DAN DO MôN-RHIFYN EISTEDDFOD


Cylchlythyr i fudiadau gwirfoddol Ynys Môn

Rhif Elusen
Rhifyn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn Awst 1999

MR ALUN MICHAEL – PRIF YSGRIFENNYDD

CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU

Mae gwaith gwirfoddol a’r sector gwirfoddol yn cael effaith ar bob rhan o’r gymdeithas yng Nghymru. A hithau’n wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol mae nifer ac amrywiaeth y mudiadau yma ym Môn yn engraifft o ehangder y gwaith gwirfoddol sy’n cael ei wneud ledled Cymru. Yn ôl y ffigurau diweddaraf amcangyfrifir bod tua 25,000 o grwpiau gwirfoddol yng Nghymru gyda dros 1.9 miliwn o oedolion yn gwneud gwaith gwirfoddol. Mae’r ffigyrau hyn yn ffigyrau arbennig o drawiadol sy’n dangos bod gan y sector gwirfoddol ran sylweddol i’w chwarae yng nghymdeithas Cymru heddiw.

Dros y ddwy flynedd diwethaf gwelwyd newidiadau enfawr yng Nghymru. Bellach mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi hen sefydlu a derbyniodd ei bwerau llawn yng Ngorffenaf. Mae’n gyfnod prysur sy’n cynnig cyfleoedd newydd a chyffrous i bawb ohonom. Fel un sydd wedi gweithio gyda’r sector gwirfoddol am nifer o lynyddoedd, yr wyf yn arbennig o falch o weld y cyfleoedd y mae’r Cynulliad yn eu cynnig i’r sector gwirfoddol. Am y tro cyntaf erioed, bydd y Cynllun Sector Gwirfoddol yn darparu fframwaith statudol a fydd yn hwyluso’r modd y mae’r llywodraeth Nid yw’r safbwyntiau a fynegir yn y cylchlythyr hwn o anghenraid yn adlewyrchu barn GGYM. Cedwir yr hawl i olygu cyn cyhoeddi. Dyluniwyd a dosbarthwyd y cylchlythyr hwn gan GGYM. yng Nghymru a’r sector gwirfoddol yn cydweithio. Mae hyn yn unigryw i Gymru ac mae’n dangos pa mor bwysig yw’r sector hwn yng ngolwg y Cynulliad Cenedlaethol.

Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes ar y gweill i wella ac i hybu’r berthynas rhwng y llywod-raeth yng Nghymru a’r sector gwirfoddol gan gynnwys cydweithio i lunio Cytundeb rhwng y Llywodraeth a’r sector gwirfoddol yng Nghymru. Mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi etifeddu’r egwyddorion sy’n sail i’r Cytundeb ac ar hyn o bryd mae’n datblygu ei Gynllun Sector Gwirfoddol yn seiliedig ar y rhain. Yn y cyfamser, mae awdurdodau lleol ac eraill ledled Cymru yn gweithio gyda’r sector gwirfoddol yn eu hardaloedd er mwyn datblygu eu cytundebau lleol eu hunain. Yr wyf yn credu’n gryf y gallwn trwy gyfrwng y cytundebau lleol hyn – fframweithiau ar gyfer cydweithredu a phartneriaeth sy’n cydnabod ac yn parchu cyfrifoldebau a chyfyngiadau ein gilydd – adeiladu Cymru gynhwysol lle gallwn weithio gyda’n gilydd er lles pawb.

Bu’r blynyddoedd diwethaf yn rhai arbennig o gyffrous, gyda’r sector gwirfoddol yn chwarae rhan bwysig ar bob lefel. Mae sawl her a chyfleoedd lu o’n blaenau ni oll. Edrychaf ymlaen i barhau i weithio gyda’r sector gwirfoddol arloesol a bywiog sydd gennym yma yng Nghymru er mwyn i’r afael a’r sialensau a manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd.

CYNG. GORONWY O PARRY MBE – ARWEINYDD CYNGOR SIR YNYS MÔN

CROESO I FÔN

Pleser yw cael estyn croeso i chwi oll i’r Ynys ar ymweliad y Genedlaethol â’r Fam Ynys.

Gwerthfawrogwn gyfraniad grwpiau a chyrff gwirfoddol i fywyd y gymdeithas. Mae egni ewyllys da a chyfraniad amser, galluoedd a doniau gwirfoddolwyr wedi eu plethu i bob haen o fywyd trefol a phentrefol.

Yn dawel a digynnwrf mae cymorth yn cael ei roi at anghenion sawl cyflwr a sefyllfa. Pan fo ddua’r nos mae gofal ar gael; yn ystod y dydd mae cyngor i’w gyflwyno ar gyfer pob diben.

Cefnogaeth barod i’r gwasanaethau statudol a chyfraniad mawr i rannu baich. Wrth lenwi’r bwlch a lleddfu’r boen mae gwirfoddolwyr yn rhan annatod o’n cymdeithas.

Mwynhewch yr wyl, manteisiwch ymweld â’r stondinau gofal.

GRAHAM BENFIELD – CYFARWYDDWR

CYNGOR GWEITHREDU GWIRFODDOL CYMRU

Pob munud o bob diwrnod, 365 o ddiwrnodau y flwyddyn, ym mhob cymuned yng Nghymru, mae unigolion a mudiadau yn gweithio yn a dros eu cymunedau yn wirfoddol.

Mae’r gweithgareddau yma yn cymryd llawer ffurf – gweithgareddau hunan-gymorth, cymorth cymdogol, gweithgareddau cymunedol, cynorthwyo yn yr ysgol leol, y siop elusen, bad achub, mentrau cydweithredol – ond gyda’u gilydd maent yn ffurfio sylfaen hanfodol i’n cymdeithas. Drwy bosibiliadau technegol, mae’n bosib anwybyddu cymdeithas, ac felly mae’n fwy pwysig deall sut yr ydym yn ymdrin – sut i gynnwys ein hunain, a sut i ymestyn at y rhai sydd wedi’u heithrio. Oherwydd ideolegau politicaidd, gwelwyd gweithgaredd gwirfoddol fel perthynas tlawd i ddarpariaeth y wladwriaeth neu’r sector preifat, i’w reoli a’i ffrwyno, neu i’w ganmol, neu i’w anwybyddu.

Er hynny, mae yna hinsawdd newydd sy’n cydnabod rôl y sector gwirfoddol fel y trydydd partner cyfochrog â busnes a llywodraeth leol. Adlewyrchi’r hyn yng ngofynion y Cynulliad i sefydlu cynlluniau i weithio gyda’r 3 prif bartner yma, ddylai feddwl sedd wrth y bwrdd yn hytrach na dim ateb i’r curiad ar y drws.

Mae’n gosod her i’r sector:

  • A oes modd iddo drefnu ei hun i ymdrin yn effeithiol?
  • A oes modd iddo fyw i fynnu i’w enw da am syniadau newydd a chyfranogiad?
  • A oes ganddo y medra a’r sgiliau i newid yn sylweddol ei rôl? A oes modd iddo newid ddigon cyflym?
  • A oes modd iddo sicrhau rhaniad tecach a mwy cadarn o adnoddau i’r trydydd sector ?

Dyma’r cwestiynau i’r flwyddyn i ddod, ond rwan mae cyfle am ennyd ac i ddathlu ein sector a’n diwylliant.

BWRDD ELUSENNAU’R LOTERI

CENEDLAETHOL – CYMRU

Fforwm Dosbarthwyr y Loteri

Mewn penbleth? Ddim yn gwybod i bwy i ofyn am help?

Mae Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol wedi gwahodd holl ddosbarthwyr arian y loteri i ddod ynghyd i ateb eich cwestiynau chi ynglyn ag unrhyw bwnc yr hoffwch chi drafod.

Felly, os ydych chi â diddordeb cael gwybod mwy am geisio am arian y loteri, am Grantiau Bychain Gwyl y Mileniwm, am y dosbarthwr newydd Cronfa Cyfleoedd Newydd, am Grantiau Bychain Cyngor Celfyddydau Cymru neu Cyngor Chwaraeon Cymru, neu raglenni grantiau Cronfa Loteri'r Dreftadaeth, dewch i Sbardun, pabell y sector gwirfoddol ar safle'r Eisteddfod ar dydd Iau 6 Awst am un o'r gloch .

Jac y Jwc yn dymuno penblwydd hapus i'r Bwrdd Elusennau

Mae Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol yn dathlu ei bumed penblwydd yn Sbardun, pabell y sector gwirfoddol ger pafiliwn yr Eisteddfod.

Byddwn yn cyhoeddi ein Grantiau Bychain diweddaraf, a hefyd yn cynnal parti penblwydd. Hoffwn wahodd y plant fydd ar safle'r Eisteddfod i ddathlu gyda ni - mi fydd yna gacen penblwydd, a gwestai arbennig iawn, sef Jac y Jwc.

Felly dewch i ddathlu gyda’r Bwrdd Elusennau a Jac y Jwc am 4:15pm dydd Mercher 5 Awst, ym mhabell Sbardun ger y prif bafiliwn.

PAFILIWN SBARDUN

Dowch i Bafiliwn Sbardun i gyfarfod â’r mudiadau canlynol:

  • Agoriad
  • Anheddau Cyf
  • Biwro Gwirfoddolwyr Ynys Môn
  • Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol
  • Canolfan Adnoddau i Bobl Anabl Gogledd Cymru
  • Canolfan Cynghori
  • Cartrefi Cymru
  • CCETSW/TOPSS Cymru
  • Celfyddydau Gwirfoddol Cymru
  • Chwarae Teg
  • Undeb Credyd
  • Cruse Bereavement Care
  • CSV-RSVP yng Nghymru
  • Cyfeillion Ellis Wynne
  • Cymdeithas Diabetes Prydain – Cymru
  • Cymdeithas Gofal Maeth Genedlaethol
  • Cyngor Cymru i’r Byddar
  • Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • Hawliau Lles Anabledd
  • Fforwm Gwledig Cymru
  • Gwasanaethau Gwirfoddol Ynys Môn
  • Jigso
  • Mantell Gwynedd
  • Cymdeithas Cylchoedd Chwarae Cyn-ysgol Cymru
  • RNID
  • SCOPE Cwmpas Cymru
  • Sefydliad y Merched
  • Soroptomists
  • Prifysgol y Trydydd Oes
  • Y Groes Goch Prydeinig – Cymru

Gwasanaethau Gwirfoddol Ynys Môn

Y STAFF

PRIF SWYDDOG
John R Jones

GWEINYDDWRaig
Wendy Flynn

SWYDDOG DATBLYGU GWLEDIG
Mari C Jones

SWYDDOG DATBLYGU GWYBODAETH
Tony Owen

Gwasanaethau Gwirfoddol

Ynys Môn

Cynnal, cyfnerthu a datblygu grwpiau gwirfoddol a chymunedol ar yr Ynys drwy ddarparu cyngor, gwybodaeth ac adnoddau.

  • Help gyda sefydlu mudiadau newydd
  • Cofrestru yn elusen
  • Gallwn helpu gyda cyllido
  • Trefnu gweithdai hyfforddiant
  • Gwasanaethau ymarferol fel cefnogaeth gweinyddol, llungopio, helpu gyda chyhoeddusrwydd a lawer mwy
  • Cyngor a help wrth lenwi ffurflenni a cheisiadau
  • Materion cyfrifion cyffredinol
  • Cylchlythyr rheolaidd i gadw mewn cysylltiad
  • Help wrth ddatblygu prosiectau newydd
  • Cymorth wrth baratoi cynlluniau busnes

IEUAN WYN JONES AS AC YNYS MÔN

Pleser i mi fel Aelod Seneddol ac Aelod o’r Cynulliad Ynys Môn yw cael cyfrannu gair i’r rhifyn arbennig hwn o Dan Do Môn, ac i groesawu gwirfoddolwyr led led Cymru i Fôn.

Credaf fod cyfraniad y sector gwirfoddol ar Ynys Môn wedi bod yn eithriadol o bwysig yn y gorffennol ac rwy’n sicr y bydd yn parhau felly i’r dyfodol. Mae’r cannoedd o wirfoddolwyr sy’n rhoi o’i hamser, eu hamynedd, eu cariad a’u gofal mewn nifer o wahanol feysydd tros y blynyddoedd yn galondid ac yn gysur. Mae’n dangos yn eglur werth y sector gwirfoddol. Pob dymuniad da i chwi i’r dyfodol.

SIOE MÔN – 10 a 11 Awst 1999

Dowch i babell Gwasanaethau Gwirfoddol Ynys Môn ar gae’r Sioe (rhif 66). Bydd 10 mudiadau gwirfoddol lleol gyda ni.

CYMDEITHAS CYNGHORAU SIROL GWIRFODDOL CYMRU

Cynghorau Gwirfoddol Sirol – gweithio i gynnal gweithgareddau gwirfoddol yn eich cymuned leol.

Mae yna Gyngor Gwirfoddol Sirol ym mhob sir yng Nghymru a reolir gan, a sy’n gweithio dros, grwpiau gwirfoddol a chymunedol lleol. Nod y CGS yw:

  • darparu gwasanaethau cynnal
  • adnabod pynciau’r dydd
  • datblygu cynlluniau
  • datblygu gwirfoddoli
  • gweithio i safonau sefydliadol.

Am wybodaeth am eich Cyngor Gwirfoddol Sirol cysylltwch â’r swyddfa ar neu Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar .

Y SWYDDFA

Gwasanaethau Gwirfoddol Ynys Môn Ystafell 20
Hyfforddiant Môn
Stâd Ddiwydiannol Pen Yr Orsedd
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7JA

Ffôn:
Ffacs:
Darllenwch Dan Do Môn ar y We:

http://www.menternet.org.uk/ymvs/index.htm
e bost:

DIOLCH

Gwerthfawrogwn gyfraniad ariannol y canlynol tuag at weithgareddau Gwasanaethau Gwirfoddol Ynys Môn:

Y Swyddfa Gymreig – Cynllun CGLl; Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru; Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd; Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd; Cyngor Sir Ynys Môn; Awdurdod Iechyd Gogledd Cymru.

I ddychwelyd yn ôl i'r dudalen gartref yna cliciwch nawr

Contents copyright / Cynnwys hawlfraint : Menter M Ô n, Cyswllt Cyf



menternet