Cylchlythyr i fudiadau gwirfoddol Ynys Môn
Rhif Elusen Rhifyn 22 Rhagfyr 2000
|
Nid yw’n anorfod mai barn GGYM a fynegir yn y cyhoeddiad hwn. Cadw’n yr hawl i olygu cyn cyhoeddi. Dyluniwyd a dosbarthwyd y cylchlythyr hwn gan GGYM. |
I ddychwelyd yn ôl i'r dudalen gartref yna cliciwch nawr
|
N E W Y D D I O N Mae Cynllun Cymunedol Moelfre mewn partneriaeth ag Age Concern Gwynedd ag Ynys Môn yn gysylltiedig â Chyngor Sir Ynys Môn yn ymgorffori Clwb dros 50 Moelfre, Clwb Bowlio dan do, Gofal Dydd Hafan a'r Clwb Cinio, Clwb Gwaith Cartra Moelfre newydd ennill gwobr Brydeinig arbennig iawn.
Un o ddau enillydd trwy Brydain maent wedi derbyn gwobr Bura - Ymarfer
Yn y seremoni wobrwyo cyflwynwyd siec am £1500, a thystysgrif am ymarfer gorau i'r grwp yn cynrychioli y cynllun yn Nhy'r Arglwyddi gan Arglwydd Hunt o'r Wirral . Dau ddatblygiad diddorol ar y gorwel ynglyn â'r cynllun yw sefydlu Clwb Celf Moelfre, yn rhoi cyfleon celf i blant a phobl ifanc, yn ogystal â sefydlu cysylltiadau creadigol rhwng yr ysgol a'r gymuned, a Clwb Cyfrifiaduron yn rhoi mynediad i oedolion a rhieni i gyfrifiaduron.
Mae'n anrhydedd arbennig ac yn dangos y posibilrwydd i gymunedau eraill sy'n
Y Groes Goch: Prosiect Symudol Ieuenctid - Rhan amser 20 awr wythnos Penodwyd Cai Roberts yn weithiwr ieuenctid symudol ar Ynys Môn - os ydych yn delio neu mewn cyswllt â phobl ifanc, ac eisio gwybodaeth am unrhyw destun o Sglefrolio i Addysg Rhyw neu Digartrefedd i Addysg gyrfaoedd. Cysylltwch â: Cai ar
Dymunwn yn dda i
Mari
o'r Swyddfa ar ei dyweddiad â
Leigh
sydd ar hyn o bryd yn cwblhau PhD ym Mangor.
British Urban Regeneration
Yn dilyn dau ymweliad gan aelodau o banel BURA i asesu Cynllun Cymunedol Moelfre yng Ngorffennaf a Hydref, nodwyd llwyddiant i aelodau ynghlwm wrth y cynllun yn Nhachwedd, yn ogystal â chyfraniad o £10,000 gan Sefydliad Lloyds T.S.B. tuag at ddatblygiadau pellach. Llun yn dangos swyddogion lleol efo Nia Bown Rheolwr Lloyds T.S.B. Llangefni, a John Clifford Jones Prif Swyddog Age Concern Gwynedd / Ynys Môn yn ystod cyflwyno'r siec.
Chwaraeon y Ddraig
- Apwyntiwyd Helena Burrows yn Gyd-gysylltydd Chwaraeon y Ddraig ar Ynys Môn. Rhoddir blaenoriaeth i rai rhwng 7 - 11oed.
I gysylltu â Helena: ffoniwch |
|
H Y F F O R D D I A N T Newyddion Golygyddol: CYRSIAU CYMUNEDOL.
Datblygwyd cyrsiau newydd rhan amser i hyfforddi pobl leol mewn sgiliau datblygu ac
Cyrsiau ar gael o Brifysgol Cymru Bangor, ac o Goleg Y Rhyl o Ionawr 2001.
Gwybodaeth ar gyrsiau hyblyg eraill, cysylltwch ag unrhyw un o'r deg Coleg yng Ngogledd Cymru sy'n rhan o'r Brifysgol Gymunedol.
CEFNOGAETH ARIANNOL I FYFYRWYR RHAN-AMSER ADDYSG UWCH.
Mae'r Brifysgol Gymunedol wedi cyhoeddi llyfryn newydd am ddim yn cynnwys gwybodaeth am yr help ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr rhan amser addysg uwch yng
Cyswllt: Lisa Parkhouse neu e-bost:
Cymdeithas Clefyd Parkinson. Cynhelir cyfarfod nesaf o gangen Arfon ag Ynys Môn, Dydd Mawrth 30ain Ionawr, 2001, yng Ngwesty Carreg Brân, Llanfairpwll, Ynys Môn yn cychwyn am 2.00.pm. Anerchir y cyfarfod gan Mrs Mary Baker MBE, Prif Weithredwr Cymdeithas Clefyd Parkinson y Deyrnas Unedig.
Os â diddordeb mewn mynychu cysylltwch:
Ffôn: .
Atgoffwn pawb am y Cwrs Iechyd, Diogelwch a Cymorth Cyntaf Brys. Cynhelir y Cwrs Dydd Mawrth, 16eg Ionawr, a 23ain Ionawr, 2001, yn Ystafell Bwyllgor 2, Swyddfeydd Cyngor Sir Ynys Môn. Amgaewyd manylion llawn o gynnwys y Cwrs ynghyd â ffurflen gais efo rhifyn olaf Dan Do.
Os â diddordeb anfonwch y ffurflen gais
Derlwyn Hughes GGYM
Dyfarniadau Unigate
Mae Dyfarniadau Adnoddau Oedran Unigate unwaith eto'n chwilio am geisiadau. Eu nod yw tynnu sylw at grwpiau ac unigolion (dros 50 oed) sy'n ymwneud â phrosiectau neu weithgareddau arloesol, a chynnig cefnogaeth iddynt. Cynigir dyfarniadau sy'n werth hyd at £1,500 o dan y categorïau canlynol:
Y dyddiad cau yw 31 Ionawr 2001.
|
|
N E W Y D D I O N ---- C Y L L I D O Elusen Beaufort. Mae'r Elusen yma yn rhoi rhwng £100 a £5,000 i elusennau cofrestredig, ysgolion, colegau a phrifysgolion wrth annog a hyrwyddo datblygiadau pellach mewn addysg, crefydd, neu unrhyw bwrpas elusennol arall.
Gellir gwneud ceisiadau unrhyw amser, dim angen ffurflen gais arbennig.
Company Secretary,
Ffôn: .
Grantiau'r Halifax.
Mae rhaglen newydd yr Halifax yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol:
Mae rhoddion o rhwng £100 a £1,000 ar gael ar gyfer prosiectau rhanbarthol.
Os oes arnoch angen cefnogaeth ar gyfer prosiect cenedlaethol sy'n chwilio am fwy o nawdd sylweddol cysylltwch â'r tim Cysylltiadau Cymuned ar neu sgwennu atynt yn:
PPP Healthcare Medical Trust.
Sefydlwyd cynllun grant newydd gan PPP Healthcare Medical Trust i gefnogi seminarau ar faterion iechyd.
Am wybodaeth pellach cysylltwch:
Kelly Chance Gweinyddwr Ceisiadau.
Ffôn: .
Help the Aged Cymru - rhaglen grantiau
Carai Help the Aged Cymru dderbyn rhagor o geisiadau ar gyfer prosiectau yng Nghymru sy'n newydd neu sydd wedi defnyddio eu holl arian.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â
Copiau o COMPACT - GWELEDIGAETH AR Y CYD rhwng y Sector Iechyd Statudol a'r Sector Gwirfoddol yng Ngogledd Cymru ar gael o'r swyddfa i grwpiau â diddordeb |
TUDALEN BIWRO GWIRFODDOLWYR YNYS MÔN
|
CYFLEOEDD GWIRFODDOLI AR YNYS MÔN
Gwasanaeth Hawliau Plant ac Eiriolaeth
- i gynorthwyo pobol ifanc
Canolfan Lôn Abaty - derbynyddion gyda'r nôs yn y ganolfan
Mind, Caergybi
- i gynorthwyo gyda pobl â phroblemau iechyd meddwl e.e.
Cynllun Tro Da - yng nghymunedau yr Ynys i helpu gyda siopa, casglu presgripsiwn ayb Cymdeithas Strôc Caergybi - i helpu gyda chadair olwyn a helpu pobl i fynd o gwmpas yn eu cyfarfodydd ag hefo raffls, te ayb Barnardos Ynys Môn - angen gwirfoddolwyr gofal plant. Bydd pob gwirfoddolwr yn derbyn cefnogaeth a chyfleoedd hyfforddi. Tim 'A' Ynys Môn - ysgrifennydd gwirfoddol ac hefyd gwirfoddolwyr i helpu adnewyddu hen gwch - DIY
Hospis yn y Cartref
- gyrrwyr
Urdd Ynys Môn
- yn chwilio am dri
Clybiau Bechgyn a Genethod, Cymru - i helpu gyda Chlybiau Ieuenctid fel Arweinyddion neu gynorthwywyr WRVS - i helpu yn eu siopau Ysbyty
Gwirfoddolwyr y Mileniwm
- Gwobr cydnabyddiedig i wirfoddolwyr rhwng
Fel Gwirfoddolwr - Mae'r hawl gennych i ddisgwyl ad-daliadau am bob cost o'ch poced - cofiwch mai eich amser yr ydych yn ei roi am ddim!
Os â diddordeb, neu angen mwy o wybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli eraill, cysylltwch â Jackie neu Cadi
BTCV Cymru - Os oes gennych diddordeb mewn cadwraeth a gwaithgwirfoddol i'r amgylchedd gellwch ddysgu sgiliau newydd yng nghefn gwlad Gogledd Cymru. Cysylltwch : am fwy o wybodaeth. |
AM FWY O WYBODAETH
CYSYLLTWCH Â
Cadi Evanson
Biwro Gwirfoddolwyr Ynys Môn
ar
Prosiect TG y Biwro Gwirfoddolwyr
EIN CYFEIRIAD YW :
Gwasanaethau Gwirfoddol Ynys Môn Ystafell 20, Hyfforddiant Môn
Stâd Ddiwydiannol Pen Yr Orsedd
Llangefni
Ynys Môn LL77 7JA
Ffôn:
Ffacs: neu
darllenwch ein tudalen ar y We:
http://www.menternet.org.uk/ymvs/index.htm
I ddychwelyd yn ôl i'r dudalen gartref yna cliciwch nawr