Ystyrir Kyffin Williams gan lawer fel un yr o arlunwyr mwyaf poblogaidd Gogledd Cymru sydd yn fyw. Ef yw'r diwethaf yn ei linach ef o etifedd bonedd. Yn llawn o hen draddodiadau a dylanwad yr Eglwys yng Nghymru, roedd ei deulu fel llawer o deuluoedd eraill a oedd yn byw ar ymylon aristocratiaeth, a safon byw reit gyfforddus.

Er i ddylanwad tirwedd mynyddig a chorsiog Gogledd Cymru weithiau olygu i safonnau y dosbarth canol uwch weithiau fynd y tu hwnt i gyrraedd ei deulu. Mae Kyffin yn cofio fel roedd ei dad yn methu a fforddio y £200 y flwyddyn fyddai wedi ei alluogi i ddilyn gyrfa fel swyddog yn y fyddin. Efallai mai'r amodau anodd yma i geisio gwneud bywiolaeth a dreiddiodd drwy'r boneddigion yng Ngogledd Cymru.

Mae Kyffin yn cofio cyfarfod a rhai o'r ffermwyr tra'n dilyn helfa lwynogod ar fynyddoedd Dyffryn Ogwen. Mae'n cofio'r parch oedd gan y naill ochr tuag at y llall; efallai, rhyw gyd-ddibyniaeth economaidd a oedd yn gadael y ddwy ochr ar yr ymylon, fel ag yr oedd llawer o fonheddigion yn teimlo ar ymylon aristocratiaeth. Y delweddau yma o'r ffermwyr a'r tirwedd mynyddig anodd, yn hytrach na'r helwyr hwyliog, sydd wedi dylanwadu ar ei waith dros yr hanner can i drigain mlynedd diwethaf.

"Roedd y llwynog yn eich arwain i lefydd dieithr. Dyna sut y bu imi ddarganfod y mynyddoedd a'r ffermwyr. Roeddynt yn croesawu rôl yr helwr boneddig oherwydd eu praidd. Nid oes cymaint o ffermwyr ar yr ucheldir bellach. Efallai imi gofnodi brid sydd ar ddarfod. Bu imi'n gyson weld tirlun a ffermwr y mynydd fel un. Nid y gair 'tirlun' yw'r engraifft orau yng Nghymru. 'Cynefin' yw'r gair sy'n dangos perthynas rhwng pobl a lle orau."

Mae Kyffin yn credu bod cael eich amgylchynnu â braint a harddwch yn lleihau'r angen o fod yn ddarluniwr. "Nid wyf yn aelod o'r aristocratiaeth. Anaml iawn y maent yn dilyn gyrfa fel arlunwyr, maent yn fwy tebygol o fod yn awduron. Roedd Toulouse Lautrec yn un o'r ychydig o aristocratiaid a aeth yn arlunwr, roedd hynny am iddo fod yn fethiedig. Hyn oedd ei ronnyn o dywod yn yr wystrys."

Nid yw hunan-ddelwedd Kyffin wedi bod erioed yn gadarn nag yn ddidwyll. "Roedd fy mrawd hynaf yn glyfar iawn. Teimlais mai dwl oeddwn i. Yfi oedd yn cael y gwaith budr - pario tatws a blingo cwningod. Yfo gafodd ysgoloriaeth. Methu'r arholiad mynediad a wnes i. Roedd bob tro yn fy nghuro mewn gemau. Ond roedd bob amser yn garedig wrthyf. Roedd ei fywyd yn drychineb fawr. Nid oedd ganddo ddim meddwl ohono ei hun, nid oedd arno eisiau byw."

Pan ganfuwyd Kyffin o fod yn dioddef o epilepsi, penderfynodd y dylai beidio a rhoi cymaint o bwyslais ar fod yn llwyddiannus yng ngolwg ei deulu a'i ddosbarth. Y meddyg a gynnigodd y syniad iddo ymwneud a'r proffesiwn arlunio. Drwy benderfynu ymuno a Choleg Celf Slade yn Llundain yr oedd rhywffordd yn gadael ei ddyfodol i ffawd.

"Roeddwn mor drwsgl yn y Slade. Roedd yr hen Broff yn dweud na fedrwn arlunio. Roeddwn yn gwybod nad oedd gennyf fawr o dalent ac felly, gweithiais ar yr hyn a oedd gennyf. Ar gyfer yr arholiad mynediad gwnes gopi difrifol o wael ar waith Peter Scott a'r hwyaid yn hedfan dros lwyfannau mwd. Dywedwyd wrthyf mai am dymor yn unig 'roeddwn i gael ymuno. Roedd prinder mawr o ddynion o gwmpas o achos y rhyfel, felly, roeddwn i gael aros am ddau dymor arall ag wedyn, blwyddyn.

"Nid oeddwn â fawr o feddwl o gelf tan nes imi gael troedigaeth yn 1942 pan welais waith Piero della Francesca a sylweddoli bod mwy iddo nag ailgynhyrchu. Ymwelais a llyfrgell yr Oriel Ashburton, gwelais dudalen o'i Atgyfodiad a darganfod fy hun yn llefain,' roedd yn syndod i mi bod celf yn cael y fath effaith. Dim cymaint y cynnwys Cristionogol, â'r pwer ysbrydol o'r ddelwedd. Bellach rwy'n beirniadu os ydi arlunwyr yn achosi imi lefain ai peidio."

Rhoddwyd hwb i hyder Kyffin pan gafodd ei ethol fel aelod o'r Acadami Frenhinol. Ond ni chafodd Kyffin fawr o gefnogaeth gan y byd celf cyfoes fel 'sefydliad' - ni roddwyd fawr o ganmolaeth na chymorth ariannol iddo drwy ei ymdriniaeth a dulliau traddodiadol. Mae hyn wedi pegynnu ymhellach y rhaniad rhyngddo ef a rhai arlunwyr eraill ag orielau yng Nghymru; yn aml mae wedi achosi gelyniaeth.

"Mae llawer oriel a 'chyfoeswr' â mwy o ddiddordeb yn ymateb y gynulleidfa. Rwy'n peintio oherwydd fy mod yn hoffi'r cynnwys. Myfi yw'r Cymro o arlunydd cyntaf i gyrraedd y gynulleidfa Gymraeg. Mae'r byd celf wedi ei ddinistrio gan addysgwyr. Chafodd arlunwyr ifanc ddim o'r cyfle. Mae rhai argraffiadau yn dangos nad oes sylwedd i arlunwyr os ydi'r cyhoedd yn eu hoffi. Y broblem hefo celf gyfoes ydi bod yr arlunwyr yn caru eu hunain. Nid yr hyn y maent yn ei ddarlunio. Mae'n rhaid caru rhywbeth. Rwy'n peintio o'r galon."

Mae Kyffin yn uniaethu ei hun yn gryf ag Van Gogh, sydd, meddai, "yn caru'r byd". "Roedd gennym gefndir cymdeithasol, meddygol a theuluol tebyg iawn, (tad yn barson, ag ewythr yn lyngesydd). Roedd yntau hefyd yn dioddef o epilepsi. Roedd Vincent yn blentyn a oedd wedi cymryd lle plentyn arall, ni allai ei fam ei garu". Prin iawn yw cof Kyffin chwaith o gariad mam.

Credai Kyffin mai ei gyflwr epileptig oedd yn gyfrifol am ei dymer wyllt ceisiodd ei sianelu at greadigrwydd, fel Van Gogh. "Roeddwn yn aml yn peintio'r môr pan oedd yn stormus. Gallai hynny fod yn sgil effaith o ffyrnigrwydd a achoswyd gan fy nghyflwr epileptig. Mae tueddiad yn fy narluniau i fod yn dreisgar. Niwrotig. Drwy'r ffordd rwy'n ymosod ar canfas, a, fel Van Gogh, yn defnyddio lliwiau sy'n cyferbynnu, fel goleuni yn ymddangos dros grib dywyll."

Mae egni Kyffin i'w weld yn amlwg yn y ffaith, er ei fod yn 79, mae'n gwneud pwynt o orffen pob darlun o fewn y diwrnod. Y rheswm dros hyn, meddai, yw yr achos bod paent yn hel croen ar ôl diwrnod - drwy orffen cyn i hyn ddigwydd mae'n rhoi ffresni i'r gwaith.

Nid yw bellach yn derbyn comisynau at bortreadau, oherwydd i'r pryder mae'n ei deimlo cyn y gwaith fod yn ormod o straen. "Os oedd gennyf bortread i'w gyflawni ymhen 6 mis roeddwn yn arfer poeni cymaint 'roeddwn yn gweddio i'r person yna beidio troi i fyny."

Mae Kyffin yn dal i fyw a gweithio ar ei ben ei hun yn ei gartref a'i stiwdio ger y Fenai. Nid oes ganddo ddim o'i ganfasau ei hun yn ei dy - mae'n dweud nad ydyw yn eu hoffi!


Gwastadnant (1971)

Eira yn Nant Peris (1982)

Lady Amelia Paget (1968)

Evan Roberts (1990)

Chwilio am ddefaid (1994)

Hunan-bortread (1992 )
 
Storm, Trearddur (1987)
 

 

 

Written material,unless otherwise stated, copyright Dryw 1998-99
Artwork copyright each artist

Menternet logo
menternet