Croeso!

Croeso i dudalennau gwe Menter Iaith Môn. Gweler isod y strategaeth ynghyd a'r cynlluniau sydd gennym ar y gweill. Rydym yn gobeithio ehangu'r safle mewn amser er mwyn cynnig gwybodaeth penodol ar amrywiaeth o feysydd, gweler rhain isod:
  • Cyfieithwyr lleol
  • Offer cyfieithu
  • Digwyddiadau Cymraeg ar Ynys Môn
  • Cyrsiau Cymraeg
  • Busnesau sy'n cynnig gwasanaeth Cymraeg
  • Gwestai/Gwely a Brecwast Cymraeg
  • Grantiau a.y.y.b..

Cyflwyniad

Sefydlwyd Menter Iaith Môn er mwyn hybu ac annog defnydd yr iaith Gymraeg ar Ynys Môn. Gweinyddir y cynllun gan Menter Môn, sef grwp sy’n gweithredu rhaglen LEADER II yr Undeb Ewropeaidd, er lles economi gwledig yr ynys. Ynghyd â Menter Môn, ariannir y cynllun gan Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Chyngor Sir Ynys Môn.

Mae Menter Iaith Môn yn unigryw am nifer o resymau. Yn hytrach na gweithredu fel corff annibynnol, bydd y cynllun yn medru manteisio ar y rhwydweithiau a’r cysylltiadau sydd eisoes gan Menter Môn. Mae gwaith sylweddol wedi ei gwblhau o fewn y meysydd twristiaeth, busnes a datblygu cymunedol. Bydd Menter Iaith Môn yn medru elwa ar hyn, gan ddatblygu a gweithredu cynlluniau ieithyddol.

Tra bod nifer o fentrau iaith wedi eu sefydlu yn Ne Cymru, hwn yw’r cyntaf o’i fath yn y Gogledd. Tra bod yna lawer gellid ei ddysgu gan fentrau iaith yn Ne Cymru, mae gan Ynys Môn rinweddau hanesyddol, cymdeithasol a diwylliannol unigryw. Bydd rhain yn cael eu hystyried yn fanwl wrth weithredu’r cynllun.

Er bod canran y siaradwyr Cymraeg ar Ynys Môn ymysg yr uchaf yng Nghymru, sef 61%, mae’r strwythur ieithyddol yn medru amrywio yn sylweddol o ardal i ardal. Mae ardaloedd megis Llangefni gyda 85% o siaradwyr Cymraeg, tra bod y ffigwr yn gostwng i 35% ym Miwmares. Bydd Menter Iaith Môn yn gweithredu hyd a lled yr ynys, ond mi fydd pwyslais y gweithgareddau yn ddibynnol at strwythur ieithyddol yr ardaloedd.

Yn y tymor hir mae Menter Iaith Môn yn bwriadu cryfhau a chodi proffil yr iaith Gymraeg ar yr ynys. Mae hon yn broses hir, ac os am lwyddo bydd angen cydweithrediad ym mhob maes ac ar bob lefel. Yn y tymor byr bydd Menter Iaith Môn yn canolbwyntio ar gwblhau cynlluniau penodol o fewn sectorau canlynol:

  • Busnes
  • Twristiaeth
  • Y Gymuned
  • Gwirfoddoli

Pecyn Gwyliau i Ddysgwyr

Cliciwch yma os ydych yn ddysgwr - Click here if you are a Welsh learner.

Os ydych am ragor o wybodaeth ynglyn ag unrhyw un o'r cynlluniau yma mae croeso i chi gysylltu hefo Dafydd Gruffydd, Swyddog Iaith Menter Môn, Menter Môn, Uned Ewrop, Llyfrgell y Sir, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW.

Ffôn: