|
Iaith a Gwirfoddoli |
|
Ceir llu o fudiadau gwirfoddol ar Ynys Môn. Er mwyn sicrhau cyfranogiad uchel maen bwysig eu bod yn gweithredun ddwyieithog. Gan bod y mudiadau am ddenu croestoriad eang o bobl i wirfoddoli maen bwysig bod ganddynt ddelwedd gyhoeddus syn berthnasol ir Cymry Cymraeg ar ddi- Gymraeg. Mae nifer helaeth ohonynt yn gweithio gyda phobl, megis yr ifanc, yr anabl ar henoed, ble maer gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y ddwy iaith yn gymhwyster hanfodol.
Yn y tymor hir mae Menter Iaith Môn am gynyddu proffil a defnydd y Gymraeg o fewn y sector wirfoddol. Trwy gydweithio gyda Gwasanaethau Gwirfoddol Môn, bwriedir ddatblygu dealltwriaeth o anghenion ieithyddol mudiadau gwirfoddol yr ynys. Bydd hyn yn gosod sylfaen ar gyfer creu gwasanaeth cynghori all roi cymorth i fudiadau gwirfoddol ar y gwahanol agweddau o ddwyieithrwydd. Yn y tymor byr mae Menter Iaith Môn am gydweithio gyda Gwasanaethau Gwirfoddol Môn er mwyn rhoi cymorth i fudiadau gwirfoddol ar lunio polisïau iaith. Byddem yn cynnig cyngor, gwybodaeth a hyfforddiant ar lunio polisi bydd yn addas ar gyfer eu hanghenion. Bydd hyn yn sicrhau bod y mudiadau yn cael fwy o fewnbwn ir polisi na fyddent wrth dderbyn polisi gan y Cyngor Sir. Trwy wneud hyn bydd ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ymysg aelodaur mudiadau gwirfoddol yn cynyddu, ac o ganlyniad byddent yn fwy tebygol o ddilyn y canllawiau. |