Cylchlythyr i fudiadau gwirfoddol Ynys Môn
Rhif Elusen Rhifyn 21 Tachwedd 2000
|
Nid yw’n anorfod mai barn GGYM a fynegir yn y cyhoeddiad hwn. Cadw’n yr hawl i olygu cyn cyhoeddi. Dyluniwyd a dosbarthwyd y cylchlythyr hwn gan GGYM. |
I ddychwelyd yn ôl i'r dudalen gartref yna cliciwch nawr
|
YR UNIAD Yn dilyn penderfyniad Pwyllgorau Rheoli Biwro Gwirfoddolwyr Ynys Môn a Gwasanaethau Gwirfoddol Ynys Môn sefydlwyd Pwyllgor Cysgodol i oruchwylio’r broses o uno. Aelodau’r Pwyllgor Cysgodol yw Ann Jones, Richard Griffiths a David Lewis Roberts o’r Biwro a Tony Pritchard, Di Bushell a John Clifford Jones o GGYM. Mae’r Pwyllgor wedi trafod Memorandwm ac Erthyglau i’r corff newydd a hefyd yn ystyried y rheidrwydd o’i leoli o dan yr un tô. Derbyniwyd croeso cynnes i’r uniad gan y cyllidwyr ac oddi wrth aelodau sector gwirfoddol. Gobeithiwn weld y corff newydd yn weithredol o 1 Ebrill 2001 ac os oes gennych awgrym o enw cysylltwch â Cadi ar neu John ar . . |
|
AMCAN 1 Cynhaliwyd cyfarfod i ddiweddaru’r sector ar ddatblygiadau Amcan 1 ac adroddwyd fod 3 mudiad gwirfoddol lleol wedi derbyn cymeradwyaeth y Bwrdd Partneriaeth i anfon eu cynlluniau ymlaen sef Agoriad, Sylfaen a Taran. Cynllun 6 mlynedd yw Amcan 1 felly mae digon o amser i ddatblygu cynlluniau. Penderfynwyd hefyd ar y 6 eilydd i gynrychioli y sector gwirfoddol ar Fwrdd Partneriaeth Ynys Môn sef Di Bushell CAB Ynys Môn, Cadi Evanson Biwro Gwirfoddolwyr Ynys Môn, Carol Owen Celfyddydau Gwirfoddol Cymru, Jane Jones Partneriaeth Ward Tudur, John Morgan Jones Boston Centre Stage a Mari Jones Gwasanaethau Gwirfoddol Ynys Môn. Hefyd cefnogwyd cais i ddenu arian o’r Gronfa Adfywio Lleol fydd yn dod â arian i’r Ynys er mwyn i fudiadau ddatblygu eu syniadau a pharatoi cynlluniau. Gobeithir cynnal cyfarfodydd rheolaidd i ddiweddaru’r sector ac os am fwy o wybodaeth cysylltwch â Swyddfa Gwasanaethau Gwirfoddol Ynys Môn ar neu Adran Ewropeaidd Cyngor Sir Ynys Môn. |
|
N E W Y D D I O N CADW’N IACH Y GAEAF YMA – Cadw’n Gynnes Cadw’n Iach 2000/2001. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi dechrau cynllun ‘Cadw’n Gynnes Cadw’n Iach’ sydd yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth i bobl hyn a bregus i’w galluogi nhw i ‘Gadw’n Iach y Gaeaf yma’ Canolbwyntir eleni ar: Cynyddu nifer i gael brechiad rhag y ffliw – erbyn hyn am ddim i rai dros 65. Cadw eich ty yn gynnes. Bwyd a maeth i’ch cadw yn gynnes. Osgoi damweiniau yn y cartref a siopio i ffrind. Mae’r deunydd Cadw’n Gynnes Cadw’n Iach ar gael o Hydref. Dosbarthir y taflenni sy’n cynnwys yr holl faterion perthnasol a gwybodaeth ddefnyddiol a rhifau ffôn yn ogystal â’r wybodaeth ddiweddaraf ar Gynllun Ynni Effeithiol yn y Cartref yng Nghymru. Os all eich mudiad helpu Age Concern i sicrhau fod pobl hyn yng Nghymru, yn enwedig y rhai bregus neu rhai ar incwm isel yn derbyn y wybodaeth ar Cadw’n Gynnes Cadw’n Iach,cysylltwch ag Age Concern i sicrhau ffurflen yn syth.
Jane North, Age Concern Cymru,
Jigso Anelir grant Jigso at helpu grwpiau cymunedol yng nghefn gwlad Cymru yn y broses o sicrhau dyfodol cynaliadwy fel a nodir yn Agenda Lleol 21. Dyfarnir grantiau hyd at £1000 am weithgareddau sy’n hyrwyddo cyfranogiad mewn cymuned. Rhoddir cryn bwys ar agwedd gynhwysol, a gwerthusiadau sy’n rhoi cyfle cyfartal i siaradwyr Cymraeg a Saesneg gyfranogi. Gellir cyflwyno ceisiadau unrhyw adeg,am ragor o wybodaeth am Jigso, ffoniwch , neu e bostiwch Sicrhau mwy o dir glas i Gymru Mae cynllun arian-cyfatebol gwerth £15 m ar fin cael effaith ddramatig ar ansawdd a nifer y caeau chwarae a meysydd glas mewn cymunedau ledled Cymru. O ganlyniad i grant loteri o £7.5m gan y Gronfa Cyfleoedd Newydd, bydd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru’n arwain rhaglen ar y cyd i gefnogi o leiaf 15,000 o wirfoddolwyr i helpu i wella’u cymunedau. Partneriaeth rhwng CGGC, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Ymddiriedolaeth y Tywysog Cymru ac Amgylchedd Cymru fydd yn gyfrifol am y cynllun. Ei nod fydd:
Bydd tri math o grant ar gael i sicrhau hyblygrwydd i ateb gofynion pawb – y rhai hynny sy’n dechrau hel syniadau ac eraill sydd â phrosiect mawr ar y gweill ac yn barod i gychwyn arni. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Sue Spurrier ar Aelod Newydd o Staff Penodwyd Linda Jones fel Cymhorthydd Gweinyddol rhan amser i Gwasanaethau Gwirfoddol Ynys Môn gan gychwyn Hydref 2000. Bydd Linda yn cynorthwyo efo Dan Do yn ogystal â chyfrifoldebau eraill yn y swyddfa. |
|
H Y F F O R D D I A N T Recriwtio a Cefnogi Gwirfoddolwyr Yn yr oes ohoni mae cystadleuaeth frwd rhwng mudiadau i recriwtio a chadw gwirfoddolwyr. Mae’n bwysig felly ein bod yn mabwysiadu systemau addas a polisiau i’n helpu i apwyntio y person mwyaf addas i swydd arbennig, ac i gynnal, cefnogi a mesur y gweithlu gwirfoddol presennol. Mae’r Cwrs yn cyffwrdd ar ddulliau o ddenu gweithwyr gwirfoddol, trefn dethol addas, disgrifiadau swyddi, polisiau cyfleon cyfartal, agweddau cyfreithiol o recriwtio, cefnogaeth barhaol ac arweiniad. Cynhelir y Cwrs ar:
Mae’r Cwrs yn achrededig, darperir cinio, a’r gost fydd £12.50. Dyddiadau Hyfforddi eraill ar gyfer eich dyddiadur am 2001:
Byddwn yn cynnwys gwybodaeth fanwl ar ein holl Gyrsiau i’r dyfodol yn Dan Do Môn, yn ogystal â seminarau defnyddiol i grwpiau gwirfoddol.
Iechyd, Diogelwch a Cymorth Cyntaf Brys. Cwrs deuddydd a gaiff gredyd ar Rwydwaith Prifysgol Agored, yn ogystal â rhoi’r cyfle i ennill Tystysgrif Cymorth Cyntaf Brys Ambiwlans Sant Ioan . Agweddau o Iechyd a Diogelwch yn cynnwys golwg gyffredinol ar y pethau hynny sy’n berthnasol i fudiadau gwirfoddol, fel, Asesiad risg, gweithio allan o’r gweithle, defnyddio a thrin offer efo llaw, damweiniau a diogelwch tân. Mae’r Tystysgrif Cymorth Cyntaf yn cynnwys holl agweddau eu hangen i sicrhau Tystysgrif NOCN a Tystysgrif Cymorth Cyntaf Sant Ioan. Opsiynol yw Tystysgrif Ambiwlans Sant Ioan ar gost o £15.00. Cynhelir y Cwrs ar:
Deuddydd o gwrs a gaiff gredyd, darperir cinio, a’r gost fydd £27.50. ( yn cynnwys tâl o £15.00 i Ambiwlans Sant Ioan). Cysylltwch â Derlwyn neu Wendy ar os â diddordeb. Ethol Cadeirydd / Is-Gadeirydd i GGYM
Yn dilyn Cyfarfod Blynyddol 13/9/00 penodwyd Tony Pritchard (Access Ynys Môn) yn Gadeirydd GGYM ac Ann Jones (Biwro Gwirfoddolwyr) yn Is-Gadeirydd. Dymuniadau gorau i’r ddau yn eu swyddi.
|
|
N E W Y D D I O N ---- C Y L L I D O Ymddiriedolaeth Alec Dickson
Ydych chi dan 30oed ac yn awyddus i helpu eraill?
Bydd yr ymddiriedolaeth yn:
I gael mwy o wybodaeth, ysgrifennwch at Ymddiriedolaeth Alec Dickson, 172-176 Kings Cross Road, Llundain. WC1X 9NJ. Ymddiriedolaeth Tudor
Canllawiau i ymgeiswyr 2000 –2003
Ffôn: . We: www.tudortrust.org.uk Sefydliad Comino
Mae Sefydliad Comino yn elusen addysgiadol.
Mae Sefydliad Comino yn anelu i gynyddu gwerth mae pobl yn rhoi ar Addysg a Hyfforddiant, annog pobl ifanc i ddatblygu eu dymuniad i ddysgu a pharhau efo addysg trwy gydol eu hoes. Enw dull Sefydliad Comino yw GRASP – Getting Results and Solving Problems. Mae’n cynnig strwythur i feddwl am gael canlyniadau o safon uchel. Mae’n cyflwyno patrwm,cynllun a dull mewn meddwl, mae o i gyd yn ymwneud mewn cael canlyniadau a gwneud i bethau ddigwydd. Prif elfennau yw
Ymholiadau trwy lythyr i’r Gweinyddwr Mr Alan Roberts, 29 Hollow Way Lane, Amersham, Bucks. HP6 6DJ Ymddiriedolaeth Buttle yng Nghymru Grantiau Cefnogi Plant – Amcan gyffredinol yr Ymddiriedolaeth yw rhoi cymorth ariannol i blant a phobl ifanc sy’n dioddef rhyw anffawd neu anhawster eithriadol yn eu bywyd. Nid yw caledi ariannol ei hun yn rheswm digonol dros roi grant. Rhoddir Grantiau Cefnogi Plant (rhyw £200 yr un ar gyfartaledd) yn fisol. Dylai ceisiadau gael eu gwneud gan asiantaeth sy’n noddi, e.e. Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gwasanaeth Prawf, Gwasanaethau Iechyd, Mudiadau Gwirfoddol. Rhoddir grantiau ar gyfer eitem(au) neilltuol sydd eu hangen ar blentyn neu ar deulu plentyn, e.e. gwely, dillad gwely, popty, peiriant golchi, dillad, a/neu i gyfrannu tuag at becynnau creadigol o gefnogaeth i blentyn neu berson ifanc. Sut i ymgeisio – Dylai Asiantaethau sy’n noddi gysylltu â’r Ymddiriedolaeth drwy lythyr neu dros y ffôn i amlinellu amgylchiadau ac anghenion y plentyn, a gofyn am ffurflen gais. Mae’r swyddfa ar agor Dydd Llun i Dydd Iau yn y bore fel arfer. Am fwy o wybodaeth ar gategorïau blaenoriaeth ar gyfer grantiau yng Nghymru, cysylltwch â Swyddog Cymru yr Ymddiriedolaeth Jill Taylor. Ffôn/Ffacs – . Cyhoeddodd Lloyds T.S.B. restr o grwpiau a lwyddodd i sicrhau cyllid, efo 4 grwp ar yr Ynys yn rhannu bron i £20,000 rhyngddynt..
Bu Mr Mike Lewis ar ran Lloyds T.S.B. yn un o’r cyflwynwyr yn ein Diwrnod Gwybodaeth Cyllid 18.10.2000 Neuadd y Dref, Llangefni. Diolch i bawb am gefnogi ac am ymateb yn gadarnhaol i’r gweithgaredd – cafwyd ymateb gan dros 50 o grwpiau gwirfoddol. Neuadd Goffa Bodedern Ni fu’r cais loteri i adnewyddu’r neuadd yn llwyddiannus ond fe fyddent yn rhoi cais i mewn eto. Yn ystod trafodaeth gyda swyddog y Loteri dywedwyd nad oedd dim o’i le hefo’r cais ond fod yr arian i’w rannu ar y diwrnod wedi dod i ben. Roedd y cais wedi’i gymeradwyo. Pob lwc i’r neuadd – cofiwch i ni nodi yn Dan Do yn ddiweddar Neuadd Benllech yn llwyddiannus ar eu 4ydd cais i’r Loteri. Dalier ati Bodedern! Gair o ddiolch Ffoniodd y Cynghorydd R J Jones Llanfaelog i ddiolch i Mari am ei help i roi Capel Rehoboth ar ben ffordd i dderbyn £1,000 gan Sefydliad Garfield Weston tuag at welliannau i’r capel. Os oes unrhyw grwp angen help cysylltwch â’r swyddfa. Arwain – Gwobrau Mileniwm Cyllidir y prosiect newydd yma a weinyddir gan CGGC gan arian Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’r Comisiwn Mileniwm. Grantiau i fyny at £2,500 yr un ar gael i gefnogi gwirfoddolwyr ar brosiect neu rhaglen weithgareddau i’w helpu i ddatblygu eu sgiliau a’u galluoedd er lles cymunedau lleol. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: Dafydd Thomas ar |
TUDALEN BIWRO GWIRFODDOLWYR YNYS MÔN
AM FWY O WYBODAETH
CYSYLLTWCH Â
Cadi Evanson
Biwro Gwirfoddolwyr Ynys Môn
ar
Prosiect TG y Biwro Gwirfoddolwyr
EIN CYFEIRIAD YW :
Gwasanaethau Gwirfoddol Ynys Môn Ystafell 20, Hyfforddiant Môn
Stâd Ddiwydiannol Pen Yr Orsedd
Llangefni
Ynys Môn LL77 7JA
Ffôn:
Ffacs: neu
darllenwch ein tudalen ar y We:
http://www.menternet.org.uk/ymvs/index.htm
I ddychwelyd yn ôl i'r dudalen gartref yna cliciwch nawr