansawdd uchel' gyda gwaith ymchwil priodol wedi'i wneud iddynt. Dylai'r costau fod rhwng £100 a £700, a dylid ceisio am 50% oddi wrth ffynonellau eraill. Y dyddiad cau yw
Dylai'r dyddiad dechrau bwriedig fod rhwng 21 Tachwedd a 2 Rhagfyr 2001.
Ffôn:
Sefydliad Peter Harrison
Mae Peter Harrison, dyn busnes sy'n arbenigo mewn technoleg gwybodaeth, wedi lansio sefydliad gwerth £30 miliwn i helpu pobl anabl a difreintiedig trwy gyfrwng chwaraeon, addysg ac anghenion arbennig ar gyfer plant a phobl ifanc. Bydd Peter Harrison Foundation yn dosbarthu grantiau sy'n werth oddeutu £1.4m y flwyddyn i brosiectau rhanbarthol a chenedlaethol. Nawdd i elusennau cofrestredig yn unig a gwahoddir ceisiadau ar gyfer dwy raglen:
Mae canllawiau a manylion ar gyfer gwneud ceisiadau ar gael oddi wrth:
Gofal Plant i Blant Oed Ysgol
Ydych chi angen Gofal Plant i blant oed ysgol ar Ynys Môn? Mae cymorth ar gael! Mae'n bosib rhoi cais i'r Gronfa Cyfleoedd Newydd am arian ac mae cymorth ar gael i sefydlu pwyllgor gwirfoddol i redeg Clwb Tu Allan i ysgol. Mae'r clybiau yma yn medru bod ar agor ar ôl ysgol, yn ystod y gwyliau neu cyn ysgol fel mae'r rhieni angen. Os oes ganddoch ddiddordeb mewn cychwyn pwyllgor i gychwyn clwb yn eich ardal chi ffoniwch Wendy Roberts ar .
Newid gyrfa? -
A oes gennych ddiddordeb i fod yn gyfathrebwr i'r byddar a phobl drwm eu clyw?
Aelodaeth Mudiad Gwirfoddol ar Grwp Strategaeth Gwasanaethau Plant
Bydd cyd-drefnu Strategaeth, Cynllunio a chydgordio newydd yn dechrau yn y flwyddyn newydd. Bydd rhan Strategol o'r grwp yn cynnwys Prif Swyddogion a byddent yn cyfarfod ddwy waith yn ystod y flwyddyn, gyda'r cyfarfod cyntaf ar 26 Mawrth, 2001. Gwahoddir cynrychiolwyr o ddau fudiad gwirfoddol i ymuno â'r Grwp Strategol i gynrychioli'r Sector Gwirfoddol.
Ysgrifennwch at Mr Byron Williams,
ddim hwyrach na 16 Chwefror os hoffech gael eich ystyried. |
TUDALEN BIWRO GWIRFODDOLWYR YNYS MÔN
|
CYFLEOEDD GWIRFODDOLI AR YNYS MÔN Hospis yn y Cartref - angen gwirfoddolwyr i helpu yn eu Canolfan Dydd yng Nghaergybi ar ddyddiau Llun a Gwener ac ym Miwmares ar ddydd Iau, hefyd gyda ymweliadau cartrefi a chludiant RDA - (Cymdeithas Marchogaeth i'r Anabl) - angen gwirfoddolwyr i helpu plant ac oedolion gydag anableddau dysgu/corfforol gyda marchogaeth neu ddreifio ceffyl a thrap Cyngor Henoed - yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu gyda'u Clybiau Cinio yn Niwbwrch, Llangefni a Phorthaethwy Royal United Kingdom Beneficient Association (RUKBA) - angen gwirfoddolwyr i ymweld a cynnig cymorth i'r henoed sydd eisoes yn cael cefnogaeth gan RUKBA Canolfan Cynghori Ynys Môn - yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno â'u tîm o gynghorwyr Car Linc Môn/Cynllun Tro Da - angen gyrwyr gwirfoddol ar frys, a gwirfoddolwyr i helpu gyda siopa, casglu presgripsiwn a.y.y.b. Scope-Cynllun Hyfforddiant - Os ydych rhwng 16 a 24 oed ac yn ystyried eich hun yn anabl, mae Scope yn gallu darparu rhaglen hyfforddiant dros gyfnod o 12 mis drwy Rhaglen Gwirfoddolwyr y Mileniwm Chwarae Teg - angen gwirfoddolwyr i ffurfio Pwyllgorau Aelodau i agor a rhedeg "Clybiau ar ôl Ysgol" ar Ynys Môn Ysgol y Bont, Llangefni(Anghenion Arbennig) - angen gwirfoddolwyr i helpu yn yr ysgol e.e., darllen i'r plant, helpu gyda thripiau a.y.y.b. Gwasanaeth Tystion - eisiau gwirfoddolwyr i gynorthwyo yn Llysoedd Ynadon a'r Goron leol. Barnardos Ynys Môn - angen gwirfoddolwyr gofal plant. Bydd pob gwirfoddolwr yn derbyn hyfforddiant a chefnogaeth Y Groes Goch(Cynllun Cludiant) - eisiau gyrwyr gwirfoddol i'w cynllun cludiant ar Ynys Môn Taran - angen gwirfoddolwyr i gefnogi pobl gyda gwahanol anableddau mewn awyrgylch swyddfa a gyda gweithgareddau cymdeithasol Canolfan Lôn Abaty - eisiau derbynyddion gwirfoddol gyda'r nôs yn y Ganolfan RSPB - Cynllun Warden Gwirfoddol - yn gallu rhoi y cyfle i fod yn 'Warden Gwirfoddol' i hyd at 4 wythnos ar 1 o'u 31 Gwarchodfeydd Natur Cynllun Cefnogi Dioddefwyr - i helpu/cefnogi dioddefwyr trosedd ar Ynys Môn Gwirfoddolwyr y Mileniwm - Gwobr cydnabyddedig i wirfoddolwyr rhwng 16 - 24.
Peidiwch â cholli allan!
cysylltwch â Jackie neu Cadi,
GALW AM ROI PEN AR Y DRETH AR WIRFODDOLWYR Bydd y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB), a fydd yn gweithredu o fis Gorffennaf 2001 ymlaen, yn codi rhwng £10 - £20 am bob ymholiad i weld a oes gan wirfoddolwyr gofnod troseddol. Bydd yn rhaid i unai'r mudiad gwirfoddol neu'r gwirfoddolwyr eu hunain dalu'r gost. Meddai Sue Pickavance, pennaeth gwirfoddoli yn Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC): "Mae cyflwyno archwiliadau'r heddlu yn cyfateb i dreth ar wirfoddolwyr - a chaiff hyn effaith ddinistriol ar y sector gwirfoddol. Bydd llai o bobl yn cynnig eu hunain fel gwirfoddolwyr, a bydd hyn, yn ei dro, yn arwain at fod mudiadau gwirfoddol yn cynnig llai o wasanaethau. "Rydym yn galw ar y Llywodraeth i ddarparu'r arian ar gyfer archwiliadau'r heddlu. Ni ddylid disgwyl i'r sector gwirfoddol dalu am hyn." Mae CGGC yn gofyn i'r rheini sydd am ymuno â'r ymgyrch, i roi pen ar y dreth ar wirfoddoli, ysgrifennu at eu ASau lleol a llofnodi deiseb a gaiff ei chyflwyno i'r Ysgrifennydd Cartref. I gael rhagor o wybodaeth am y Swyddfa Cofnodion Troseddol neu i gael copi o'r ddeiseb, cysylltwch â Sue Pickavance yn CGGC ar . IYV 2001 THEMA ARBENNIG I BOB MIS
Lansiwyd Blwyddyn Ryngwladol Gwirfoddolwyr (IYV) 2001 ar Ragfyr 5 2000 yn Techniquest ym Mae Caerdydd gan Weinidog y Cynulliad dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Jane Hutt ac
Bydd pob un o fisoedd y flwyddyn nesaf â thema benodol iddo, i adlewyrchu prif feysydd diddordeb mudiadau gwirfoddol yng Nghymru.
Mae hon yn ffordd ardderchog i fudiadau a gwirfoddolwyr ddefnyddio BRG2001 er mwyn lledaenu mwy o wybodaeth am eu gwirfoddoli i weddill Cymru.
|
AM FWY O WYBODAETH
CYSYLLTWCH Â
Cadi Evanson
Biwro Gwirfoddolwyr Ynys Môn
ar
Prosiect TG y Biwro Gwirfoddolwyr
EIN CYFEIRIAD YW :
Gwasanaethau Gwirfoddol Ynys Môn Ystafell 20, Hyfforddiant Môn
Stâd Ddiwydiannol Pen Yr Orsedd
Llangefni
Ynys Môn LL77 7JA
Ffôn:
Ffacs: neu
darllenwch ein tudalen ar y We:
http://www.menternet.org.uk/ymvs/index.htm
I ddychwelyd yn ôl i'r dudalen gartref yna cliciwch nawr