Fforwm Cymraeg

[ Contents | Search | Post | Reply | Next | Previous | Up ]


Re: Y Cymru Newydd

From: Gwilym Evans
Date: 10/28/98
Time: 11:58:07 PM
Remote Name: 9

Comments

Diolch i chi Dafydd am ateb fy llythyr. Na, doeddwn i ddim yncyfeirio at sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol yn fy llythyr. Ypeth a oedd wedi fy mrawychu oedd y penderfyniadau i ddileu pobdim hen a thraddodiadol i ddatblygu'r Cymry Newydd;e.e.dymchwelyd y DDraig Goch, newid geiriau yr anthemgenedlaethol,disodli'r wisg genedlaethol, a.y.y.b. Pam mae hyn ynhanfodol? Pam na fedr y newidiadau newydd fod yn ychwanegol i'rpethau traddodiadol a nodweddol yn ein hanes? Os oes ynadeilyngdod i'r ymresymiad mae'r Cynulliad yn mynd i ddilyn, ynabyddaf yn disgwyl unrhyw ddydd i glywed fod yr Albanwyr wedigwneud i ffwrd â'r cilts. Fyddaf i ddim yn dal fy ngwynt yn ycyfamser! Rydw i'n falch iawn fod math o ryddhad i Gymru a Chymryar y gorwel, ond rydw i rhy"hir yn fy nant" i dderbynpob dim ar blât beth mae gwleidyddiwyr yn wthio arnaf. Yn y pendraw mae pob un ohonynt yn "felinydd", a chyn bo hir,yn ystod eu gyrfaoedd ,mae pob un yn troi y dwfr at felin ei hun!Felly mae eisieu bod yn wyliadwrus iawn, a beirniadol, cyn derbyneu awgrymiadau sy'n creu newidiadau mor chwyldroadol. GwilymEvans


Last changed: February 05, 1999