Mae lleoliad Jacqui Myrtle yn ei thref enedigol, Caergybi, lle dychwelodd ar ol ei hyfforddiant yn y Chelsea School of Art. Dechreuodd ar ei gyrfa fel arlunydd dyfrliw lwyddianus gyda gallu naturiol a thalent at beintiadau bywyd gwyllt graffig.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae Jacquie wedi defnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau gan gynnwys, defnyddiau, cerfluniau, gludwaith a cherdd. Adlewyrchwyd hyn yn ei arddangosfa ddiweddaraf: 'Y Llythyrau'. Roedd y casgliad teimladwy yn deyrneg i rai o agweddau fwy ingol ei bywyd personnol a hanes ei theulu, fel cyfres o lythyrau a ysgrifenwyd at ei nain o'r Somme yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd cerddoriaeth bwrpasol wedi ei chyfansoddi gan Alan Slinn i'w clywed yn yr arddangosfa.

Mae teulu Jacquie a'u hanesion yn ffynhonnell bwysig o ysbryoliaeth. Fe welir llun ' The Sentinel ' ym mhob arddangosfa, fel gwarchodwr; cafodd ei beintio o hen lun a dynnwyd gan ei thaid.

Dangosir ehangder y symudodd Jacquie o ganolbwyntio ar y dyfrliw traddodiadol ar lluniau gouache yn ei gwaith y llynedd pan orffennodd ei blaenddelw plaster a gomisiynwyd ar gyfer agoriad y Clwb Hwylio ym Mae Drearddur. Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar ddelw 3D o ddynes yn boddi sydd wedi ei selio ar Ophelia.

Roedd Jacquie yn rhedeg ei oriel ei hyn, Seren, yn Stanley Crescent, Caergybi, hyd at fis Rhagfyr y llynedd, ble roedd yn dysgu ag yn hyrwyddo ei gweithdai celf i blant ag oedolion. Mae ei dosbarthiadau rheolaidd i oedolion bellach yn cael ei cynnal o'i chartref ac o Ganolfan Ucheldre; fe fydd yn cynnal y gweithdai plant poblogaidd eto yn yr haf; y tro yma yn y ganolfan gymuned leol.

Yn ogystal ag arddangos ei gwaith yng Nghanolfan Ucheldre, mae Jacquie wedi arddangos sawl tro yn y llyfrgell yng Nghaergybi, yr Oriel ym Mangor, Gwyl Gelf Beaumaris, Canolfan Dreftadaeth Llys Llywelyn a'r Oriel yng Nghaernarfon. Mae wedi cynhyrchu gwaith a gomisiynwyd gan noddwyr ar draws y byd: India, Brazil, Awstralia, Tasmania a Sbaen.

 

 

Written material,unless otherwise stated, copyright Dryw 1998-99
Artwork copyright each artist

Menternet logo
menternet