[ Contents | Search | Post | Reply | Next | Previous | Up ]
From:
Un yn barod i dorchi ei lewis.
Date:
7/10/98
Time:
5:12:18 AM
Remote Name:
Gresyn, gen i, ydi gweld tudalen Menter Môn yn amddifad,heno, o ddim um neges . Efallai mae'r ffordd rwyddaf i enyn sgwrsydy drwy ddechrau dadl, a dyma fi, yn lluchio fy nghap i'r cylchi godi twrw:
Mi greda' i mae, "YN GALW CYMRY'R BYD" ddyliai fodar ben y dudalen yma,a dim "YN GALW'R CYMRY'R BYD" felsydd yna rwan. Camgymeriad ydy hyn, tybed, a'i damwain? Pa unbynag, fe ddyliai gael ei newid yn fy marn i.
Hefyd,tra mod i wedi dechrau codi cnec, pam fod CYSYLLTIAd'Menter Mon', a 'Bwrdd Yr Iaith Gymraeg',sydd yn rhagymadrodd ydudalen yma, yn wag pan ro' i glic ar y llinell sydd o danyn'nhw? Mi fuaswn i'n hoffi gwybod pa ddirgelwch sydd tu ôl irhain.
Felly, beth amdani? Ateb neu ddadl.