Trearddur, NrHolyhead, Ynys Môn. LL65 2UN.
Ffôn: .
|
Cyflenwyr Arbenigol ym Môn |
Trearddur Bay Hotel. |
| Mae'r gwesty yma wedi ei leoli ar lan y môr yn wynebu tuagat Fae Trearddur. Mae'r ystafelloedd gwely i gyd yn cynnwys baddondy 'en suite' a gwelir golygfa eang o fae Trearddur o bob un ohonynt. Mae yma hefyd naw swît stiwdio, ac yn un ohonynt mae gwely pedwar postyn. Mae'r lolfa gyffyrddus yn lle perffaith i ymlacio a mwynhau lluniaeth o un o fariau'r gwesty. Os bydd unrhyw nofwyr yn teimlo bod y môr mawr yn ormod o her, gallant ddefnyddio'r pwll nofio mewnol. Mae'r bwyty'n cynnig bwyd o safon uchel, ac mae yno ddewis o bysgod lleol ynghyd, gwinoedd ffein. |
Kebabs Sir Fôn
|
|
Rhowch yr wystrys yn y marinâd a'u gosod yn yr oergell dros nos. I wneud y saws, rhowch yr holl gynhwysion mewn sosban a'u codi i ferwi. Yn y cyfamser, tynnwch ddail y rhosmari i ffwrdd oddi ar hanner y ffordd i lawr pob sbrigyn. Torrwch bob sleisen o'r bacwn yn 3 a lapiwch un o'r darnau am bob wystrysen. Rhowch y sbrigau rhosmari fel gwiail drwy'r wystrys ac ychwanegwch y cregyn cylchog a'r bricyll. Griliwch hwy nes bydd y bacwn wedi crimpio. Coginiwch y reis a'i wasgu i mewn i ddysgl mowld.
|
|
|