Pentref a'i phobl
Mae pentref Pentraeth wedi'i wenwi oherwydd ei leoliad ar flaen tywodfaen y Traeth Goch. Mae wedi ei leoli ar lan Afon Nodwydd, fu'n gyrru dwy felin, y naill ar gyfer malu grawn a'r llall ar gyfer prosesu gwlân. Mae nifer o grugiau i'r gorliewin o'r pentref yn darparu tystiolaeth o anheddiad dynol cyn gyngared a'r Oes Efydd, ond mae ei bwysigrwydd yng nghyddrestun hanes Cymru yn deililo o frwydr Pentraeth ym 1170. pan laddwyd Hywel ap Owain Gwynedd. y bardd a thywysog. Mae cymuned wedi bodoli yma ers yr Oesoedd Canol o leiaf
,
ond roedd ei dyfiant yn ystod y ddeunawfed ganrif yn rannol o ganhyniad i'w gysylitiad agos a phorthladd llewyrchus Traeth Coch, sy'n dy-ddio or oesoedd canol, ac yn rhannol yn ei leoliad ar y brif fordd.
Siopau a ffeiriau
Roedd y dydd ffair chwarterol ym Mhentraeth yn achlysur pwysig iawn yn y calendr lleol, pan oedd da byw yn llenwi'r ffordd fawr. Roedd ffeiriau hefyd yn gyfleon i brynu nwyddau defnyddiol, nes i Bentraeth gael ei siop gyntaf, un or rhai cynharaf yn yr ardal, tua 1765. John Jones oedd y siopwr cyntaf, ond ei fab, Owen, a ddatblygodd y busnes yn un llewyrchus, ffyniannus. Roedd yr amrywiaeth eang o nwyddau'r oedd yn cael eu cynnig, gan gynnwys nwyddau groser, dilladach a chyffuriau yn cael eu gwerthu yn bennaf i'r teuluoedd amaethyddol mwy ffyniannus, gan fod y bobol cy-foethocaf, fel y Pantoniaid, yn prynu eu nwyd-ddau o Gaer a Llundain. Er bod tiodi gwiri-oneddol yn yr ardal, golygodd prisiau yd uwch bod gwragedd a merched fferm yn dod yn fwy ymwybodol o ffasiwn ac erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif, roeddent yn prynu eu dillad gan Owen Jones.
Pobl Pentraeth
Hywel ap Owain Gwynedd a brwydr Pentraeth
Ym 1170 brwydrodd Hywel, mab anghyfreithlon Owain, Brenin Gwynedd a Gwyddeles o'r enw pyfog, frwydr ym Mhentraeth yn erbyn ei hanner-brodyr am awdurdod yn dilyn marwolaeth eu tad. Diwedd hyn oedd gorchfygiad Hywel a'i farwolaeth. Brwydrodd Hywel gyda'i dad yn yr ymgyrchoedd yn erbyn ac yn gyfochrog â Harri 11 o Loegr. ac roedd yn filwr effeithiol. Roedd Hywel hefyd yn adnabyddus fel bardd a ganodd am brydferthwch naturiol ei ardal frodorol.
Caraf ei morfa a'i mynyddoedd
A'i chaer ger ei choed a'i chain diredd,
A dolydd ei dwfr a'i dyffrynedd,
A'i gwylain gwynion a'i gwymp wragedd.
Caraf ei milwyr a'i meirch hywedd,
A'i choed a'i chedyrn a'i chyfannedd.
(Gorhoffedd Hywel ab Owain)
Ifor Owain Thomas
Ychydig iawn o bobi sydd yn profi gyrfäoedd mor amrywiol ag a wnaeth lfor Owain Thomas, a anwyd ym Mhandy ym Mhentraeth ym 1892. At ô ennill ysgoloriaeth i'r Coleg Cerdd Brenhinol a chyfnod pellach o astudio ym Mharis, gwnaeth ei ymddan-gosiad operatig cyntaf cyhoeddus ym Milan fel Dimitri yn 'Boris Godunov' gan Mus-sourgsky, a Feodor Chaliaplin gyda'r brif ran. Aeth ei berfformiadau operatig dilynol ag ef i Nice, Monte Carlo ac Efrog Newydd, ller ymgartrefodd. Ym 1933 newidiodd yrfaoedd yn sydyn gan ddod yn ffotografydd gyda 'Colliers Magazine'. Yn y 1940au trodd ei olygon at beintlo ac arddangosodd ei waith yn Llundain ac Efrog Newydd. Roedd yn amlwg mewn cymdei-thasau Cymreig yn UDA. hyd ei farwolaeth ym 1956, yn dilyn salwch hir.
Dr John Jones, Deon Bangor
Ganwyd John Jones ym Mhlas Gwyn ym 1650. Fe'i addysgwyd yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt a daeth yn Ddeon Bangor ym 1689. Roedd yn addysgiaethwr brwd a sefydlodd o leiaf naw ysgol elusennol yn y plwyfi yr oedd yn gysylltiedig a hwy. Roedd yn gyfrifol am ddosbarthu llenyddi-aeth Gymraeg ymysg ei blwyfolion, a chynorthwyodd i sefydlu nifer o lifrgelloedd..
Paul Panton
Daeth Paul Panton. o Blas Gwyn (1727-1797), i Ynys Môn trwy ei briodas yn 1756 â Jane, merch John Jones prifswyddog cyfreithiol Biwmares, a gor nith y Deon John Jones, o'i bentref genedigol yng ngogledd-ddwyrain Cymru, Bagillt. Ar ôl graddio o Gaergrawnt, bu'n fargyfreithiwr ond dychwelodd i Gymru i warchod ei ystadau ym Môn a Sir y Fflint. Roedd yn feistr tir oedd yn hoff o ddefnyddio'r technegau diwed-daraf ym myd amaeth. Ymddiddorfa hefyd mewn llenyddiaeth Gymraeg, er mai elfen-nol oedd ei wybodaeth gylyngedig o'r iaith. Roedd yn noddwr amlwg i'r beirdd, a llwyddodd i gadw casgliad sylweddol o lawysgrifau Cymraeg ym Mhlas Gwyn, fyddai ar gael i 'gyfran llenyddol y gymdeithas' iw gweld.
1 Siopau a ffeiriau
Mae'r siopau sydd o gwmpas sgwâr Pentraeth yn cynnal traddodiad o fanwerthu sydd yn dyddio'n ôl i ganol y ddeunawfed ganrif. Mae'r pobydd nawr ar safek Hen Siop a sefydlwyd gyntaf tau 1765, un o siopau cynharaf yr ardal, yn cyflenwi amrywiaeth eang o nwyddau - traddodiad wedi'i gynnal yn bell i ganol yr ugeinfed ganrif yn Cloth Hall, siop oedd yn cael ei hysbysebu ym 1906 gan ei pherchennog, Benjamin Thomas, fel "groser, masnachwr te, gwerthwr nwyddau haearn, masnachwr yd a blawd, gwerthwr hetiau, dilledydd llian a gwlân, gwerthwr esgidiau ac asiant ar gyfer pob math o offerynau."
2 Panton Arms
Rhwng yr eglwys a'r Panton Arms mae'r ffordd bost wreiddiol ar draws Môn, a ddisodlwyd gan ffordd newydd Telford yn y 1820au. Ym 1859, bu'r Panton Arms yn lety i Charles Dickens oedd ar ei ffordd i adrodd hanes drylliad y Royal Charter. Ar ochr gyferbyn y sgwâr roedd y White Lion yn arfer bod, ond erbyn hyn wedi'i ddymchwel - dyna ble'r arhosodd George Borrow, awdur Wild Wales, ym 1854.
3 Eglwys Santes Fair
Dangosir eglwys plwyf Pentraeth yma fel ag yr ymddengys ym 1786. Addaswyd yr eglwys ym 1821 ac eto ym 1882, ond mae'n debyg bod y corff a'r gangell yn dyddio o tua'r ddeuddegfed i'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae bedyddfaen o'r ddeuddegfed ganrif yn y cyntedd sydd wedi'i asio i'r wal. Ynnogystal â'r Eglwys yng Nghymru, roedd gan y Methodistiaid Calfinaidd a'r Annibynwyr ei haddoldai yn y petref. Cofrestrwyd Capel Nasareth ar gyfer y Methodistiaid Calfinaidd ym 1800 ac Ebeneser i'r Annibynnwyr ym 1809.
4 Ysgoldy
Mae'r enw Ysgoldy yn ein hatgoffa o'r ysgol a sefydlwyd yma gan ewyllys Dr John Jones, Deon Bangor,yn y lle y galwodd "man hoff fy ngenedigaeth" ym 1719.
5 Buck Cottage
Daw'r enw anghyffredin yma o'r ffaith mai dyma'r Buck and Stag Inn cynt, un o'r saith tafarn oedd i'w canfod ym Mhentraeth ar un adeg.
6 Y Tair Naid
Yn y cae sydd agosaf at y ffordd, ar yr ochr dde, mae tri pentwr bychan o gerrig, sy'n cael eu hadnabod fel "y tair naid", wedi'u gwahanu gan ddeuddeg a phymtheg llathen. Dwed traddodiad mai dyma'r fan y cystadlodd ybardd Einion ap Gwalchmai am ei darpar wraig Angharad, drwy lamu yn bellach na'i gystadleuydd.
7 Plas Gwyn
Dros y caeau i'r dde mae'n bosibl gweld Plas Gwyn, y ty a adeiladwyd gan William Jones yn y 1740au, a'r fan lle oedd ei fab-yng-ngyfraith Paul Panton yn byw. Ty tri-llawr â thair ochr o amgylch cowrt ydyw, engraifft diddorol o fath Seisnig o dy Sioraidd wedi'i adeiladu o frics ym Môn, er bod ganddo rai ychwanegiadau pedwaredd ganrif ar bymtheg.
8 Traeth Coch
Doedd Pentraeth nid yn unig wedi'i leoli ar y ffordd bost, ond ger porthladd wedi'i amddiffyn hefyd, yn ddiogel rhag y gwyntoedd mwyaf cyffredin. Roedd nwyddau yn cael eu dadlwytho a'u storio yma cyn cael eu cludo gan drol a cheffyl i'r pentref, ac roedd marmor Môn (math o galchfaen) o'r chwareli yn cael ei allforio o'r bae. Roedd tywod o'r trath mor gyfoethog mewn cregyn môr nes ei fod yn gwneud gwrtaill(?) da iawn, ac roedd yn cael ei ddefnyddio yn lleol yn lle calch.
Mae'r llechen goffadwriaethol yn coffáu marwolaeth Hywel ab Owain Gwynedd, y milwr a'r bardd, yn y frwydr yn erbyn ei hanner-brodyr ym Mhentraeth ym 1170 - rhan o'r ymrafael a ddilynodd marwolaeth ei dad, Owain, Brenin Gwynedd.
|