|
Mae Esyllt yn actores, cantores a storiwraig, ac yn athrawes gynradd trwyddedig. Mae hi hefyd yn ymarferwraig proffesiynnol yn system iechyd Shiatsu-IachaoI. Mae Esyllt yn aelod o bartneriaeth
Dryw
, hyrwyddwyr celf ar gyfer iechyd, Sir Fon. Mae hi wedi arwain grwpiau amrywiol ers 1986, ar gyfer plant, yr henoed, pobl ac anghenion arbennig, a'r cyhoedd yn gyffredinol.Yn ei gwaith daw â sgiliau mynegiannol ac ymarferion iachaol at ei gilydd, i gynnig cyfle i bob un i ddarganfod ei hysbryd creadigol ei hun, a'r hyder iw fynegi.
Gweithgareddau: 'Rhibidirythm' - Rhaglenni o ganeuon a straeon a gweithdai ymarferol i blant. 'Hen Wlad fy Mamau' - ar gyfer Merched Y Wawr a chynulleidfaoedd eraill. 'Mana - Hanes Menyw' - Sioe theatr unigol, Eisteddfod Genedlaethol y Bala, l997. Gweithdai 'Corf a Llais' - er mwyn ymlacio a hybu hyder (gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru). |
Written material,unless otherwise stated, copyright
Dryw
1998-99
Artwork copyright each artist