|
Meithrinfa sy'n arbenigo mewn tyfu perlysiau a phlanhigion persawrus ar gyfer eu defnyddio i ddibenion meddygol, neu wrth goginio. |
|
Cysylltwch: Rowena Mansfield. |
|
Carmel, Llanerchymedd, Ynys Môn LL71 7DD. |
|
Ffôn: . |
|
E-mail: |
|
Internet: http://www.menternet.org.uk/llannerch/caegwyn/index.htm |
|
Busnes sy'n cyflenwi llysiau o ansawdd uchel drwy gydol y flwyddyn i bob sector o'r fasnach arlwyo. Mae ganddynt hefyd adran adwerthu yn siopau Kwik Save ledled yr ynys yn ogystal, siop ym Mhorthmadog. |
|
Fferm Gaerwen Uchaf, Gaerwen, Ynys Môn LL60 6DN. |
|
Ffôn: |
|
Mae'r teulu Hooton yn tyfu amrywiaeth fawr o ffrwythau a llysiau - o asparagws i zucchini. Gall eu cwsmeriaid gasglu eu cnydau tymhorol drostynt eu hunain. Mae yno Siop Fferm hefyd ac, ymhlith y nwyddau a werthir, ceir wyau ieir awyr agored, porc a selsig - popeth wedi ei gynhyrchu ar eu fferm hwy. |
|
Cysylltwch: M. J. Hooton. |
|
Fferm Gwydryn Hir, Brynsiencyn, Ynys Môn LL61 6HQ. |
|
Ffôn: . |
|
Mae hwn yn fusnes bach teuluol a sefydlwyd dros 50 mlynedd yn ôl. Mae ganddynt ddwy siop ar yr ynys, busnes cyfanwerthu a rownd adwerthu sy'n mynd o gwmpas y tai i ddanfon bara ac ati. Mae Becws Gwynle'n enwog am ei Fara Brith, ynghyd, gwahanol fathau o fara a theisennau o'r radd flaenaf. |
|
Ffordd Pen y Bonc, Amlwch, Ynys Môn LL68 9DU. |
|
Ffôn: . |
|
E-Mail: |
|
Halen Môr organig a gynaeafir o'r dyfroedd o gwmpas Ynys Môn yw Halen Môn. Mae'r halen hwn yn iachus iawn - mae wedi ei ffurfio o risialau gwyn, neilltuol o bur, ac ni chaiff dim ei ychwanegu ato. Gellir ei brynu o siopau delicatessen a siopau sy'n arbenigo mewn bwyd iachus. Ymhlith y rhai sy'n ei brynu, ceir llawer o bobl sy'n mynnu cael dim ond cynhwysion pur yn eu bwyd. |
|
Cysylltwch: David & Alison Lea-Wilson. |
|
Cwmni Halen Môr Môn, Brynsiencyn, Ynys Môn. LL61 6TQ . |
|
Ffôn: . |
|
E-Mail: |
|
Internet: |
|
Hon yw'r unig fferm wystrys fasnachol yng Nghymru. Mae Menai Oysters yn cynhyrchu bwyd môr o safon uchel yn ei safleoedd magu wystrys ar lannau'r Fenai. Mae hefyd yn magu Cregin Gleision. Darparant eu cynnyrch ar gyfer cyfanwerthwyr a manwerthwyr lleol ac ar gyfer gwasanaeth archebion post. |
|
Cysylltwch: Shaun Krijnen. |
|
19 Ger y Mynydd, Bangor. LL57 1AG. |
|
Ffôn: . |
|
Mae safle'r cwmni yma mewn uned sy'n un bwrpasol ar gyfer bwydydd oeredig a rhewedig. Dosbartha'i gynnyrch yn lleol ac yn genedlaethol. Datblygir cynhyrchion newydd ganddynt yn gyson ac maent yn ymfalchîo o fod yn adnabyddus fel cynhyrchwyr bwydydd Cymreig o'r radd flaenaf ac yn defnyddio defnydd crai lleol a gwasanaethau lleol. Cynhyrchant hufen, caws meddal, hufen îa, iogwrt a coleslaw. |
|
Celtic House, Stâd Ddiwydiannol, Gaerwen. Ynys Môn LL60 6HR. |
|
Ffôn: . |
|
Mae'r arogl gwych yn eich taro wrth i chi fynd i mewn i siop Strawbery Farm ym Mhentraeth. Caiff pob math o deisennau traddodiadol - o Bakewell Tarts i Deisennau Sbeis Sir Fôn - eu pobi a'u gwerthu yn yr adeilad. Peidiwch, cholli cyfle i flasu teisennau a wneir efo ryseitiau traddodiadol. |
|
Cysylltwch: Susan Hughes. |
|
4 Y Sgwar, Pentraeth, Ynys Môn. LL75 AZ. |
|
Ffôn: . |
|
Owen Roberts yw'r drydedd genhedlaeth i redeg y busnes teuluol yma. Mae'n gwerthu cig eidion, cig oen, porc a chywion ieir a gynhyrchwyd ym Mon. Mae o hefyd yn darparu cigoedd oer, bacwn cartref a gwahanol fathau o selsig. Yn ystod yr haf, gellir cael amrywiaeth o gigoedd ganddo sy'n addas ar gyfer barbeciw. Gellir cael amrywiaeth yno hefyd o nwyddau eraill megis gwin, picl, jam a chaws. |
|
Cysylltwch: Owen Roberts. |
|
Corwas, Amlwch, Ynys Môn. |
|
Ffôn: . |
|
Mae Welsh Country Foods yn aelod o Grwp Bwyd Grampian. Mae'n un o brif gyflenwyr cig oen Cymreig i gyfanwerthwyr ac archfarchnadoedd yn y Deyrnas Unedig ac i'r farchnad dramor. Bydd yn prynu da byw oddi ar ffermydd yn Sir Fôn a ledled Cymru. |
|
Cysylltwch: Welsh Country Foods Cyf. |
|
Stad Ddiwydiannol, Gaerwen, Ynys Môn. Ll60 6HR. |
|
Ffôn: . |
|
|
|
|
Diogelwch Bwyd
|