2: Henllys Hall Hotel.

Biwmares, YnysMôn. LL58 8HU.
Ffôn: .

Yn Ôl

Cyflenwyr Arbenigol ym Môn

Henllys Hall Hotel.

 

Mae Gwesty Henllys Hall yn adeilad urddasol mewn un o lecynnau diarffordd ar Ynys Môn, ac mae iddo hanes sy'n mynd yn ôl i'r 13eg ganrif. Saif ar 150 erw o dir sy'n cynnwys cwrs golff 18 twll a choedwig breifat. Mae gan Henllys Hall lawer i'w gynnig i westeion: 25 o ystafelloedd cysgu, bwyty 'Hampton Court', ystafell gynadledda a neuadd wledda, lolfa gyffyrddus, bar golf, pwll nofio awyr agored sydd wedi ei gynhesu, gymnasiwm, cwrt tennis, maes parcio i 125 o geir yn ogystal â maes glanio i hofrenyddion. Henllys Hall

Teisen Sbeis Sir Fôn.
Y Deisen:
2 owns o Fenyn Cymreig Meddal
3 owns o Siwgr
3 Wy mawr
6 owns o Flawd Codi
2 owns o Syltanas
Pinsiad o Sbeis Cymysg
Y Topin:
2 owns o Fenyn Cymreig meddal
2 lond llwy fwrdd o Siwgr Demerara
½ llwy de o Bowdwr Sinsir

Twymwch y popty i 190 gradd Celsiws (marc nwy 6). Irwch a leiniwch waelod tun teisen crwn 8 modfedd. Cymysgwch holl gynhwysion y deisen ac yna ychwanegwch y syltanas heb guro gormod arnynt. Taenwch y cymysgedd yn y tun a'i grasu am 20 munud nes bydd wedi codi ac yn ffyrm wrth gyffwrdd ag o, ac wedi melynu ond heb frownio'n ormodol
Top: Cymysgwch y menyn, siwgr a sinsir ac fel mae'r deisen yn dod allan o'r popty rhowch y cymysgedd dros y top. Disgwyliwch nes bod y menyn wedi toddi i fewn i'r deisen.

The Spice Cake, in the picture, is from a recipe by Strawberry Farm.
Teisen Sbeis Sir Fon

 

Contents copyright / Cynnwys hawlfraint:Menter Môn, Cyswllt Cyf,
1997-99. Arlunydd, Designed by Peter Moore.

menternet