10: Tafarn Y Rhos.

Rhostrehwfa,Llangefni, Ynys Môn.
Ffôn: .

Yn Ôl

Cyflenwyr Arbenigol ym Môn

 

Saif Tafarn y Rhos mewn man ganolog yn Ynys Môn ac mae'n lle poblogaidd iawn efo drigolion yr ynys. Mae yma groeso cynnes a bwyd da ar gael bob amser. Neilltuwyd ystafell ar gyfer rhai nad ydynt yn ysmygu, ac mae yma ystafelloedd ar gyfer cynnal cyfarfodydd, seminarau a phartîon. Yn reit aml, bydd yma grwpiau Cymraeg yn perfformio'n fyw, ac mae hynny'n atyniad mawr.

Pwdin Hydref o Fara Brith
1 ½ pwys o Ffrwythau Hydref (Eirin, mwyar duon, mafon, cyrens duon, afalau)
1 owns o Siwgr Brown meddal
1 dorth o Fara Brith (Tynnu'r crystiau a'i sleisio'n denau)
Ffrwyth Ffres a Mintys i addurno

Stiwiwch y ffrwythau gyda'r siwgr brown am ychydig mewn 4-6 llond llwy fwrdd o ddwr, gan beidio gadael i'r ffrwythau golli eu sîap. Torrwch gylch allan o un sleisen o'r Bara Brith i ffitio gwaelod powlen bwdin 2 beint, a thorrwch 6-8 o'r sleisys yn stribedi i'w rhoi o gwmpas y tu mewn i'r bowlen, gan osod yr ymylon ychydig dros ben ei gilydd rhag bod lle gwag rhyngddynt. Pan fydd y ffrwythau'n barod, tywalltwch nhw i'r bowlen gan ochel rhag i chi symud y bara. Cadwch 3 llond llwy fwrdd o'r sudd. Pan fydd y bowlen yn llawn gwnewch gaead iddi o'r Bara Brith sy'n weddill.
Gorchuddiwch y bowlen efo ffoil. Rhowch blât ar ei ben fel ei fod yn ffitio i mewn i ben y bowlen, a rhowch rywbeth trwm ar y plât i bwyso ar y pwdin. Gadewch iddo oeri a'i roi o wedyn yn yr oergell dros nos.
I'w weini, rhedwch gyllell o amgylch tu mewn y bowlen i ryddhau'r ochrau. Trowch y pwdin ar'i wyneb i waered ar ddysgl. Tywalltwch y sudd sbâr am ben y pwdin a gweiniwch o efo hufen, gan ei addurno efo ffrwythau a sbrigau o fintys.

Pwdin Hydref o Fara Brith

 

Contents copyright / Cynnwys hawlfraint:Menter Môn, Cyswllt Cyf,
1997-99. Arlunydd, Designed by Peter Moore.

menternet