Iaith a Busnes

Mae ymchwil a wnaethpwyd ar ran Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn awgrymu’n gryf bod budd masnachol i’w gael o ddefnyddio’r Gymraeg mewn busnes. Datgelwyd bod 71% o’r rhai ymatebodd yn cefnogi defnydd o’r Gymraeg, a bod 88% yn teimlo fod yr iaith yn rhywbeth i fod yn falch ohoni. Dywedodd 60% o siaradwyr Cymraeg y buasent yn fwy tebygol o ddefnyddio siop neu fusnes pe byddai’n gwneud ymdrech i ddefnyddio’r Gymraeg. Gyda 61% o boblogaeth Ynys Môn yn siarad Cymraeg, ceir potensial sylweddol o fewn y sector busnes i gynyddu defnydd y Gymraeg.

Nod Menter Iaith Môn, yn y tymor hir, yw Cymreigeiddio busnesau Môn. Bwriedir datblygu gwasanaeth cynghori ieithyddol er mwyn rhoi cymorth i fusnesau ar fabwysiadu dwyieithrwydd. Bydd y gwasanaeth yn rhoi cyngor ar bob agwedd, megis offer cyfieithu, cyrsiau iaith, grantiau a pholisïau dwyieithog. Proses yw mabwysiadu dwyieithrwydd yn hytrach na digwyddiad dros nos, ac bydd Menter Iaith Môn yn cydweithio’n agos gyda busnesau’r ynys er mwyn datblygu gwasanaeth cyflawn.

Mae arwyddion dwyieithog yn arwydd amlwg bod busnesau yn gweld budd mewn dwyieithrwydd ac yn parchu’r iaith Gymraeg. Yn y tymor byr mae Menter Iaith Môn yn bwriadu codi proffil grantiau arwyddion dwyieithog, cylchlythyru ac ymweld â busnesau, ynghyd ag argyhoeddi gwerth delwedd Gymraeg. Trwy wneud hyn bydd posib meithrin perthynas gyda busnesau, a fydd yn sail gadarn er mwyn datblygu’r gwasanaeth ieithyddol yn bellach.