AmlwchRoad, Llanerchymedd, Ynys Môn. LL71 8DF.
Ffôn: .
|
Cyflenwyr Arbenigol ym Môn |
|
Mae'r adeilad yma a elwir yn Bryn Golau yn dyddio'n ôl ryw 200 o flynyddoedd, ac yn ystod yr amser hwnnw cafodd ei ddefnyddio i wahanol ddibenion. Y teulu Brooks oedd piau'r adeilad ar un adeg, a defnyddid yr ysgubor yng nghefn yr adeilad fel ffatri gwneud lemonêd gan fod yno ffynnon ddwr naturiol. Heddiw yn y bar, gellir gweld poteli gwydr gyda'r enw 'Brooks of Llanerch-y-medd and Shrewsbury' arnynt. Agorwyd Bryn Golau fel bwyty yn 1989 ac mae'r perchenogion presennol wedi mynd ati i gynnig i'w cwsmeriaid fwydydd o'r ansawdd gorau mewn amgylchedd cartrefol. |
Tarten Gellyg a Sinsir
8 owns o Flawd Plaen 5 owns o Fenyn 2 owns o Siwgr 1 Wy Halen Y llenwad : 1 pwys o Ellyg 1 pot o Sinsir Stem Mewn Surop 1 llond llwy fwrdd o Jam Bricyll (i roi sglein) |
|
Gwnewch y crwst drwy rwbio'r blawd a'r menyn i'w gilydd; ychwanegwch y siwgr a'r wy wedi ei guro. Rhowch y crwst yn yr oergell am 15 munud. Torrwch ddau ddarn o'r sinsir yn ddarnau mân nes byddant bron fel pâst. Pliciwch y gellyg, torrwch eu hanner yn dalpiau mân a'u rhoi mewn sosban efo'r pâst sinsir, ychydig o ddwr ac 1 llond llwy fwrdd o'r surop o'r pot sinsir. Codwch hwy i fudferwi nes byddant yn llwtra. Yn y cyfamser, sleisiwch y gweddill o'r gellyg a'u rhoi o'r neilltu mewn dwr oer.
Rhowliwch y crwst a'i ddefnyddio i leinio'r tuniau tartennau bach. Llenwch hwy i'r hanner efo'r piwre gellyg a gosodwch y sleisys o ellyg ar y top. Craswch hwy am 20-30 munud ar nwy 6 neu drydan 200 gradd Celsiws. Twymwch y jam bricyll a'i frwsio ar ben y tartennau. Gweiniwch hwy tra byddant yn gynnes ynghyd, hufen wedi ei chwipio. |
|
|