|
Georgina Rambton yn gynllunydd tecstilau mawr ei pharch. Gwerthwyd ei gwaith i lawer cwmni rhyngwladol blaenllaw. Cafodd ei dennu i Ogledd Cymru gan yr arfordir amrywiol. Defnyddiodd garafan ar Ynys Môn fel stiwdio am flynyddoedd. Yn ddiweddar mae wedi prynu ty ag mae hi a'i theulu wedi ymsefydlu yn Nhraeth Coch. I ffwrdd o bwysau'r ddinas cafodd fwy o amser i'w gwaith fel arlunydd. Drwy ysbrydoliaeth y dwr a'r môr mae'n disgrifio canlyniad ei gwaith fel dawns, llanw a thrai mewnol ag allanol. Mae ei gwaith yn gyfansoddiad o synau, arogleuon, blas, barddoniaeth, gwybodaeth wedi ei gribinio o lenyddiaeth ac wrth gwrs symbyliad gweledol y môr. "Pe bawn i ddisgrifio y mathau o luniau rwy'n eu creu fe fyddai'n rhaid imi ymateb mai ceisio sylweddoli fy ymateb barddonol i'r môr yr wyf, y fam ddaear. Tra'n arlunio mae'n anarferol iawn imi fod wedi cynllunio'r gwaith o flaen llaw rwy'n gweithio'n reddfol. Nid yw hynny'n golygu nad oes cysylltiad rhwng y lluniau a'i gilydd - rwyf bob amser yn gweithio ar themau neu gysyniad. Mae'r gwaith yn ennill ei gymhelliad ei hun o'r gwaith blaenorol." Ei gwaith diweddaraf yw cyfres yn seiliedig ar adlewyrchiad ag egni. Maent ar gyfartaledd graddfa, oddeutu 40 modfedd sgwar; y deunydd arlunio yw acrylig gyda phensal ar bapur. |
Written material,unless otherwise stated, copyright
Dryw
1998-99
Artwork copyright each artist