Fforwm Cymraeg

[ Contents | Search | Post | Reply | Next | Previous | Up ]


Re: Siarad Cymraeg

From: Hen alltud braidd yn ddigllon
Date: 8/13/98
Time: 3:31:13 AM
Remote Name: 207.34.50.1

Comments

Ceidwad y Wê

Mae’n amlwg fod y gair byr oddiwrth yr Ex-pat wedi creupenbleth fach ar y ddalen yma, ond gadewch i mi dynny eich sylwat un frawddeg arbenig yn eich rhagymadrodd i’r Wefan. Dymahi:

“Cewch drafod y tywydd, llwyddiant y tim rygbi neudyfodol y Spice Girls - cyn belled a fod y drafodaeth trwygyfrwng y Gymraeg”.

Mae’n amlwg i mi fod yna ryw fymryn o wrthdaro rhwngeich bwriad a’ch hagwedd yn y mater yma. Ac os gwn i fainto’r bobl sy’n darllen y ddalen yma oherwydd ei bod ynun gwbl Gymraeg, wnaiff gilio draw oddiwrthi am fy mod i yn tynnysylw at y rhagrith fach yma ein eich cyflwyniad ohonni.

Fe wyr pob un o honnom mor wasaidd y buom ni, Gymry, ar hyd ycanrifoedd , yn rhoi’r lle blaenllaw bob amser i’riaith Saesneg, a siom fawr i mi, ac eraill hefyd yn siwr, ywsylwi pa mor wenieithol ydym ni o hyd yn y mater yma, hyd yn oedmewn oes pan mae’r Heniaith, mewn gwirionedd, wedi dod iennill parch ac edmygedd helaeth drwy’r holl fyd; ond ynLloegr a rhannau o Gymru, efallai! Mae’n amheus iawn gen ifaint o les wnaiff agwedd wenieithol at gymhell neb i ddysgu (neui ail ddysgu) Cymraeg. Pe bai hyn yn wir busai peth wmbreth mwyyn defnyddio’r iaith erbyn heddiw, gan mor gyffredinmae’r ymarweddiad yma wedi bod, erioed.

Os gwn i yn wir, pa ddesgl sydd yna ac angen i’w dal ynwastad?


Last changed: February 05, 1999