CastleStreet, Biwmares, Ynys Môn. LL58 8AP.
Ffôn: .
|
Cyflenwyr Arbenigol ym Môn |
|
Mae'r bwyty Ye Olde Bull's Head wedi ei leoli yn nhref hardd Biwmares sydd yn nghwr de-ddwyreiniol yr Ynys. O draethau Biwmares ceir golygfeydd ardderchog o Afon Menai ac Eryri - golygfeydd a ystyrir gan lawer yn olygfeydd godidocaf Ewrop. Mae bwyty'r Bull yn dyddio yn ôl i 1472 ac yma yr oedd safle gwreiddiol yr Ebrandy gwreiddiol (gorsaf y Goets Fawr) yn y fwrdeisdref, a rhyw ganllath, fwy neu lai, oddi wrth y bwyty hwn saif Castell Biwmares a adeiladwyd yn 1295 gan Edward I. Yn 1645, cymerwyd meddiant o'r dafarn hon gan y Cadfridog Mytton o fyddin Cromwell tra'r oedd ei filwyr yn gwarchae'r castell.
|
Llwyn Porc wedi ei ffrîo gyda Brandi, Bricyll a Hufen.
|
|
Tynnwch y cig gwyn a'r gôau i gyd i ffwrdd a thorrwch y cig yn sleisys o ryw owns i owns a hanner yr un. Ffrîwch hwy mewn padell ffrîo nes byddant wedi brownio. Tywalltwch y saim i ffwrdd. Ychwanegwch y brandi a rhowch fflam arno. Diffoddwch y fflam drwy roi caead ar y badell.
|
|
|