Picture of Beverley

Mae arlunio yn rhywbeth yr wyf wedi ei wneud ar hyd fy oes. Roedd yn naturiol imi symud ymlaen ag ymuno a Choleg Celf. Rwyf bob amser wedi cael cefnogaeth gan deulu a ffrindiau.

Mae gennyf atgofion o ymweld a chartrefi teulu a ffrindiau pan yn blentyn yn yr Unol Daleithiau. Roedd un ystafell wedi ei goleuo â ffenestr to ac yn cael ei defnyddio fel stiwdio arlunio. Roedd yno gopi heb ei ddarfod o baentiad olew gan Renoir. Rwy'n cofio yr effaith a gafodd y darlun yma pan y gwelais y tro cyntaf. Mae argraffiadwyr yn dylanwadu arnaf, yn enwedig Degas a Monet.

Mae gennyf berthynas gydnaws a phethau naturiol, cytbwys a lliwgar. Mae gwrthgyferbyniad, golau ac ailadroddiad hefyd yn bwysig. Mae darlunio ar sidan yn gyfrwng delfrydol i'r gwaith rwy'n ei gynhyrchu ar hyn o bryd ag mewn ffordd y catalydd a'm datblygodd fel arlunwraig.

Pan dderbynwyd fy lluniau gan Oriel Watergate Street yng Nghaer yn gyntaf roeddwn yn teimlo llwyddiant. I fod yn onest nid wyf yn teimlo fy mod wedi cynhyrchu fy ngwaith gorau eto ond rwy'n credu fy mod yn agosau at gyflawni hyn.

Mae rhedeg busnes wedi bod yn anodd. Mae amser yn llyffethair mawr. Cyfnod o ddysgu fu'r tair blynedd diwethaf, rwy'n teimlo fy mod bellach yn cyrraedd cydbwysedd rhwng busnes, teulu a fy nghwaith fy hun. Rwy'n mwynhau'r her.

Ar ol 15 mlynedd mae Ynys Môn yn gartref imi. Yma mae fy nheulu a fy ffrindiau'n byw. Er imi dyfu i fyny yn California; ag wedi byw yng Ngogledd Lloegr, yma yr ydwyf yn teimlo hapusaf.

Mae Môn yn ynys brydferth ac unigolyddol, h.y. nid yw'n cydffurfio a disgwyliadau arferol yr unigolyn. Mae rhyddid yma i ddilyn diddordebau'r unigolyn gyda'r lleiafswm o ddylanwad allanol.

Felin Wen Studios
Rhosgoch
Isle of Anglesey LL66 0AS

Ffôn/ffacs:

 

 

Written material,unless otherwise stated, copyright Dryw 1998-99
Artwork copyright each artist

Menternet logo
menternet