4: Glantraeth Restaurant.

Bodorgan, YnysMôn. LL62 5EU.
Ffôn: /250.

Yn Ôl

Cyflenwyr Arbenigol ym Môn

 

Wrth fynd ar hyd y ffordd sy'n arwain at y bwyty yma, cawn ein hatgoffa am 'ranch'. Gwelir gwartheg a defaid yn pori o gwmpas y bwyty. Mae'r bwyty hefyd yn ymfalchîo yn ei dîm pêl droed ei hun. Yng ngwesty Glantraeth cewch fwydcartref blasus a chroeso Cymreig cynnes. Yn aml ar y penwythnos ceir adloniant Cymreig traddodiadol. Cewch ymlacio a gwrando mewn awyrgylch cartrefol ar gorau meibion, bandiau, partîon lleol, unawdwyr neu offerynwyr.

Wyau Glantraeth
3 Cenhinen
½ pwys o Datws wedi eu stwnsio
3 Wy wedi'u berwi'n galed
2 sleisen o Facwn wedi'u grilio
½ peint o Saws Gwyn Bechamel
4 owns o Gaws wedi ei ratio
1 llond llwy de o Fwstard Grawn Cyfan
1 ewin Garlleg

Golchwch y cennin a'u torri'n weddol fân. Berwch hwy am 10 munud. Gloewch hwy drwy dywallt y dwr ac ychwanegwch bupur a halen. Rhowch y tatws ar waelod y ddysgl. Hanerwch y wyau a'u gosod ar ben y tatws. Gosodwch y cennin o gwmpas ochr y ddysgl. Ychwanegwch y mwstard, y garlleg, y bacwn a hanner y caws, yn ogystal phupur a halen, at y saws. Tywalltwch y cymysgedd yma ar ben yr wyau, a sgeintiwch y gweddil o'r caws dros y cwbl. Rhowch y ddysgl dan y gril i frownio. Addurnwch hi efo sleisys o lemon a sgeintiad o bersli wedi ei falu.

Wyau Glantraeth

 

Contents copyright / Cynnwys hawlfraint:Menter Môn, Cyswllt Cyf,
1997-99. Arlunydd, Designed by Peter Moore.

menternet