|
Ganwyd Karel Lek fel unig blentyn i deulu o dras gymysg Ewro-Iddewig a oedd yn byw yn Antwerp, Gwlad Belg, yn 1929. Ysgogwyd ei ddealltwriaeth a'i brofiad o fyd celf gan ei dad, Hendrik, drwy ymweliadau cyson a'r orielau ag eglwysi yn Fflandrys. Cafodd ei erlid o'i wlad yn 9 oed, pan gododd gwrth-semitiaeth ac ymosodiad Natsiaeth yno, a daeth ei deulu i fyw i Ogledd Cymru ble y cofia Karel iddo gyflawni ei waith arlunio pwysig cyntaf. "Roeddwn o gwmpas unarddeg neu ddeuddeg oed. Gofynodd yr athrawes inni arlunio syrcas. Roeddwn wedi ymweld a llawer i syrcas wych yng Ngwlad Belg felly roedd yn dasg wefreiddiol. Cafodd fy ngwaith ei arddangos i bawb ei weld gan yr athrawes." Cofia Karel i'w focs paent cyntaf ddod o Ysgol Friar, Bangor. Nid oedd y gweddill o brofiadau Karel yn yr ysgol mor gadarnhaol. Yn eironig, er ei fod yn dair ieithog, mewn Ffrangeg, Fflemeg ag Isalmaeneg, nid oedd ei Saesneg neu Gymraeg yn dda iawn - roedd mor wael roedd yr athrawon a'r prifathrawon yn aml yn gwneud sbort ar ei ben, a'i guro, yn ei ystyried yn ddisgybl mor wael; ac yn ei wahardd o'r dosbarthiadau arlunio fel cosb. Roedd ei rieni, serch hynny, yn ystyried bod ei integreiddio i gymdeithas Brydeinig yn holl-bwysig i sicrhau eu dyfodol, felly roedd unrhyw gwynion gan Karel yn cael eu anwybyddu. "Yfi oedd eu llysgennad. Roeddynt yn meddwl mai hawdd oedd fy nghymhathu o achos mai plentyn oeddwn - nid dyma'r achos." Roedd profiad celfyddydol Karel yr un mor anodd i'w amgyffred. Nid oeddwn yn deall pam nad oedd cerfluniau yn addurno eglwysi a thai y bobl yma, nad oedd nemor ddim gwaith celf i'w gweld nag orielau yn bod chwaith. Efallai mai oherwydd eu sefyllfa fregus fel alltudion roedd Karel yn teimlo y rhaid iddo amddiffyn ei rieni. "Roedd pobl yn trin fy nhad fel 'y dieithryn bach'. Bu imi unwaith roi dwrn i un am ei drin mor sal. Ond drwy ddangos fy ngwylltineb roedd yn achosi mwy o ddialedd gan fy rhieni a oedd mor awyddus imi ffitio i mewn. Efallai mai hyn sydd wedi achosi imi fod ar yr unllaw yn berson ofnus, ymosodol, ond hefyd yn caru fy nghyd-ddyn, yn enwedig y rhai sy'n dioddef gorthrwm". Fe ddengys felly, yn luniau Karel, ddyn anesmwyth yr ugeinfed ganrif. Mae'n defnyddio darluniau i adlewyrchu plentyndod aralladwy, ond hefyd i ddathlu cyfoethogrwydd cariad a photensial amddiffyniad o fewn perthynas dynolryw. Bu i Karel unwaith beintio cyfres o groeshoeliadau ag ecce homo s a ddisgrifiwyd fel carthiad o'i holl brofiadau bywyd. "Cafodd fy mhoen o wrth-semitiaeth ei ddargyfeirio yn ddiweddarach at hiliaeth cyffredinol. Rwyf y cyntaf i gyfaddef bod hiliaeth, nid yn unig gwrth-semitiaeth, yn bodoli ymhob diwylliant." Cafodd Karel ei ddylanwadu gan yr arluniwr Fflemeg Constance Permeke ( enghraifft ), sydd, meddai, "yn ceisio peintio enaid y cynnwys". "Hyd yn oed os rwy'n dechrau peintio rhywun nad wyf yn hoff ohono, erbyn diwedd y darlun mae fy agwedd wedi newid tuag atynt. Rwy'n gweld y Duw ynddynt, rydych yn dod wyneb yn wyneb a rhywun mwy na chi eich hun. Pan rwy'n gweld dyn yn eistedd mewn tafarn rwy'n peintio'r hyn a welaf. Nid oes gennyf ddig tuag ato. Rwy'n gweld bod dynol arall ag rwy'n peintio." Mewn llawer o'i waith, hyd yn oed y lluniau syml, mae Karel yn tynnu sylw'r arsyllwr tuag at y ffordd mae agwedd person yn dangos eu emosiynau mewnol. "Dyma un rheswm dros fy hoffter o arlunio cerddorion jas. Maent mor fynegol pan yn chwarae." "Rwy'n gwneud peth darlunio bob dydd. Mae iddo fwy o gyfeiriad na pheintio. Rwyf weithiau'n peintio beth a alwyd unwaith o 'gof yr emosiwn'. Nid wyf yn dewis gweithio wrthyf fy hun. Byddaf yn aml yn cadw drws fy stiwdio ar agor er mwyn cadw cysylltiad a fy ngwraig Phyllis." Mae Karel yn arlunwr cymunedol amlwg yng Ngogledd Cymru. Gellir ei weld yn aml yn canu jas ym mhen stryd er mwyn codi arian at yr ysbyty leol, neu'n rhedeg gweithdai celf cymunedol i grwpiau difreintiedig. |
|
|
|
|
|
|
|
|
Written material,unless otherwise stated, copyright
Dryw
1998-99
Artwork copyright each artist