[ Contents | Search | Post | Reply | Next | Previous | Up ]
From:
Y Coblar Coch
Date:
7/21/98
Time:
3:07:16 AM
Remote Name:
Mae'n amlwg i mi adael y gath allan o'r cwd wrth holi amDdilys Cadwaladr; yn ôl yr amryw o atebion a ddaeth if'ymholiadau, beth bynnag. Ond efallai y buasai rhywun wedi medruson rhywfaint am ei chysylltiad rhamantus â Dewi Emrys. 'Roeddhi'n ddynes o flaen ei hamser, mewn llawer ffordd, ar wahan i'rffaith mae hi oedd y fenyw gyntaf i ennill y Goron, neu unrhywwobr arall o bwys yn y "Genedlaethol", o ran hyny.
Tra 'mod i ar y pwnc yma, pa'm mae mor 'chydig o fenywod,erioed, wedi enill unrhyw wobr sylweddol yn yr EisteddfodGenedlaethol Cymru? Y ddadl glywais i un tro yn eglurhad am hyn,oedd mae ychydig iawn o ddawn sydd yna i ferched fel beirdd! Rhywddadl heb lawer o sail gwyddonol iddi yw hon, y fy marn i, acmae'n haws gen i gredu mae rhyw rhagfarn sydd yn dyrys barhauyw'r rheswm cywiraf am hyn. 'Does posib, yn wir,fod merchedCymru, yn unig yn y byd, yn llai brwfrydig ynglyn a cherddi aphennillion, nag ydyw gwrywon yn y maes yma.
Ychydig iawn o gyfle a fydda i'n gael i ymdroi ym mydysgolheigion ar y cyfandir yma, ond am fy mod i'n byw mewnllanerch sydd yn nodedig drwy'r byd am ei phrydferthwch a'irhamant, ac sydd yn hudo ymwelwyr yma o bob gwlad ac o bobgalwedigaeth, mi fydda'i yn taro sgwrs, ambell dro, hefo athroneu ddarlithydd fydd a'i hathrylith yn ymestyn hyd at diddordebyng Nghymru a Chymraeg. Y peth casa' un gen fydd ceisio egluroi'rhain pa'm fod mor 'chydig o fenywod Cymry wedi eu cydnabod felllenorion a beirdd. Efallai, yn wir, fod rhywun oddi ar y Wê ynbarod i roi cymorth bach i mi erbyn y tro nesa' y ca'i brofiadblin fel hyn.