A word in English

This unique package offers Welsh learners the opportunity to develop their language skills while staying at local farmhouses and visiting local attractions on Anglesey. The aim is to encourage the use of the language beyond the classroom. Learners will gain confidence through socialising, relaxing and learning all through the medium of Welsh

Cyflwyniad

Mae ffermdai, perfformwyr ac atyniadau Ynys Môn wedi dod at eu gilydd i gynnig pecyn i ddysgwyr. Pwyslais y pecyn yw rhoi cyfle i chi ymlacio , cymdeithasu a dysgu trwy’r Gymraeg. Bydd croeso cynnes yn eich disgwyl ar un o ffermdai Mon, ble y Gymraeg yw’r iaith naturiol. Cewch ymlacio dros bryd o fwyd cartref, tra’n gofyn cwestiynau a chael sgwrs.
atyniadau - attractions ymlacio - relax
Bore Sadwrn byddwch yn cael gwersi iaith. Cewch ddod â thiwtor eich hunain neu mi wnawn drefnu tiwtor trwy Goleg y Brifysgol, Bangor. Ar ôl cinio ysgafn ym Mhili Palas, cewch gyfle i glywed ac ymarfer eich geirfa newydd wrth fynd o gwmpas. Mae gan Ynys Môn rhyfeddodau amgylcheddol, hanesyddol, daearyddol ac archeolegol. Yn ôl diddordeb eich grwp, cewch gyfle i ymweld ag atyniadau fel Castell Biwmares, Llys Llywelyn neu Barclodiad y Gawres. Gyda’r nos bydd pryd o fwyd blasus, a noson o adloniant Cymraeg, yn eich disgwyl yng Ngwesty Glantraeth. Cewch siarad am weithgareddau ’r dydd, neu ymlacio wrth fwynhau perfformwyr lleol.
ysgafn - light (not heavy) rhyfeddodau - wonders daearyddol - geographical adloniant - entertainment
gweithgareddau - activities
Y bore wedyn bydd pawb yn cyfarfod yn Oriel Môn i gael sesiwn adrodd yn ôl . Bydd cyfle i ofyn cwestiynau ac i siarad. Cyn cinio, cewch gerdded o gwmpas yr Oriel. Ar ôl cinio mi fydd yn amser hel pac a ffarwelio - am y tro beth bynnag. Gobeithio byddwch wedi mwynhau ar Fôn a bydd cyfle i’ch croesawu yn ôl dros y Bont rhyw ddydd.
sesiwn adrodd yn ôl - feedback session hel pac a ffarwelio - pack the bags and say farewell

Oriel Ynys Môn

Mae arddangosfa treftadaeth Oriel Môn yn mynd â chi ar daith o gwmpas Môn. Cewch ddysgu am hanes yr ynys, chwedlau a bywyd gwyllt. Cewch hefyd ddysgu am hanes y Celtiaid, chwedlau’r Mabinogion, ac amgylchedd yr Fenai.
arddangosfa treftadaeth - heritage exhibition chwedlau - tales

Gwyliau Fferm

Mae Gwyliau Fferm Ynys Môn yn rhoi gwahoddiad arbennig i ddysgwyr. Mae’r pum fferm yma, pob un â theulu Cymraeg, yn cynnig llety cyfforddus o safon uchel, bwyd ardderchog, croeso cynnes a chyfle i ymarfer eich Cymraeg. Mae hefyd croeso i chi gerdded o gwmpas y fferm, a rhoi help llaw.

Pili Palas

Mae cannoedd o loÿnnod byw o bedwar ban byd i’w gweld ym Mhili Palas. Mae rhai ohonyn nhw’n enfawr - chwe modfedd ar draws yr adain , yn hedfan o gwmpas. Cewch gyfle i dynnu eu lluniau. Ymlaciwch ynghanol planhigion ac amgylchedd egsotig. Ond mae llawer mwy.....
gloÿnnod byw - butterflies bedwar ban byd - four corners of the world adain - wing

Glantraeth

Ym Mwyty Glantraeth cewch bwyd blasus ac adloniant traddodiadol . Cewch ymlacio a gwrando ar Gor Meibion, partïon, unawdwyr neu offerynwyr. Erbyn diwedd y noson byddwch yn gwybod mai Cymru yw gwir wlad y gân .
traddodiadol - traditional gwlad y gân - land of song

Atyniadau

Mae llawer o atyniadau naturiol, hanesyddol a diwylliannol ar yr ynys. Mae dros gan milltir o arfordir, gyda thraethau sydd wedi derbyn gwobrau baner glas. Mae tref Fictorianaidd Biwmares , gyda’i chastell a’i charchar hen, yn llawn dirgelwch . Mae Llys Llywelyn yn edrych ar hanes tywysogion Cymru, ac yn Llanddeusant mae melin olaf Cymru, Melin Llynnon, sy’n dyddio yn ôl i 1775.
diwylliannol - cultural dirgelwch - mystery melin - mill

Costau

Mae’r pecyn wedi ei lunio ar gyfer grwpiau 6 person neu fwy. Mae’r pris yn dibynnu ar nifer ac anghenion y grwp. Mae’n bosib trefnu tiwtor a thrafnidiaeth . Os am fwy o fanylion, a ffurflen bwcio, cysylltwch â Menter Môn trwy lythyr, e-bost neu ar y ffôn. Mae gwybodaeth bellach hefyd i gael ar y wê fyd eang.
dibynnu - depend anghenion - requirements trafnidiaeth - transport gwê fyd eang - world wide web

Rhaglen y Penwythnos

Nos Wener
  • Cyrraedd y ffermdai a chael swper.

Dydd Sadwrn

  • Ar ôl brecwast byddwch yn mynd i Pili Palas ar gyfer gwersi iaith.
  • Cinio ym Mhili Palas
  • Bydd y Grwp yn gweld o gwmpas Pili Palas
  • Paned
  • Yn ôl diddordeb y grwp, bydd cyfle i ymweld ag un o atyniadau Môn.
  • Mynd yn ôl i’r Ffermdai
  • Swper yng Ngwesty Glantraeth a noson o adloniant Cymraeg

Dydd Sul

  • Cyfarfod yn Oriel Môn am sesiwn adrodd yn-ôl
  • Gweld Oriel Môn
  • Cael cinio
  • Adra

Cyswlltwch a: Dafydd Gruffydd,