|
Iaith yn y Gymuned |
|
Os ydyr Gymraeg am oroesi maen bwysig ei bod yn cael ei hamlygu ar lefel gymunedol. Mae gan mudiadau megis Ffermwyr Ifanc, Merched y Wawr,yr Urdd, a Theatr Bara Caws rôl werthfawr mewn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio yn gymdeithasol. Maer mudiadau hyn y weithgar iawn gan sicrhau bod gan bobl o bob oed a chefndir gyfraniad at fywyd Cymraeg yr ynys.
Yn yr hirdymor mae Menter Iaith Môn am gydweithio gyda holl fudiadau cymunedol yr ynys. Bydd y Fenter yn medru ategu at eu gwaith drwy bontio rhyngddynt - mewn undod mae nerth. Drwy ddatblygu dealltwriaeth a gweledigaeth unedig ymysg y mudiadau bydd posib ymgymryd a chynlluniau ar y cyd. Yn y tymor byr mae Menter Iaith Môn am gydweithio gyda Theatr Bara Caws er mwyn rhedeg cystadleuaeth trwy ysgolion cyfun yr ynys. Bydd y cystadleuaeth yn annog darpar-ysgrifennwyr Cymraeg i addasu neu gyfieithu golygfa allan o ddrama ou dewis. Bydd yr enillwyr yn cael y cyfle i ymweld a Theatr Bara Caws ble byddent yn derbyn cyngor gan sgriptwyr broffesiynol, a gweld eu golygfa yn cael ei berfformio. Er mwyn ceisio lleddfu effeithiadau ieithyddol mewnlifiad, mae Menter Iaith Môn am ddatblygu pecyn croeso. Nod y pecyn croeso yw argyhoeddi mewnfudwyr o bwysigrwydd ac unigrwydd iaith a diwylliant Cymraeg ar Ynys Môn. Bydd y pecyn yn rhoi cefndir hanesyddol a diwylliannol yr ynys, gwybodaeth ar gyrsiau iaith ac addysg ddwyieithog, yn ogystal â chynnwys tâp byr fydd yn rhoi cyflwyniad i ddywediadau cyffredin ac enwau trefi a phentrefi lleol. Amcan y cynllun yma yw sicrhau bod mewnfudwyr yn medru integreiddio trwy gynyddu eu dealltwriaeth o Fôn ai phobl. |