|
Dros y blynyddoedd diwethaf mae gwaith Wilf Roberts wedi dilyn patrwm cyson o gynnwys a thêm: y tai fferm traddodiadol a bythynod Môn, yn arbennig yn ardal Bodafon lle mae ei deulu wedi byw ers cenedlaethau. Mae y rhan fwyaf o'i luniau yn dangos grwpiau o adeiladau mewn tirlun yn amddifad o bobl, adar ag anifeiliaid, ag eto, fel y capeli gweigion a welir ar draws yr ynys, mae iddynt atgofion anweledig o bobl o'r gorffennol. Iddo ef mae rhai o'i ddarluniau yn fyw iawn, rhai ag atgofion o'i nain, yr un a roddodd iddo ei focs paent cyntaf. Un arall yn dangos ty cymydog, dyn unig a arferai benlinio ar lawr pridd ei fwthyn un-ystafellog, bob dydd Sul, o fore tan nôs, yn gweddio. Mae rhain yn ddatganiad o gysylltiad diwylliannol anweledig rhwng pobl a lle. Mae'n anhapus hefo newidiadau i adeiladau sy'n herio ei amgyffred o'r ynys mae'n ei garu, ac yn aml mae'n gadael allan estyniadau newydd ar dy fferm neu ddyfodiad bynglo newydd. Yn ystod ei amser fel myfyriwr celf ifanc ac athro yn Croyden yn y 60au bu'n agored i dirlun trefol anghyfarwydd iawn iddo yn ei brofiad ef o le. "Cefais fy nghyffroi ar hyn a welwn o'm cwmpas yn Llundain. Roedd cyflymder newid yno yn symbyliad. Er imi beintio sawl llun dinesig, dim ond un darn o waith sydd gennyf ar ôl o'r cyfnod hwnnw, dwi ddim yn siwr iawn os dwi'n ei hoffi. Rwy'n cael teimlad o fodlonrwydd tra'n peintio yma ar Ynys Môn. Ond mae trip i'r Blaenau hyd yn oed, dim ond deugain milltir, yn teimlo'n estron. Gallaf beintio'r golau, lliwiau a strydoedd o dai ag eto ni chaf deimlad o berthyn". Mae Wilf yn peintio ar ei ben ei hun, o natur. Yn achlysurol caiff ei gi gadw cwmni iddo. Yn fwy diweddar mae traethau'r ynys yn ei ddenu, cyffro tywyllwch y tonnau a'u symudiadau parhaus. Yn ddiddorol, mae ei ddarlun diweddaraf yn un o adeilad ac, am y tro cyntaf ers blynyddoedd maith, yn cynnwys dau ffigwr, mam a'i phlentyn yn cerdded tuag at yr arsyllwr. |
|
Curriculum Vitae 1941 Ganwyd, Llanfaelog, Ynys Môn. 1952-1959 Ysgol Ramadeg Llangefni (Ysgol Gyfun Llangefni o 1953 ymlaen). 1959-1961 Coleg y Normal, Bangor. 1961-1963 Athro Celf, Ysgol Fairchildes, Croydon. 1963-1971 Pennaeth Adran Celf, Ysgol Fairchildes, Croydon. 1964-1973 Coleg Celf Croydon. 1971-1973 Pennaeth Adran Celf, Ysgol Overbury, Croydon. 1974-1996 Cyngor Sir Gwynedd (Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg).Yn byw ac yn gweithio ym Mynydd Bodofon, Ynys Môn. Arddangosfeydd (unigol) 1964 St. John, West Wickham, Llundain. 1966 Neuadd Fairfield Croydon. 1972 Neuadd Fairfield, Croydon. 1974 Y Llyfrgell, Caergybi. 1996 Oriel Cemaes, Ynys Môn. 1996 Oriel Ynys Môn, Llangefni. 1997 Y Llyfrgell, Blaenau Ffestiniog. 1997 Oriel Cemaes, Ynys Môn. Arddangosfeydd eraill (rhannol a cymysg) 1957 - 1964 Nifer o arddangosfeydd bychain yng Ngogledd Cymru a Llundain. 1965 Oriel Amhem. 1968 Oriel Gordon, Wimbledon. 1969 Oriel Gordon, Wimbledon. 1972 Oriel Gordon, Wimbledon. 1973 Oriel New Gallery, Bond St., Llundain. 1973 Oriel De Croydon. 1973 Yr Oriel, S. Audley St., Llundain. 1997 Oriel yr Atic, Abertawe. 1998 Oriel Ynys Môn, Llangefni. Darluniau (Ilyfrau, posteri, a.y.y.b.) Biwrô Genedlaethol yr leuenctid (NYB). Cymdeithas Genedlaethol y Clybiau Ieuenctid (NAYC). Cyngor Alcoholiaeth Gogledd Cymru. Cyngor Ymgynghorol ar Gyffuriau. |
Written material,unless otherwise stated, copyright
Dryw
1998-99
Artwork copyright each artist