Cemaes,Ynys Môn. LL67 0LH.
Ffôn: .
|
Cyflenwyr Arbenigol ym Môn |
|
Saif y ty gwledig Fictoriaidd yma mewn saith erw o dir ar lecyn sy'n edrych dros fae a phentref hardd Cemaes. Fe'i adeiladwyd gan filwr enwog o Gymro - y Cadfridog Syr Owen Thomas, A.S. - "Y Rhyfelwr Cymreig". Mae'r perchenogion newydd wedi atgyweirio'r ty, ac mae'n awr yn cynnwys ystafelloedd a bariau cyfforddus a 14 o ystafelloedd gwely gyda baddondy 'en suite' ym mhob un. Mae'n lle delfrydol i aros ar gyfer cael ymweld a'r mannau hyfryd naturiol sydd yng ngogledd Môn.Gyda'r nos, gellwch ymlacio a mwynhau'r bwyd ardderchog a baratoir gan y cogyddion medrus. Coginir pob pryd yn ôl gofynion yr unigolyn ac fe ddefnyddir cynnyrch lleol cyn belled ag y bo modd. Mae pob rhyddid i'r preswylwyr yn ogystal rhai o'r tu allan ddefnyddio bwyty a bariau'r gwesty yma. |
Cacen Gaws o Afalau a Mêl Môn
Gwaelod: 8 owns o Fisgedi Digestive 3 owns o Fenyn Cymreig wedi ei doddi ½ llond llwy de o Bowdwr Sinsir Canol: 7 owns o Gaws Meddal lleol 1 llond llwy de o Bowdwr Gelatin 1 peint o Hufen Dwbl wedi ei chwipio ¼ peint o Fêl Clir Topin: 1 pwys o Afalau Sudd Lemon 3 owns o Siwgr 2 owns o Arorwt |
|
Briwsionwch y bisgedi. Ychwanegwch y sinsir a'r menyn a chymysgu'r cwbl efo'i gilydd. Pwyswch y cymysgedd i mwn i waelod tun crasu 8 modfedd a'i adael i galedu. Toddwch y gelatin mewn diferyn o ddr. Chwipiwch yr hufen. Ychwanegwch y caws meddal atynt a'u chwipio eto nes bydd y cymysgedd yn llyfn. Ychwanegwch y gelatin a'r mêl. Tywalltwch y cymysgedd hwn dros ben y bisgedi sydd yn y tun. Gadewch o i setio yn yr oergell am 3-4 awr.
|
|
|