Penysarn

Llwybr cadi rondol a gwlad Eilian

Datblygodd Penysarn yn bentref yng nghanol ardal fwyngloddio bwysicaf ynys Môn. O'r 1760au ymlaen roedd gweithfeydd Parys a Mona, yn union i'r gorllewin, yn cyflym ddod yn brif gynhyrchwyr copr y byd. I'r gogledd roedd Porthladd Amlwch yn datblygu fel canolfan fwyndoddi ac allforio copr. l'r dwyrain roedd mentrau yn anturio agor ar Fynydd Eilian. Roedd Penysarn ei hun yn ganolfan enwog am wneud clocsiau, gan ddarparu ar gyfer gweithwyr y mwyngloddiau.

Mae copa Mynydd Eilian yn rhoi i ni un o'r golygfeydd godidocaf ar ynys Môn. Mae'n cyfuno golygfeydd eang o'r arfordir gyda thirlun lie mae'r gorffennol chwedlonol yn ymdoddi yn un â rhal o olion pwysicaf yr oes ddiwydiannol.

Cadi Rondol

Câl llawer o'r gwaith yn ymwneud â phrosesu'r mwyn ei wenud gan y 'coperladis' - merched oedd yn hawdd eu hadnabod oherwydd eu dillad nodweddiadol.

Gwraig arall oedd yn adnabyddus iawn yn lleol ac a oedd yn cymryd rhan mewn masnach bur wahanol oedd Catherine Randall. Roedd y wraig hon o foesau llac, a'r gorau am regi yn yr ardal. yn byw mewn bwthyn sydd bellach wedi'i gladdu dan domenni o rwbel.

Yr enw ar y llwybrau rhwng y pyllau a'r cloddfeydd a ddernyddiai hi'n rheolaidd oedd 'llwybrau Cad Rondol'. Dangoswyd llwybr unionach iddi gan y pregethwr Methodist mawr, John Elias.

Gwalad Eilian

Mae copa Mynydd Eilian yn glytwaith o gaeau bach wedi'u hamgylchynu â waliau cerrig a lonydd culion. Ceir ffermdai a byrhynod hynafol yn nyrhu ymhlith y creigiau geirwon.
Mae Mynydd Eilian yn edrych dros yr holl diroedd a roddwyd, yn ôl traddodiad, I Eilian pan sefydlodd y sant ei gymuned grefyddol yma gyntaf yn y chweched ganrif. Yn ôl y chwedl. addawodd y brenin, Caswallon Law Hir. iddo yr holl dir y gallai carw ei groesi cyn i gwn Caswalion ei ddal. Dechreuodd yr helfa yn Nulas; rhedodd y carw i Drysgiwyn - Mynydd Parys - ac yna lam Carw - lie gadawodd y cwn ar ben y clogwyn wrth iddo lamu i'r môr. Ac felly y cafodd Eilian un o gonglau prydferthaf Môn.

Mae eglwys hanesyddol Llaneilian yn cadw nifer o nodweddion diddorol. Cyn i Laneilian ddod yn egiwys biwyf yn y drydedd ganrif ar ddeg, roedd yn ganoibwynt i glas neu gymuned grefyddol o darddiad llawer cynharach ac efallai fynachaidd. Adeiladwyd yr eglwysi cerrig cyntaf ym Môn yn y ddeuddegfed ganrif ac mae'r twr gorllewinol unigryw yn dyddio nôl i'r cyfnod hwn. Ailadeiladwyd y rhan fwyaf o weddill yr eglwys dair canrif yn ddiweddarach. Mae capel y sant yn awr wedi'i gysylltu â changell yr eglwys drwy gyfrwng coridor o'r ail ganrif ar bymtheg. Mae'r sgrîn bren gerfiedig a'r oriel o fewn yr eglwys ymhlith yr enghreifftiau mwyaf diddorol ym Môn.

Roedd Ffynnon Eilian ar lan y môr gerllaw yn enwog fel lie i bererindota iddi yn y Canol Oesoedd a chanddi'r enw o fod yn ffynnon felltithio.

1 Paneli dehongliad hanes lleol yn y maes parcio newydd

Mae'r llwybrau treftadaeth 'Cadi Ronol' a 'Gwlad Eilian' yn dechrau yma.

2 Mynydd Parys

Y mwynglawdd copr mwyaf yn y byd

Dechreuodd mwyngloddio ar raddfa ddiwydiannol yn y 1760au er bod pobl yn sylweddoli bryd hynny fod cloddio wedi digwydd mewn cyfnod cynharach ar y mynydd. Efallai i gopr gael ei gloddio yno adeg y Rhufeinlaid gan fod ingotau copr Rhufeinig wedi cael eu canfod ym Môn ond mae archwiliadau tanddaearol diweddar a thechnegau dyddio gwyddonol yn awgrymu i'r cloddio cynharaf ddechrau yn yr Oes Efydd, bron i 3000 o flynyddoedd yn ôl.

Yr oedd gweithfeydd Mona a Parys yn eu hanterth ddiwedd y ddeunawfed ganrif pan gyflogid tua 1200 o bobl yno, un o bob chwech o boblogaeth Môn. Parhaodd y cloddio yno, o dan y ddaear ac yn gwaith brig anferth, tan y 1880au pan gaeodd y gweithfeydd yn derlynol oherwydd cwymp ym mhris copr.

Gellir gweld amlinell ddramatig Mynydd Parys. Arferaiír felin wynt, a adeiladwyd ym 1878, gynorthwyo injan stlm i bwmpio dwr o un oír siafftiau.

Mae'r pyllau ocr i'w gweld yn glir, gyda'r llifddorau oedd yn rheoli llif y dwr. Byddai'r ocr melyn yn gwaddodi yma fel cam olaf mewn tynnu copr o'r dwr ar y myntdd. Ar ôl ei sychu a'i falu, defnyddid yr ocr mewn paent. efnyddid y dwr oedd yn gyfoethog mewn haearn hefyd i gynhyrchu asid sylffiwrig mewn 'gwaith fitriol' ar y safle. Parhaodd y broses hon yn hirach na mwyngloddio yn y dull confensiynol ac roedd yn dal i gael ei defnyddio mor ddiweddar â 1958. Mae'r broses waddodi a'r olion hyn ym mynydd Parys yn unigryw ym Mhrydain ac yn brin iawn yn unrhyw le yn byd.

3 Pyllau gwaddodi

Adnabuwyd cynnwys copr cyfoethog y dwr oedd yn hel ar y mynydd mor gynnar â'r unfed ganrif ar bymtheg. Unwaith y dechreuwyd cloddio daeth y dwr hwn hefyd yn ffynhonnell bwysig o gopr. Tynnid y dwr i fyny o'r gweithfeydd mewn bwcedi, neu yn ddiweddarach, gyda chymorth pwer gwynt neu ager neu câl ei arwain yn syth drwy dwneli i gyfres o byllau bas oedd yn cael eu hadnabod fel 'pyllau heyrn'. Teflid llawer iawn o haearn sgrap i'r pyllau nes iddo doddi. Achosai'r adwaith cemegol rhwng yr haearn a'r toddiant copr i'r copr waddodi gan ffurfio llaid copr ar waelod y pyllau.

Gadewid i'r copr lifo o bwll i bwll. gyda llifddorau i'w reoli, fer mwyn alldynnu cymaint o gopr ag yr oedd modd. Câi'r llaid copr ei sychu wedyn a'i fwyndoddi i gynhyrchu gymaint â 30 tunnell o gopr bob blwyddyn.

4 Cwt yr Injan Pearl

Adeiladwyd cwt yr injan a'i injan drawst Gernywaidd i bwmpio dwr o Siafft Pearl 600 tr yng Ngwaith Mona. Efallai i'r injan gael ei defnyddio hefyd i bwmpio ail siafft gyda'r pwer yn cael ei drosgiwyddo drwy gyfrwng 'rodenni fflat'. Yr oedd yn sicr yn ei lle erbyn 1819 pan ymwelodd y gwyddonydd Faraday â Mynydd Parys ac efallai mai hi oedd yr injan Gernywaidd gyntaf yng Nghymru. Ar un adeg safai cwt y boiler. gyda'i simne dal, yn union y tu ôl i'r injan, ond dim ond y sylfaeni a'r cerrig o'r muriau ar wasgar ar hyd y lie sydd i'w gweld yno erbyn hyn.

5 LIew Liwyfo

Ar y Neuadd Goffa ceir plac sy'n coffáu'r bardd a'r ysgohaig lleol. LIew Llwyfo, a fu farw ym 1901.

7 Hen Orsaf y Telegraff

Adeiladwyd Hen Orsaf y Telegraff gan Ymddinedolwyr Bwrdd Porthladd Lerpwl ym 1841 Arferai cadwyn o orsafoedd tebyg basio negeseuon semaffor rhwng Caergybi a'r Merswy, gan roi rhybudd o'r llongau oedd ar fin cyrraedd yn Lerpwl. Pasiwyd y neges cyflymaf a gofnodwyd. gam wrth gam, ar hyd y gadwyn yn ystod arddangosiad arbennig ym 1830. O fewn hanner can mlynedd, fodd bynnag, disodlwyd y drefn gan y telegraff electronig.

 


Gwynedd Archaeological Trust

Cyngor Cymuned Penysarn
Menter Môn

Illustrations © Melinda Cottrell
Contents copyright / Cynnwys hawlfraint: Menter Môn, Cyswllt Cyf, 1997-2000. Arlunydd, Designed by Peter Moore.


menternet