DAN DO MÔN - RHIFYN 1
Newyd diadur Gwasanaethau Gwirfoddol Ynys Mon

Croeso i'r rhifyn cyntaf o gylchlythyr i fudiadau a chymunedau gwirfoddol ar Ynys Mon. Fydd Gwasanaethau Gwirfoddol Ynys Mon yn dechrau ar y gwaith o gefnogi a datblygu y sector gwirfoddol ar 1 Ebrill 1997.

Yn dilyn y cyfarfod cyhoeddus llwyddiannus a gynhaliwyd 30 Medi 1996 i fudiadau gwirfoddol i greu Gwasanaethau Gwirfoddol Ynys Mon, etholwyd y canlynol ar y Pwyllgor Llywio sydd wedi cyfarfod amryw o weithio i gyflawni'r gwaith o wneud cais am grant i Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru o Gynllun Gwasanaethau Gwirfoddol Lleol.

Ms Di Bushell (Cadeirydd) - CAB Caergybi
Mr Tony Pritchard (Dirprwy Gadeirydd) - Access Mon
Mr John C Jones - Age Concern Gwynedd a Mon
Mrs Kath Dowgun - Anglesey Crossroads
Mrs Menna Thomas - Agoriad Cyf.
Mrs Myfanwy Pritchard - WRVS Gwynedd a Mon
Mrs Anne Convery - Anglesey PPA
Mrs Mair Davies - RSPCA
Mrs Cadi Evanson - Biwro Gwirfoddoli Ynys Mon
Mrs Alwena Lewis - Mudiad Ysgolion Meithrin Mon
Mr Alan Williams (Trysorydd) - Holyhead Opportunities Trust


Yn dilyn y cais cyhoeddodd CGGC bod #65,159 ar gael i greu GGYM. Bydd cyfarfod agored yn cael ei gynnal yn y gwanwyn/dechrau'r haf i ethol pwyllgor rheoli.

Mae grant ychwanegol wedi'i ennill o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop i gyflogi gweithiwr datblygu gwledig am gyfnod o 21 mis i annog a chefnogi pobl leol i wirfoddoli ac i fod yn aelodau o fudiadau gwirfoddol lleol; i weithredu i gydnabod problemau lleol; i drefnu a chychwyn gwasanaethau ac i gynnal ac i osod i fyny gweithgareddau hunan gynhaliol.

Mae Cyngor Ynys Mon wedi croesawu'r datblygiad yma ac mae trafodaethau yn cymryd lle ar nifer o faterion, yn cynnwys cefnogaeth gyllidol a chreu canolfan adnoddau i'r sector gwirfoddol.

Mae John R Jones a Wendy Flynn, gynt o Wasanaethau Gwirfoddol Gwynedd, wedi'u penodi fel Prif Swyddog a Gweinyddwr a bydd penodiadau ychwanegol yn cael eu gwneud yn fuan.

Mae'r holiadur amgaeedig yn amlinellu'r gwasanaethau fydd GGYM yn cynnig i'r sector gwirfoddol a buaswn yn ddiolchgar pe baech yn ei lenwi a'i ddychwelyd i'r cyfeiriad isod.

I alluogi'r mudiad newydd yma i roi llais cryf i'r sector gwirfoddol ac i gynrychioli eu buddiannau yn lleol ac yn genedlaethol, ymunwch a ni drwy gysylltu a'r cyfeiriad isod.

Nod Gwasanaethau Gwirfoddol Ynys Mon yw cydweithio a mudiadau gwirfoddol eraill, a gallwch ddefnyddio y cylchlythyr yma i hysbysebu eich gweithgareddau. Yr ydym yn bwriadu gweithio yn agos gyda Biwro Gwirfoddolwyr Ynys Mon sydd a swyddfa yn Swyddfa'r Sir, Neuadd y Sir, Ffordd Glanhwfa, Llangefni, rhif ffon . Nod y Biwro yw hybu cyfleoedd i wirfoddolwyr a'u lleoli, ac mae'r swyddfa yn agored o ddydd Llun i ddydd Gwener i drafod anghenion gwirfoddolwyr. Mae'r Biwro angen mwy o wirfoddolwyr a byddwch yn derbyn holiadur ganddynt yn y dyfodol agos i hybu eu gweithgareddau.

Cysylltwch a ni os yw cyfeiriad cyswllt eich mudiad yn anghywir, neu os ydych yn gwybod am fudiad gwirfoddol arall sydd angen gwybodaeth. Ein bwriad yw creu bas data o weithgareddau gwirfoddol yr Ynys.

Bydd mwy o wybodaeth yn dilyn, ond yn y cyfamser os yr ydych angen cyfarfod neu sgwrs, peidiwch oedi rhag cysylltu.

GWASANAETHAU GWIRFODDOL YNYS MON
21 Stryd Fawr
Llangefni
Ynys Mon
LL77 7NA
Ffon:


I ddychwelyd yn ôl i'r dudalen gartref yna cliciwch nawr

Contents copyright / Cynnwys hawlfraint : Menter Môn, Cyswllt Cyf

 


menternet