Cylchlythyr i fudiadau gwirfoddol Ynys Môn
Rhif Elusen Rhifyn 20
Medi 2000

Nid yw’n anorfod mai barn GGYM a fynegir yn y cyhoeddiad hwn. Cadw’n yr hawl i olygu cyn cyhoeddi. Dyluniwyd a dosbarthwyd y cylchlythyr hwn gan GGYM.

I ddychwelyd yn ôl i'r dudalen gartref yna cliciwch nawr


Amcan 1:
adolygiad cynhwysfawr o wariant

Cyhoeddwyd na fydd unrhyw fudiad gwirfoddol yn colli allan ar arian Amcan 1 oherwydd diffyg arian cyfatebol.

Cadarnhaodd Ysgrifennydd Cymru, Paul Murphy, y byddai holl brosiectau gwerth chweil Amcan 1 yn derbyn arian cyfatebol, yn newyddion da ar gyfer grwpiau gwirfoddol a chymunedol.

‘Mae’r datganiad wedi helpu i gael gwared ar yr ansicrwydd ynghylch arian cyfatebol ar gyfer grwpiau sydd â syniadau am brosiectau a allai gyfrannu at adfywio eu cymunedau’ meddai Phil Jarrold o Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

‘Mae ei addewidion yn bositif iawn, ond rhaid sicrhau fod yr arian ar gael i’r holl brosiectau a gefnogir gan Amcan 1, rydym yn disgwyl i gael gweld y ffigyrau manwl, ond mae’n ymddangos na fydd mater yr arian cyfatebol yn gohirio’r broses o roi’r rhaglen ar waith’


Awdurdod Iechyd Gogledd Cymru:
Grantiau i Fudiadau Gwirfoddol

Bydd y broses i ariannu mudiadau yn 2000/2001 yn dechrau gyda hyn- Dylai mudiadau NAD YDYNT yn derbyn grant Awdurdod Iechyd Gogledd Cymru, ond hoffai gael eu hystyried ar gyfer cefnogaeth ariannol, ofyn am ffurflen gais trwy ffonio - Mrs Helen McLeod ar: .

Bydd ffurflenni ar gael o ddiwedd Awst 2000 a rhaid eu dychwelyd erbyn 29 Medi 2000.

Bydd sefydliadau sydd yn cael grant ar hyn o bryd yn derbyn ffurflen gais heb orfod gofyn amdani.


Plant mewn Angen:

Tachwedd 17, 2000 yw’r dyddiad eleni ar gyfer Apêl flynyddol Plant mewn Angen y BBC.

Os hoffech fod yn rhan o’r hwyl, ffoniwch am eich pecyn yn awr.

Llynedd derbyniodd grwpiau ledled Cymru sy’n gweithio â phlant difreintiedig bron i £1.5 miliwn.

Os oes angen grant arnoch, ffoniwch am eich pecyn cais yn awr.

Tachwedd 30 yw’r dyddiad ar gyfer ceisiadau.

Ffoniwch i gael mwy o wybodaeth.


Gwybodaeth Bwysig i Gwsmeriaid TEC

Ar 1 Ebrill, 2001, bydd y pedwar Cyngor Hyfforddiant a Menter yng Nghymru, gan gynnwys CELTEC yn cael eu dileu.

Byddant yn uno â Chyngor Cyllido Addysg Bellach Cymru i greu ‘Cyngor Cenedlaethol Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru’

Penderfynodd y Llywodraeth a’r Cynulliad Cenedlaethol bod angen gwella’r strwythur ar gyfer ariannu a darparu addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Y gobaith yw bydd y newidiadau sydd wedi eu cytuno yn golygu integreiddio addysg a hyfforddiant yn agosach.

Bydd y Cyngor newydd yn gweithio’n agos gyda phartneriaeth sydd wedi’u lunio o gyrff ac unigolion sydd â diddordeb mewn materion hyfforddiant ac addysg yn lleol, fel awdurdodau addysg lleol, addysg bellach, ysgolion a darparwyr hyfforddiant.

Gelwir y tair partneriaeth yn Gonsortia

Cymunedol Addysg a Hyfforddiant (CCET).

Os oes gennych gwestiynau pellach am y newidiadau hyn, cysylltwch â:

CELTEC (TEC Gogledd Cymru)
Uned 6, Parc Busnes Llanelwy,
Llanelwy, Sir Ddinbych. LL17 0LJ

Ffôn: .


Cynhadledd Cymru

Finding Our Voices 2.
Cae Sioe Frenhinol, Llanelwedd, Powys.
Sadwrn, 18 Tachwedd 2000.

I adeiladu ar gynhadledd flaenorol ym Mawrth 1999, bwriedir cynnal ail gynhadledd ar y dyddiad uchod.

Mae hwn yn fenter uchelgeisiol yn ceisio cynnwys grwpiau cyhoeddus, cymunedol, a mudiadau gwirfoddol mewn digwyddiad rhyngweithiol efo cynrychiolwyr etholedig Llywodraeth Leol, a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

Ni fydd unrhyw ddigwyddiad arall yn 2000 o bwysigrwydd mwy i’r sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol na ‘Finding Our Voices 2’


Gwobrwyon CYMRU DACLUS

Trefnir Gwobrwyon Blynyddol Cymru Daclus mewn partneriaeth ag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Bwrdd Croeso Cymru er mwyn hybu grwpiau lleol i wella safon o fewn eu hamgylchedd lleol.

Anfonwch ddisgrifiad byr o’ch prosiect (50-80 o eiriau) yn datgan nod y prosiect, ei gyflawniadau a sut y mae’n cynnig dyfodol iachach a hapusach i bob un ohonom.

Mae dros £3,500 o arian ar gael yn cydnabod y prosiectau mwyaf gwreiddiol a diddorol, mewn sawl categori yn cynnwys:

Am fwy o wybodaeth ffoniwch:

, neu cysylltwch â Derlwyn ar .


Gwahoddir Ceisiadau ar gyfer y
‘Gwobrau Rhagoriaeth’ Ieuenctid

Gwahoddir ceisiadau ar gyfer y Gwobrau Rhagoriaeth mewn Gwaith Ieuenctid yng Nghymru 2000 , gwobr flynyddol sy’n cydnabod arfer gwaith ieuenctid o safon.

Mae’r gwobrau, a noddir gan y Swyddfa Gymreig, yn cynnig gwobrau o hyd at £1,000 i fuddugwyr.

Mae’r Gwobrau Rhagoriaeth yn agored i unrhyw sefydliad gwaith ieuenctid a gaiff gyflwyno prosiect penodol, neu ddarn o waith, a wnaed ganddynt gyda phobl ifanc 11-25 oed, rhwng Medi 1999 a Medi 2000.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 29 Medi 2000.

Ffurflenni cais a gwybodaeth ychwanegol ar gael oddi wrth:

Cyngor Ieuenctid Cymru, Llys Leslie,
Lôn-y-Llyn, Caerffili. CF83 1BQ.
Ffôn: .
Ffacs: .


Cynllun Llwybr Iechyd Cymru

Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Sefydliad Prydeinig y Galon wedi dod at eu gilydd i gefnogi cynlluniau i hybu iechyd pobl Cymru drwy eu hannog i fynd i gerdded.

Bydd y siawns am hyfforddiant wedi’i achredu i gyd-drefnyddion prosiectau ar gael fel rhan o’r cynllun.

Os â diddordeb i fod yn rhan o’r cynllun,

anfonwch am becyn gwybodaeth at:

John Arwel Watkins-Swyddog Polisi Hamdden a Mynediad

Cyngor Cefn Gwlad Cymru

Plas Penrhos, Ffordd Penrhos, BANGOR, Gwynedd LL57 2LQ Ffôn:.


Colur i fudiadau gwirfoddol

Mae Mantell Gwynedd - corff cyfatebol i Gwasanaethau Gwirfoddol Ynys Môn -newydd dderbyn sawl sach o golur gan ‘Boots the Chemist’ i’w ddosbarthu i fudiadau elusennol yng Ngwynedd a Môn.

Gwnaed y rhodd trwy Ymddiriedolaeth elusennol Boots trwy garedigrwydd Proctor & Gamble.

Mae’r colur i’w ddefnyddio i gefnogi gwaith mudiadau gwirfoddol ac elusennol, a gellir ei ddefnyddio hefyd fel gwobrau mewn tombola neu raffl i helpu i godi arian.

Rhaid pwysleisio na ellir ail werthu’r colur ar unrhyw gyfrif.

Os oes unrhyw grwp all elwa cysylltwch â Mantell ar .

Fe allwn ni helpu i gasglu unrhyw golur o Gaernarfon pe bai angen, ffoniwch .


GWYBODAETH LEOL

Partneriaeth Ynys Cybi

Mae Partneriaeth Ynys Cybi wedi’i sefydlu, gyda chynrychiolwyr o’r sectorau preifat,

cyhoeddus, a gwirfoddol, fel rhan o raglen ariannu Ewropeaidd Amcan 1. Edrychir ar ddatblygiadau cymdeithasol ac economaidd yn yr ardal leol. Yn ôl rheolau Ewropeaidd mae’n angenrheidiol i ni gysylltu â’r cyhoedd. Un o’r pethau cyntaf yr ydym am ei wneud yw " Cynllunio i’r Dyfodol " a fydd yn digwydd yn Neuadd y Dref Caergybi, ar y 12ed, 13ed, a 14ed o fis Hydref. Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i ddangos pa welliannau gall ei wneud i Ynys Cybi yn y dyfodol. Gobeithir y bydd cynifer o bobl yn dod i gymryd rhan.

Bydd model ‘3-D’ mawr o’r ardal yn cael ei wneud gan blant ysgolion cynradd lleol. Bydd y cyhoedd yn gallu arddangos pa welliannau maen’t am weld ar gardiau bychan a fydd yn cael ei rhoi ar y model. Bydd y syniadau’n cael ei gydlynu; a bydd adroddiad cynhwysfawr yn cael ei gynhyrchu yn adlewyrchu’r syniadau. Bydd crynodeb o’r adroddiad yn cael ei danfon i’r wasg, i’w ddangos yn y papurau lleol. Bydd yr adroddiad yn cael ei ddefnyddio fel rhan o’r ceisiadau am arian i ddatblygu’r ardal yn y dyfodol.

I ehangu’r nifer fydd yn ymweld â’r ymarferiad yma, bydd ‘raffl’ yn cael ei wneud. Bydd hwn yn rhad ac am ddim i bawb sy’n dod, ac mi fydd y wobr yn werth ei gael! Bydd y wobr yn cael ei dynnu prynhawn dydd Sadwrn.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Holyhead Opportunities Trust ar .


Scope Cwmpas Cymru:
cyfeiriad newydd

Swyddfa Ardal Partneriaeth Cymru
Y Lanfa
Ffordd y Sgwner
Caerdydd CF10 4EU.

Ffôn: . Ffacs: .


NIACE DYSGU CYMRU:
cyfeiriad newydd

NIACE Dysgu Cymru
Ground Floor
35 Cathedral Road
CAERDYDD
CF11 9GB

Ffôn: Ffacs:


Cynllun Plant Dan 8 - £3000 ar gael

Byddwn yn dosbarthu ffurflenni cais y Cynllun uchod, ar gyfer grwpiau sy’n ymwneud â phlant o dan 8 oed ar Ynys Môn, yn ystod yr wythnos nesaf.

Y llynedd derbyniodd 44 grwp £54 yr un.

Cysylltwch â Wendy os â diddordeb.


TUDALEN BIWRO GWIRFODDOLWYR YNYS MÔN

AM FWY O WYBODAETH
CYSYLLTWCH Â

Cadi Evanson
Biwro Gwirfoddolwyr Ynys Môn

ar


Prosiect TG y Biwro Gwirfoddolwyr

Ym mis Hydref bydd Biwro Gwirfoddolwyr ynghyd â'r 31 Biwro arall yng Nghymru, yn derbyn offer cyfrifiadurol a mynediad i'r rhyngrwyd gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) fel rhan o fenter Cymuned Weithredol y Llywodraeth. Bydd meddalwedd rheoli Gwirfoddolwyr ar gael ar eu Cyfrifiaduron, fel y gall canolfannau gwirfoddoli ddilyn llwybr cannoedd o gyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael, yn y pen draw bydd yr wybodaeth yma yn ffurfio sail i safle we gwirfoddoli ar gyfer Cymru.

Mae galluogi'r cyhoedd i gael mynediad i wybodaeth ar y mathau o waith gwirfoddoli sydd ar gael yn eu hardal leol a chysylltu'n uniongyrchol gyda'r canolfannau gwirfoddoli lleol yn gam mawr ymlaen. Bydd y prosiect yn sicr o gynyddu’r nifer o bobl sy'n gwirfoddoli yn eu cymunedau. Er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich cynnwys yn y cynllun newydd hwn, cofrestrwch gyda'r Biwro. Byddent yn cysylltu â'u haelodau'n rheolaidd.

Blwyddyn Ryngwladol Gwirfoddolwyr y CU 2001

Mae'r Cenhedloedd Unedig wedi dynodi 2001 yn Flwyddyn Ryngwladol Gwirfoddolwyr. Mae WCVA wedi penodi Isobel Hulme i gyd-gysylltu cyfraniad Cymru â'r achlysur byd-eang. Mae WCVA ar hyn o bryd yn y broses o sefydlu pwyllgor cenedlaethol, a fydd yn gweithredu fel grwp llywio i gynllunio gweithgareddau a digwyddiadau a chynghori arnynt ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Byddai Isobel yn croesawu pob cyfraniad a syniad ynghylch sut y dylid cynrychioli'r flwyddyn yng Nghymru.

Y Defnydd o Fynediad Pwnc ar gyfer archwilio gwirfoddolwyr

Gan nad yw’n ymddangos fod Biwro Cofnodion Troseddwyr am ddechrau hyd nes mis Mawrth 2001 mae rhai Sefydliadau Gwirfoddoli'n gwneud defnydd cynyddol o Fynediad Pwnc i archwilio gwirfoddolwyr. Mae papur gwybodaeth diweddar gan Gymdeithas Genedlaethol y Canolfannau Gwirfoddoli'n cynghori nad yw'r weithdrefn Mynediad Pwnc yn addas ar gyfer archwilio oherwydd:

  1. Gall hunaniaeth lawn unigolyn beidio â dangos unrhyw olion, tra gall ef/hi fod â chofnod o dan hunaniaeth ychydig yn wahanol/rannol.
  2. Dim ond troseddau y gellir eu cofnodi a gedwir ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu.
  3. Ni ddatgelir amgylchiadau'r drosedd.

4. Rhaid talu lleiafswm o £10 am geisiadau mynediad pwnc, a rhaid disgwyl 40 diwrnod am ymateb.

CYFLEOEDD GWIRFODDOLI

Gwasanaeth Hawliau Plant ac Eiriolaeth - i gynorthwyo pobl ifanc sydd o dan ofal/mewn cysylltiad â Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwasanaeth Tystion - yn Llysoedd Ynadon a’r Goron Leol yn Llangefni/Caergybi/Bangor/C’fon

Canolfan Lôn Abaty - derbynyddion gyda’r nos

Biwro Gwirfoddolwyr Ynys Môn - Trysorydd

Mind, Caergybi - i dasgau cynorthwyo pobl gyda phroblemau iechyd meddwl ee. cefnogi, gwrando a gyda dyletswyddau gweinyddu

Car Linc Môn - angen ar frys gyrwyr gwirfoddol yn ardal Biwmares/Porthaethwy/Benllech/Cgybi

Cynllun Tro Da - siopa, casglu presgripsiwn

Cymdeithas Strôc Caergybi - gyda chadeiriau olwyn a helpu pobl i fynd o gwmpas yn ystod cyfarfodydd & rafflau, te, & i weithio ar stondin yn Ysbyty Penrhos Stanley yn ystod ‘Wythnos Cydnabyddiaeth Strôc’ 1af-6ed Hydref 2000

Human Writes - mudiad newydd gwirfoddol eisiau gwirfoddolwyr i gefnogi ac ysgrifennu at bobl o dan straen feddyliol (weithiau corfforol) ar ‘death row’ yn America

Barnados Ynys Môn - gwirfoddolwyr gofal plant. Bydd pob un yn derbyn cefnogaeth a chyfleoedd hyfforddi

Anglesey A Team - angen ysgrifennydd a pobl i helpu i adnewyddu hen long bysgota, yn bennaf gyda mân dasgau

Hospis yn y Cartref - gyrwyr yn ardal Caergybi i fynd â chleifion i’w hospis yng Nghaergybi, ar foreau Llun bob bythefnos

Urdd Ynys Môn - chwilio am 3 arweinydd i arwain Aelwyd yr Urdd ym Mhorthaethwy, Benllech a Talwrn

Clybiau Bechgyn a Genethod, Cymru - Gwirfoddolwyr o bob cefndir i helpu gyda Clybiau Ieuenctid fel Arweinyddion/Gynorthwywyr

WRVS - i helpu yn eu siopau Ysbyty (Caergybi/Bangor) Gwirfoddolwyr y Mileniwm - Gwobr cydnabyddedig i wirfoddolwyr rhwng 16 -24. Peidiwch â cholli allan!


Clybiau Bechgyn a Merched Cymru

Mae’r mudiad uchod yn deillio nôl i 1923 pan oedd glowyr yng Nghymoedd De Cymru angen datblygu darpariaeth i ddynion ifanc oedd yn gweithio iddynt. Y syniad gwreiddiol oedd rhoi gwyriad addas i ddilyn gweithgareddau hamdden adeiladol.

Datblygodd y mudiad dros y blynyddoedd, ac erbyn heddiw fe’i gelwir yn Glybiau Bechgyn a Merched Cymru.

Yn Hydref 1999 cychwynnwyd ar Gynllun Datblygu Gogledd Cymru, i sefydlu rhwydwaith cefnogol i wirfoddolwyr yn bennaf i ardaloedd gwledig Gogledd Cymru, sydd ar hyn o bryd efo diffyg neu ychydig o ddarpariaeth gwaith ieuenctid.

Maent yn gobeithio annog cymunedau gwledig i ffurfio Clybiau Bechgyn a Merched Cymru mewn ymgynghoriad ag awdurdodau lleol, cynghorau gwirfoddol, cynghorau cymuned, cyngor Chwaraeon Cymru, ag asiantaethau eraill.

Sefydlwyd 2 Bwyllgor Rheoli Rhanbarthol, un i gynnwys Ynys Môn, Gwynedd, a Chonwy, a’r llall i gynnwys Wrecsam, Fflint, a Dinbych – mae angen gwirfoddolwyr i ymuno â’r Pwyllgorau fydd yn

cyfarfod unwaith y mis.

Os dymunwch mwy o wybodaeth am y cynllun:

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Katy Connolly ar neu Rhiannon Davies .


Defnyddiwch ‘APPLY YOURSLVES’

Rhaglen am ddim ar Windows a datblygwyd gan FunderFinder i helpu mudiadau gwirfoddol i lunio ceisiadau effeithiol am arian.

Defnyddiwch Apply Yourselves i gynllunio llythyr neu gais at arianwyr.

Gallwch dynnu’r fersiwn diweddaraf oddi ar safle we FundFinder ar:
www.funderfinder.org.uk
Rhagor o wybodaeth ar .


Awdurdod Iechyd Gogledd Cymru

Mae Awdurdod Iechyd Gogledd Cymru yn ymgynghori â’r cyhoedd a’i bartneriaid ag asiantaethau eraill ynglyn â’r cynigion yn y ddogfen strategaeth ‘Partneriaethau â Phwrpas’.

Mae’r strategaeth yn cynrychioli cynllun 5 mlynedd Awdurdod Iechyd Gogledd Cymru ar gyfer cynnwys y cyhoedd a chleifion wrth gynllunio, darparu a monitro gwasanaethau iechyd yng Ngogledd Cymru.

Bwriedir sicrhau fod barn y cyhoedd yn helpu i lunio gwasanaethau’n well ar gyfer gofynion ac anghenion pobl leol.

Derbynnir sylwadau ar y cynigion hyd at 6 Hydref 2000.

Os hoffech dderbyn unrhyw wybodaeth bellach neu drafod unrhyw agwedd o’r strategaeth, cysylltwch â: Peter Higson neu Julia Williams: .

Gellir cael copi o’r ddogfen, os dymunwch ymateb, gan Gwasanaethau Gwirfoddol Ynys Môn ar .


Dangosyddion Safon Byw Ynys Môn

Efallai eich bod yn cofio derbyn copi o Strategaeth Agenda Leol 21 Ynys Môn tua’r adeg yma y llynedd. Y tu mewn i’r pecyn a ddanfonwyd atoch roedd holiadur byr yn gofyn beth, yn eich tyb chwi, oedd yn effeithio ar eich safon byw yma ym Môn.

Yn dilyn derbyn yr holiaduron yn ôl ac o ganlyniad i nifer o gyfarfodydd gyda Chynghorau Cymuned, grwpiau gwirfoddol, Cynghorwyr, disgyblion ysgolion uwchradd yr ynys a chlybiau ieuenctid ffurfiwyd rhestr o bynciau a oedd, yn nhyb trigolion Ynys Môn, yn bwysig.

Mae’r rhestr yma yn y copi o’r llyfryn amgaeëdig ‘Dangosyddion Safon Byw Ynys Môn’ sy’n ffurfio rhan o’r rhaglen o ddatblygu proses Agenda Leol 21 ar Ynys Môn. Os am fwy o gopïau o’r ddogfen neu am wybodaeth bellach cysylltwch ag Alwena Hughes, Swyddog Agenda Leol 21 yn y Cyngor Sir ar .


Cyngor Newydd i Roi’r Gorau i Ysmygu

Mae Gwasanaeth Rhoi’r Gorau i Ysmygu wedi ei sefydlu’n ddiweddar trwy Gogledd Cymru. Penodwyd Sharon Jones i weithio ar Ynys Môn. Rhan o’r gwaith fydd cynnig cyngor a chefnogaeth i unigolion a grwpiau sydd eisiau rhoi’r gorau i ysmygu.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Sharon Jones ar .

Cysylltwch â Gwasanaethau Gwirfoddol Ynys Môn ar am fwy o wybodaeth ynglyn ag unrhyw erthygl, neu i gynnwys erthygl ar eich mudiad chi yn y rhifyn nesaf.


Bron-Brawf Cymru

Bydd Bron Brawf Cymru yn dod â’r uned sgrinio symudol i Gaergybi o 19 Medi hyd at ddiwedd mis Tachwedd 2000. (Maes Parcio Ysbyty Penrhos Stanley).

Dair blynedd yn ôl mynychodd dros 1200 o ferched sesiynau sgrinio’r fron yng Nghaergybi.

Os ydych rhwng 50 - 64 oed eleni ac wedi’ch cofrestru gydag un o’r Meddygon Teulu yng Nghaergybi byddwch yn derbyn apwyntiad drwy’r post yn awtomatig.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Margaret Jones: .


Datganiad i’r Wasg

Y Diwrnod Dod Allan Cenedlaethol 2000

Llinellau cymorth lesbiaid, hoywon a phobl ddeuryw yn ymuno mewn ymgyrch genedlaethol.

Ar 7 Hydref, ym mhob rhan o Brydain, bydd mwy na 40 o linellau cymorth lesbiaid, hoywon a phobl ddeuryw ar agor 24 awr y dydd i siarad gydag unrhyw un sy’n dod i delerau â’u rhywioldeb, neu’n cael anawsterau o’r herwydd.

Nid ‘denu’ yw amcan y diwrnod, ond codi ymwybyddiaeth bod cefnogaeth hirdymor ar gael.

Am fwy o wybodaeth: Jenny Porter ar .


Chwarae Cymru - cyfeiriad newydd:

Ty Baltig
Sgwâr Mount Stuart
CAERDYDD CF10 5FH.


Sportlot - Cist Gymunedol Ynys Môn

Beth yw CIST GYMUNEDOL SPORTLOT?

Partneriaeth Cyngor Chwaraeon Cymru gydag Awdurdodau Lleol.

Grantiau o hyd at £750 i gefnogi pob math o gynlluniau datblygu chwaraeon lleol ar gyfer y gymuned.

Pobl ifanc, genethod a merched, pobl ag anableddau a grwpiau dan anfantais i gael y budd mwyaf o’r cynllun.

Pa fath o gynlluniau allai dderbyn arian? Rhai enghreifftiau:-

Sut i wneud cais am grant ?

Os oes gan eich cymdeithas -gyfrif banc, cyfansoddiad neu set o reolau, cynllun da sydd angen ei ariannu -cysylltwch â:

Siân Mai Jones Canolfan Chwaraeon Plas Arthur, Llangefni am becyn cais. Ffôn: .

Cynllun Offer Grantiau Bychan rhwng £750 a £5,000 yn cychwyn Medi 2000.

Gwybodaeth ychwanegol gan -
Steve Morgan, Cyngor Chwaraeon Cymru,

Plas Menai ar .


Ymddiriedolaeth Carnegie

Mae’r Ymddiriedolaeth yn bwriadu cyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer rhaglen grantiau 2001-2006. Yn y cyfamser 30 Medi a 30 Ionawr 2001 yw’r dyddiadau cau i’r rhaglen bresennol.

Diddordeb presennol yn cynnwys:

Ymholiadau ffôn ynglyn â pholisi a cheisiadau posib - .


NEWYDDION CYLLIDO

Elusen Henry Smith - grantiau bychan

Grantiau rhwng £500 a £10,000 i gynlluniau refeniw neu gyfalaf.

Cyfraniadau i:-
Lles Cymdeithasol , Anableddau, Iechyd ag Ymchwil Feddygol.

Ystyrir ceisiadau pob pythefnos.

Mwy o wybodaeth, ffoniwch .


Ymddiriedolaeth Elusennol Odin

Mae’r Ymddiriedolaeth yma efo amcanion eang, ond fel arfer yn cefnogi grantiau tuag at y celfyddydau, gofal am bobl anabl neu dan anfantais.

Cefnogir mudiadau bychan, yn ogystal â’r rhai hynny sy’n ei chael yn anodd i gael cyllid.

Ceisiadau yn ysgrifenedig at:

Mrs M Mowinckel, PO Box 1898,
Bradford on Avon, Wiltshire BA15 IYS.


Ymddiriedolaeth Albert Hunt

Mae’r Ymddiriedolaeth yma yn cefnogi elusennau yn gweithio yn y meysydd canlynol: Anableddau, yr Henoed, Plant a Ieuenctid, pwrpas Cymdeithasol a Meddygol.

Fe all elusennau mawr Cenedlaethol fanteisio.

Cyfraniadau arferol i fyny at £5,000.

Am wybodaeth bellach cysylltwch ag Angela ar .


Ymddiriedolaethau Cymreig

Yr ydym wedi derbyn rhestr o’r uchod, ffoniwch swyddfa Gwasanaethau Gwirfoddol Ynys Môn ar am wybodaeth bellach neu am gopi.


Newyddion Da!

Gyda chymorth Mari yn ein swyddfa, () derbyniodd Pwyllgor Rheoli Neuadd Goffa Pentraeth £2000 oddi wrth Lloyds TSB a Rank Foundation tuag at adnewyddu’r neuadd.

Hefyd mae addewidion o 4 cronfa arall ar y gweill tuag at y fenter.


EIN CYFEIRIAD YW :

Gwasanaethau Gwirfoddol Ynys Môn Ystafell 20, Hyfforddiant Môn
Stâd Ddiwydiannol Pen Yr Orsedd
Llangefni
Ynys Môn LL77 7JA

Ffôn:
Ffacs: neu

darllenwch ein tudalen ar y We:
http://www.menternet.org.uk/ymvs/index.htm

I ddychwelyd yn ôl i'r dudalen gartref yna cliciwch nawr