Iaith a Thwristiaeth

Yn 1993 cyhoeddwyd arolwg, fel rhan o gynllun "Croesawiaith Môn", ar ran Menter a Busnes a’r Bwrdd Croeso. Y nod oedd ceisio sefydlu arwyddocâd iaith a diwylliant Ynys Môn ymysg ymwelwyr i’r ynys. Mewn ateb i’r cwestiwn ‘A ydy’r iaith a’r diwylliant Cymraeg yn atyniad ychwanegol i ymwelwyr’ nododd 39% eu bod, gyda 38% yn teimlo eu bod yn rhywfaint o atyniad. Yn yr un arolwg, dywedodd 68% o ymwelwyr ar yr ynys y byddent yn dymuno profi mwy o’r iaith a’r diwylliant tra ar yr ynys. Roeddynt am weld a chlywed mwy o’r iaith mewn bwytai, siopau, gwestai a thafarndai.

Nod tymor hir Menter Iaith Môn yw datblygu a hybu delwedd Gymraeg Ynys Môn ymysg ymwelwyr. Mae arolwg ‘Croesawiaith Môn’ yn awgrymu’n gryf bod yr iaith Gymraeg yn adnodd twristiaethol gwerthfawr. Bydd angen argyhoeddi rheolwyr o fewn y sector, mwyafrif ohonynt yn ddi-Gymraeg, bod angen amlygu’r iaith ar bob cyfle.

Un o nodau tymor byr Menter Iaith Môn yw sefydlu asiantaeth perfformwyr Cymraeg ar yr ynys. Nod yr asiantaeth bydd dod â pherfformwyr Cymraeg o bob math ynghyd, boed yn ddawnswyr gwerin, telynwyr, corau neu ddigrifwyr. Byddai’r asiantaeth yn medru cynnig amrywiaeth o adloniant Cymraeg, ar gyfer pob achlysur i westai a thafarndai ar yr ynys. Byddai hyn o fudd i berfformwyr Cymraeg, ac yn rhoi hwb i ddelwedd a phroffil yr iaith ym Môn.