Portaethwy

Mynedfa Ynys Môn

Yr oedd cymuned ym Mhorthaethwy yn oes y Tywysogion. Gellid gweld ffermydd gwasgaredig yma ac acw ar hyd y tirlun gydag eglwys Sant Tysilio ar Ynys Tysilio yn ganolbwynt iddynt. Yr oedd yno felin, o’r enw Melin Bach a dalfeydd pysgod yn defnyddio goredau a wnaed gan ddyn. Yn ddiweddarach, erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg, defnyddiai Melin Heli rym y llanw a’r trai i falu grawn ar Draeth Tysilio. Parhaodd rhan fawr o Gerrig y Borth yn dir Comin tan Ddeddf Cau 1827 ac ychydig oedd yr adeiladau ag eithrio’r rhai yn ymwneud yn uniongyrchol â’r fferi ei hun. Roedd hen ffyrdd Porthaethwy yn mynd o amgylch y pentir, gan wasanaethu’r tair fferi ym Mhorth y Wrach, y Cambria a Chraig yr Halen.
Erbyn y 1780au roedd maint y drafnidiaeth a diflastod y cyhoedd gydag anghyfleustra’r cychod fferi wedi cychwyn dadl fawr i gael hyd i ffordd arall o groesi’r Fenai. Ar ôl bod yn trafod, dadlau a chynllunio am ddeugain mlynedd derbyniwyd cynllun Thomas Telford ar gyfer pont grog. Pan agorwyd y bont yn Ionawr 1826 daeth y traddodiad hir o gychod fferi ym Mhorthaethwy i ben.

Yn ystod oes Victoria, datblygodd y dref fel man gwyliau poblogaidd ar lwybr stemars y glannau. Heddiw, mae Porthaethwy yn ganolfan Astudiaethau’r Môr ac yn mynedfa i ynys hanesyddol Mon

Pontio’r Fenai - Campwaith Telford

Dwy flynedd, cyn aflonydd Pont ar Fenai a fydd

Proffwydodd y bardd Robin Ddu yn yr unfed ganrif ar bymtheg y byddai pont dros Afon Menai, ond bu’n rhaid aros am athrylith Thomas Telford cyn cwblhau’r dasg.

Roedd Fferi Porthaethwy ac eraill yn Llanfaes, Llanidan ac Abermenai wedi gwasanaethu anghenion y teithwyr oedd yn croesi i Fôn am ganrifoedd.Yn ystod y ddeunawfed ganrif fodd bynnag cynyddodd maint y drafnidiaeth yn sylweddol. Gwnaethpwyd gwelliannau i’r ffordd ar hyd yr arfordir ym Mhenmaenmawr yn y 1720au ac ym 1765 gwnaethpwyd y ffordd o Borthaethwy i Gaergybi yn un dyrnpeg. Roedd coetsys bellach yn crosi ym Mhorthaethwy ac er i westy newydd y ‘George’ gael ei ddarparu ar y tir mawr, nid yw’n ymddangos i wyr y fferi ymateb i’r her newydd. Lleisiwyd sawl cwyn ynghlych gweithrediad y cychod fferi yn lleol. Ym 1782 cynhaliwyd cyfarfod o ‘Wyr Bonheddig Môn’ yn y Gwyndy i ystyried cyhuddiadau o orgodi, esgeuluso ac oedi, heb sôn am gyflwr peryglus y cychod. Dechreuwyd yn awr chwilio o ddifrif am ffyrdd eraill o groesi heblaw’r fferi. Ymhlith y syniadau a gafwyd roedd cynlluniau am gob ym Mhwll Ceris neu Ynys Geint a gwahanol gynlluniau am bontydd carreg a phren. Fel y gellid dychmygu, gyda 4000 o longau hwyliau y flwyddyn yn mordwyo ar hyd y Fenai, roedd gwrthwynebiad cryf i’r cynigion hyn.

Gyda Deddf Uno 1801 daeth y mater o gael pont i groesi’r Fenai i’r brig unwaith yn rhagor. Roedd y Goets Bost gyntaf i’r Iwerddon wedi gadael Llundain am Gaergybi ar y 3ydd o Hydref 1785 a bellach ar gyfartaledd roedd dwy goets gyhoeddus yn croesi i Fôn yn rheolaidd bob dydd. Ym 1810 comisiynodd y Senedd Thomas Telford i adrodd ar y llwybr gorau ar gyfer ffordd i groesi gogledd Cymru a Môn ac am bont ar draws y Fenai. Gosodwyd y garreg gyntaf ar y 10ed o Awst 1819.

Tad Peirianneg Sifil

Ganwyd Thomas Telford yn fab i fugail mewn bwthyn bychan ger Megget Water yn Glendinning, Dumfries, ar y 9ed o Awst 1757. Adeiladodd gamlesi, ffyrdd, pontydd, pontydd wr, dociau a phorthladdoedd drwy Brydain ond ystyrir yn gyffredin mai Pont Grog Menai yw ei gampwaith. Yr oedd y bobl a weithiai iddo yn ei barchu’n fawr oherwydd y rhagoriaethau hyn a thynnodd ato’i hun dîm dihafal o beirianwyr a chrefftwyr a’i dilynai o broject i broject. Ym 1820 tra oedd Pont Menai yn cael ei hadeiladu daeth yn Llywydd cyntaf Sefydliad newydd y Peirianwyr Sifil. Bu farw ar yr 2il o Fedi 1834, wyth mlynedd ar ôl i’r bont gael ei hagor.

Y Bont

Llwyddodd cynllun Pont Menai, lle mae’r ffordd ar gyfer cerbydau yn crogi o gadwyni, 100 troedfedd uchwlaw’r dwr ar ei uchaf, i dawelu gwrthwynebiad y rhai oedd yn gweld y bont fel rhwystr posibl i longau. Y canlyniad oedd y bont fwyaf ym Mhrydain yn ei dydd. Roedd anawsterau technegol mawr i’w goresgyn cyn y gellid cyflawni’r campwaith hwn, ac efallai mai’r un agwedd ar y gwaith a barodd fwyaf o bryder i Telford oedd codi’r cadwyni i’w lle. Roedd pob cadwyn yn pwyso 25 tunnell ac roedd 16 cadwyn i’w codi. Llwyddwyd i wneud hyn yn haf 1825 er mawr ryddhad i Telford a bonllefau o gymeradwyaeth gan y gweithwyr a oedd wedi gweithio mor galed. Gwobrwywyd llwyddiant y gwaith ‘gyda digonedd o gwrw a bwyd ... a dangosodd y dynion yr un brwdfrydedd mawr yn mynd i’r afael â hwynt ag yn eu gwaith yn codi’r bont’.

Mae’r bont yn 1500 troedfedd o hyd; rhan ohoni‘n cael ei chynnal gan y tri pier bwaog ar ochr y tir mawr a phedwar pier ar ochr Môn. Mae rhychwant y darn sydd ynghrog rhwng y ddau ‘byramid’, un ohonynt yn gorffwys ar Ynys y Moch, yn 580 troedfedd. Cwblhawyd y bont ac agorwyd hi i’r cyhoedd ar 30ain o Ionawr 1826. Croesodd coets gyntaf y post am 1.30 y bore gyda’r peiriannydd preswyl William Provis yn teithio arni. Y diwrnod canlynol chwifiwyd baneri oddi ar y Pyramidiau a rhoddwyd cinio da gyda digonedd o gwrw i’r gweithwyr.

Rhwng 1938 ac 1941 cryfhawyd y ffordd i gerbydau ar y bont a rhoddwyd cadwyni newydd arni a’u hailunioni i ateb gofynion trafnidiaeth yr ugeinfed ganrif. Rhyddhawyd y Bont rhag toll bryd hynny ac mae’n dal ei gael ei defnyddio heddiw. Mae un o’r tollbyrth gwreiddiol yn dal i sefyll wrth y bont ar ochr y tir mawr.

Yr Afon Menai
rhwystr, llwybr a ffynhonnel bywoliaeth

Ar Y Fenai

Bu’r Fenai yn rhwystr i uchelgais y Rhufeiniaid, y Normaniaid ac Edward 1, brenin Lloegr i gyd yn eu tro. Ar y llaw arall, bu cychod fferi yn gweithio ar draws y Fenai o Borthaethwy ers canrifoedd. Yn ychwanegol at hyn, byddai nifer fawr o gychod, gymaint â 4000 y flwyddyn erbyn y ddeunawfed ganrif, yn teithio ar hyd ffordd y môr rhwng Aber Menai a Bae Conwy. Mae dynion y fferi, morwyr a physgotwyr i gyd wedi ennill eu bywoliaeth o’r Fenai ac mae llawer ohonynt wedi’u claddu ar Ynys Tysilio. Defnyddiwyd grym y llanw a’r trai i droi olwynion melin yn Melin Heli, a gwnaeth dynion goredau er mwyn dal pysgod. Buwyd yn cynaeafu pysgod o’r trapiau hyn ar hyd glannau’r Fenai am ganrifoedd. Cofnodir presenoldeb
melin o’r enw Melin Bach, efallai melin heli debyg i’r un ddiweddarach ar Draeth Tysilio, a gored pysgod hefyd ym Mhorth Aethwy mor gynnar â’r bedwaredd ganrif ar ddeg.


Adeiladwyd Promenâd y Belgiaid, sydd ag enw mor ddiddorol iddi, rhwng 1914 ag 1916 gan ffoaduriaid o Wlad Belg a oedd wedi ymsefydlu ym Mhorthaethwy pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd y promenâd ei drwsio yn y 1960au a’i ailagor ym 1965 gan yr unig aelod o’r grwp gwreiddiol a oedd yn dal yn fyw, Monsieur Eduard Willems o Bonheiden.
Pont Grog Menai, cwblhawyd ym 1826

Gall yr afon fod yn beryglus. Yr enw ar y trobwll peryglus y mae’r Saeson heddiw’n galw y ‘Swillies’ oedd Pwll Ceris - fe’i disgrifiwyd yn nawfed ganrif fel un o ryfeddodau Ynys Môn.
Ym 1953 drylliwyd yr hen long hwyliau rhyfel, y Nile, gyda’i 92 gwn, ar greigiau’r Platters ym 1953,- bryd hynny roedd yn gwasanaethu fel llong hyfforddi hwylio, yr HMS Conway. Torrodd ei chefn wrth iddi geisio rhedeg o flaen y llanw ar y ffordd i Lerpwl i gael ei hail-ffitio.

Yn Ynys Gorad Goch crewyd y trap pysgod anarferol a chlyfar hwn drwy newid rhywfaint ar nodweddion ynys yn y Fenai.

Y tu ôl iddi cwyd amlinell pont drenau diwbilar Robert Stephenson a gwblhawyd ym 1850. Llosgodd y bont mewn tân trychinebus ym 1970. Fe’i hail-adeiladwyd ym 1973 ac mae bellach yn cario ffordd i gerbydau yn ogystal â’r rheilffordd.

Ynys Tysilio

Roedd ynysoedd ym môr y gorllewin yn lleoedd arbennig o sanctaidd i’r Celtiaid paganaidd a pharhaodd y Cristnogion cynnar i’w hystyried felly. Adeiladwyd yr eglwys fechan o rwbel calchfaen, cysegredig i Sant Tysilio, yn y bymthegfed ganrif, er bod yr adeilad presennol bron yn sicr yn cymryd lle un cynharach. Dywed traddodiad, yn hytrach na hanes, fod
Tysilio yn fab i frenin enwog Powys yn y chweched ganrif, Brochfael Ysgythrog. Roedd Brochfael am i’w fab fod yn rhyfelwr ond oedd Tysilio eisoes wedi penderfynu ar yrfa grefyddol. Enciliodd yn gyntaf i Meifod ym Mhowys i ddianc rhag ei dad ac yna i lannau’r Fenai lle sefydlodd ei eglwys.

Mae cofeb i’r rhai fu farw mewn dau ryfel byd bellach yn coroni copa’r ynys.

1 Cerrig y Borth

Yr oedd pentir caregog Cerrig y Borth un waith yn dir cyffredin. Mae rhai o’r llwybrau sy’n ei groesi yn hynafol iawn ac fe’u defnyddid gan boblogaeth fechan, wasgaredig Porthaethwy i gyrraedd y sarn sy’n arwain at Eglwys Sant Tysilio. Ym 1814, cafodd Iarll Uxbridge, a oedd yn nes ymlaen i gael y teitl Marcwis Môn, 41 erw yma a dechreuodd blannu coed. Daethpwyd i adnabod y goedlan hon fel Coed Cyrnol ar ôl rhyw Cyrnol Sandys a oedd yn byw yn ymyl ar droad y ganrif.
Ym 1800 y prif adeiladau ar bentir caregog Cerrig y Borth oedd y rhai a oedd yn gysylltiedig â’r fferi.

2

Y Felin Heli - safle’r felin fôr o’r unfed ganrif ar bymtheg a’r gored bysgod.

3

Ynys Tysilio hanesyddol

4

Promenâd y Belgiaid - adeiladwyd gan ffoaduriaid rhwng 1914 a 1916.

5

Ar y fan lle mae promenâd y Belgiaid yn cyfarfod â Lon Cei Bont yr oedd un waith draeth ymdrochi poblogaidd iawn gyda thros 30 o gytiau ymdrochi.

Yn y tyfiant isel y tu ôl i’r traeth, ceir olion odyn galch a ddefnyddiwyd efallai adeg adeiladu’r bont grog.

6

Meini’r Orsedd. Mae’n coffáu Eisteddfod Genedlaethol ym Mhorthaethwy. Arferai gweithdai Telford sefyll ar y tir hwn oedd wedi’i wastadhau adeg adeiladu’r bont grog.

Y ty gyferbyn yw Summer Court, a elwid gynt yn Menai Lodge. Dywedir i Telford aros yno tra oedd y bont yn cael ei chodi.

7

Pont Grog,campawaith Telford, agorwyd ym 1826.
Dechreuwyd ar y gwaith o baratoi’r tir yn gyntaf ym 1818. Lefelwyd Ynys y Moch, adeiladwyd ceiau a gosodwyd craeniau yn eu lle. Daethpwyd â rheilffyrddd at sylfeini’r bont er mwyn symud defnyddiau. Adeiladwyd gweithdai seiri a gofaint, stordy a swyddfa.
Cloddiwyd cerrig ym Mhenmon a’u cludo ar y môr at y ceiau. Llosgwyd calchfaen mewn odynnau i wneud mortar. Roedd llawer iawn o weithgaredd ar ddwy lan y Fenai ac yn y chwarel ac roedd 200 o ddynion yn gweithio yno i gyd.

8

Ceir llechen ar Y Wenllys ar Ffordd Cambria yn gofeb i Syr Ifor Williams, yr ysgolhaig Cymraeg mawr, a fu’n byw yno rhwng 1913 ac 1947. Oddi tano, ar Lon Cei Bont, ceir bwthyn bychan sydd efallai yn un o’r ychydig adeiladau o’r ddeunawfed ganrif i oroesi ym Mhorthaethwy

9

Ym 1686 rhoddwyd trwydded i adeiladu ty ar gyfer gwyr y fferi ar Gomin Porthaethwy. Daeth hon i fod y dafarn a adwaenid am gyfnod fel y ‘Three Tuns’ ond yn fwy enwog fel y Cambria. Ym 1691 dechreuwyd cynnal ffair ym Mhorthaethwy, ar dir y tu ôl i’r Cambria, gan ychwanegu at faint y drafnidiaeth a oedd eisoes yn mynd i ffeiriau Treborth ar y tir mawr.

10

Porthdy'r Pier Cymdeithas Treftadaeth Bro Porthaethwy
Adeiladwyd tafarn yn Cae’r Glowr, a’i ehangu ym 1777 fel y ‘George’, a daeth y croesiad hwn ym Mhorth y Wrach ym Mhorthaethwy yn brif llwybr ar gyfer cerbydau ag olwynion.

Y Cychod Fferi

Mae’n rhaid bod y fferi hynafol eisoes wedi bodoli yno ers amser maith pan enillodd Llywelyn Fawr ei fuddugoliaeth ‘wrth borth y Fenai ym Mhorthaethwy’ ym 1194. Byddai’r prif groesfan wedi dilyn llwybr fymryn i’r dwyrain o’r bont bresennol, gan lanio rhwng Ynys y Moch a’r garreg hanner llanw. Ond roedd gan Esgob Bangor ei fferi ei hun hefyd, o’r enw Porthesgob, yn mynd a dod rhwng ffordd Gorad, Bangor i Cadnant a glanfeydd eraill. Ym 1188, cymerodd yr Archesgob Baldwin, yng nghwmni Gerallt Gymro, y llwybr hwn i bregethu’r groesgad i Rhodri ab Owain Gwynedd a’i ddynion, ymhlith y creigiau ar lan y môr.
Roedd llawer iawn o dda byw yn croesi’r Fenai. Câi anifeiliaid llai eu cludo drosodd ar y fferi ond roedd yn rhaid i’r gwartheg nofio. Yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg awgrymwyd bob cymaint â 3000 o wartheg y flwyddyn yn nofio o Fôn i’r tir mawr. Disgrifiodd yr Archesgob John Williams y gyrroedd hyn mewn dyfyniad enwog iawn fel ‘llongau trysor Cymru’. Erbyn y 1790au roedd y niferoedd wedi codi i 10000 ac mae disgrifiadau cyfoes yn sôn am y cyffro mawr geid adeg y croesi. Roedd yn rhaid i amseriad y llanw fod yn union gywir.

Oherwydd y gwelliannau wnaed i’r ffordd ym Mhenmaenmawr yn ystod y ddeunawfed ganrif yr oedd hi bellach yn fwy cyfleus i drafnidiaeth Iwerddon, a oedd wedi arfer croesi Traeth Lafan i Fiwmaris, groesi ym Mhorthaethwy. Dechreuodd y goets ddefnyddio’r fferi.
Yn yr ail ganrif ar bymtheg cychod môr bychain crwn yn dal dim mwy na thri ceffyl ar y tro oedd cychod fferi Porthaethwy.

 


Gwynedd Archaeological Trust

Menai Bridge Community Council

Menter Môn

Illustrations © Ian Jones
Contents copyright / Cynnwys hawlfraint: Menter Môn, Cyswllt Cyf, 1997-2000. Arlunydd, Designed by Peter Moore.


menternet